iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: https://cy.wikipedia.org/wiki/Pat_Nixon
Pat Nixon - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Pat Nixon

Oddi ar Wicipedia
Pat Nixon
GanwydThelma Catherine Ryan Edit this on Wikidata
16 Mawrth 1912 Edit this on Wikidata
Ely, Nevada‎ Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mehefin 1993 Edit this on Wikidata
Park Ridge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Fullerton College
  • Prifysgol De Califfornia
  • USC Marshall School of Business
  • USC Rossier School of Education
  • Excelsior High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, gwleidydd, actor llwyfan Edit this on Wikidata
SwyddIs-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau, Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
PriodRichard Nixon Edit this on Wikidata
PlantTricia Nixon Cox, Julie Nixon Eisenhower Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Rhyddid yr Arlywydd, Urdd Arloeswyr Liberia, Urdd yr Haul Edit this on Wikidata
llofnod
Pat Nixon

Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 1969 – 9 Awst 1974
Arlywydd Richard Nixon
Rhagflaenydd Lady Bird Johnson
Olynydd Betty Ford

Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 1953 – 20 Ionawr 1961
Arlywydd Dwight D. Eisenhower
Rhagflaenydd Jane Barkley
Olynydd Lady Bird Johnson

Geni

Roedd Thelma Catherine "Pat" Nixon (Ryan yn gynt; 16 Mawrth 191222 Mehefin 1993) yn wraig i Richard Nixon, 37ain Arlywydd yr Unol Daleithiau. Gwasanaethodd fel Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1969 tan ymddiswyddiad ei gŵr ym 1974 oherwydd sgandal Watergate. Daliodd y swydd Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1953 i 1961.

Magwraeth ac addysg

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Ely, Nevada, a'i magwyd gyda'i dau frawd yn Cerritos, Califfornia. Morwr a mwynwr aur o dras Wyddelig oedd ei thad, William M. Ryan Sr., a'i mam Katherine Halberstadt o dras Almaenig.[1] Fe'i galwyd yn "Pat" gan ei thad, gan gyfeirio at y ffaith iddi gael ei geni ddiwrnod cyn Gŵyl Sant Padrig.

Fe'i derbyniwyd ar gwrs ym Mhrifysgol De Califfornia a thalodd am y cwrs hwnnw drwy weithio mewn fferyllfa, swyddfa, ysbyty fel radiograffydd ac fel clerc. Priododd Richard Nixon yn 1940 a chawsant ddau o blant.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "First Lady Biography: Pat Nixon". The National First Ladies Library. 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-09. Cyrchwyd Awst 15, 2007.
Rhagflaenydd:
Lady Bird Johnson
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau
19691974
Olynydd:
Betty Ford