iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: https://cy.wikipedia.org/wiki/Rhosyn
Rhosyn - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Rhosyn

Oddi ar Wicipedia
Rhosod
Hen fath o rosyn: Rosa bracteata
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Is-deulu: Rosoideae
Genws: Rosa
L.
Rhywogaethau

mwy na 100

Planhigyn blodeuol yw'r rhosyn (Lladin: rosa, teulu'r Rosaceae) sy'n cael ei dyfu oherwydd ei harddwch a'i arogl ac sy'n tarddu'n wreiddiol o Bersia, ac felly hefyd tarddiad yr enw Saesneg rose via yr Hen Roeg rhodon sef 'coch'. Credir bod dros 10,000 gwahanol o fath o rosod ar gael.[1]

Mae’r ymadrodd Lladin sub rosa yn golygu ‘dan y rhosyn’ yn llythrennol ac fe’i defnyddir i olygu ‘yn gyfrinachol’.

Y rhosyn mewn llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Ceir llawer iawn o gyfeiriadau at y rhosyn mewn llenyddiaeth Gymraeg a llawer o ieithoedd eraill gan gynnwys hen benillion a chaneuon traddodiadol megis:

"Dau rosyn coch a dau lygad du
Yn y baw a'r llaca o Syr!" mynte hi.

Rhinweddau meddygol

[golygu | golygu cod]

Defnyddir y Rosa gallica fel te iachusol a chaiff ei dyfu yn Swydd Rydychen a Swydd Derby i'r perwyl hwn, a thrwy'r byd. Mae blodau'r math hwn yn borffor tywyll ac yn felfedaidd. Yn wir, gellir defnyddio unryw fath o rosyn sydd â phetalau coch neu borffor i wella peswch, dolur gwddw a gwaedlif. Gellir eu defnyddio hefyd y tu allan i'r corff, mewn bwltis.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato