iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: https://cy.wikipedia.org/wiki/Port_(gwin)
Port (gwin) - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Port (gwin)

Oddi ar Wicipedia

Gwin cadarn o Bortiwgal sy'n cael rei gynhyrchu gyfda gwirodydd grawnwin sydd wedi'u distyllu yn Nyffryn Duoro yn nhaleithiau gogleddol Portiwgal yw Gwin Port (a elwir hefyd yn vinho do Porto, Porto, ac fel arfer yn cael ei gyfeirio ato fel port yn unig).[1] Mae fel arfer yn win melys, coch, ac yn aml yn cael ei weini fel gwin pwdin, er bod hefyd mathau sych, lled-sych a gwyn i'w cael. Mae gwinoedd cryfach yn arddull port hefyd yn cael eu cynhyrchu y tu allan i Bortiwgal, gan gynnwys yn Awstralia, Ffrainc, De Affrica, Canada, India, yr Ariannin, Sbaen, a'r Unol Daleithiau. Dan ganllawiau Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd, dim ond y cynnyrch o Bortiwgal y gellir ei labelu fel port neu Porto.[2] Yn yr Unol Daleithiau, gall gwinoedd sydd wedi'u labelu fel "port" ddod o unrhyw le yn y byd,[3] tra bod yr enwau "Oporto", "Porto", a "Vinho do Porto" wedi eu hadnabod fel enwau ar gyfer gwinoedd port sy'n tarddu o Bortiwgal.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Porter, Darwin & Danforth Price (2000) Frommer's Portugal 16th ed. IDG Books Worldwide, Inc.
  2. Labelling of wine and certain other wine sector products Europa.eu
  3. "Office of the Law Revision Counsel, U.S. House of Representatives"
  4. United States Code of Federal Regulations[dolen farw]