Zygmunt Bauman
Zygmunt Bauman | |
---|---|
Ganwyd | 19 Tachwedd 1925 Poznań |
Bu farw | 9 Ionawr 2017 Leeds |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl, y Deyrnas Unedig |
Addysg | scientific professorship degree |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, cymdeithasegydd, academydd, llenor, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | Polish United Workers' Party |
Priod | Janina Bauman |
Plant | Irena Bauman |
Perthnasau | Michael Sfard |
Gwobr/au | Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Medal y 10fed canmlwyddiant pobol y Pwyl, Gwobr Theodor W. Adorno, Princess of Asturias Award for Communications and Humanities, Croes am Ddewrder, European Amalfi Prize for Sociology and Social Sciences, honorary doctor of the University of Gothenburg, Doctor Honoris Causa at the Vytautas Magnus University, The VIZE 97 Prize |
Cymdeithasegydd Pwylaidd oedd Zygmunt Bauman (19 Tachwedd 1925 – 9 Ionawr 2017). Mae ei waith yn ymwneud â modernedd, prynwriaeth, globaleiddio, ac effeithiau newidiadau economaidd a chymdeithasol ar bobl dlawd.
Ganed yn Poznań, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl. Yn sgil goresgyniad yr Almaenwyr yn 1939, ffoes Bauman a'i deulu i'r Undeb Sofietaidd ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe wasanaethodd mewn llu Pwylaidd dan reolaeth y Fyddin Goch. Yn y cyfnod hwn bu Bauman yn aelod o grŵp Stalinaidd. Dychwelodd i Wlad Pwyl wedi diwedd y rhyfel, ac yn y 1950au fe astudiodd gymdeithaseg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Warsaw. Penodwyd yn athro cymdeithaseg yn Warsaw. Bu'n rhaid iddo ymddiswyddo o ganlyniad i ymgyrch wrth-Semitaidd yn 1968 ac ymfudodd i Israel, ac addysgodd am gyfnod byr yn Tel Aviv ac yn Haifa. Yn 1971 symudodd Bauman i Loegr i gymryd swydd ym Mhrifysgol Leeds. Ymddeolodd o Brifysgol Leeds yn 1991.
Gwobrwywyd iddo Wobr Amalfi yn 1989, Gwobr Theodor W. Adorno yn 1998, a Gwobr Tywysog Astwrias am gyfathrebu a'r dyniaethau yn 2010.[1] Bu farw yn Leeds yn 91 oed.
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- Culture as Praxis (1973).
- Modernity and the Holocaust (1989).
- Modernity and Ambivalence (1991).
- Postmodernity and Its Discontents (1997).
- Globalization: The Human Consequences (1998).
- Liquid Modernity (2000).
- The Individualized Society (2001).
- Wasted Lives: Modernity and Its Outcasts (2003).
- Strangers at Our Door (2016).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Zygmunt Bauman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2020.
- Genedigaethau 1925
- Marwolaethau 2017
- Academyddion yr 20fed ganrif o Wlad Pwyl
- Academyddion yr 21ain ganrif o Wlad Pwyl
- Academyddion Prifysgol Leeds
- Cymdeithasegwyr o Wlad Pwyl
- Llenorion Iddewig o Wlad Pwyl
- Ymfudwyr o Wlad Pwyl i Israel
- Ymfudwyr o Israel i'r Deyrnas Unedig
- Ysgolheigion Pwyleg o Wlad Pwyl
- Ysgolheigion Saesneg o Wlad Pwyl