Vladikavkaz
Math | tref/dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sergo Ordzhonikidze, Sergo Ordzhonikidze, Cawcasws, Unknown |
Poblogaeth | 303,597 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Boris Albegov |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Oseteg, Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Vladikavkaz Urban Okrug |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 291 km² |
Uwch y môr | 692 metr |
Cyfesurynnau | 43.04°N 44.6775°E |
Cod post | 362000–362999 |
Pennaeth y Llywodraeth | Boris Albegov |
Prifddinas gweriniaeth Rwsaidd Gogledd Osetia Vladikavkaz (Rwseg: Владикавказ, Oseteg: Дзæуджыхъæу; Dzæoedzjychæoe). Saif ar afon Terek, rhyw 40 km o'r ffin â Georgia, ac wrth droed Mynyddoedd y Cawcasws. Hi yw dinas bwysicaf ardal Gogledd y Cawcasws. Roedd y boblogaeth yn 2005 tua 317,370, 45% o holl boblogaeth Gogledd Osetia.
Sefydlwyd Vladikavkaz yn 1784 ar orchymyn Grigori Potemkin, fel caer gerllaw pentref Osetaidd. Yn 1799 agorwyd Ffordd Filwrol Georgia, trwy'r mynyddoedd o Vladikavkaz i Tbilisi. Daeth yn ddinas yn 1861. Yn 1931 newidiwyd ei henw i Ordzjonikidze, ar ôl y Bolshefic Georgaidd Grigol Ordzjonikidze; o 1944 hyd 1954 gelwid hi yn Dzaoedzjikaoe, yna o 1954 hyd 1990 yn Ordzjonikidze eto. Yn 1990, newidiwyd ei henw yn ôl i Vladikavkaz.