Orlande de Lassus
Orlande de Lassus | |
---|---|
Ganwyd | 1532 Mons |
Bu farw | 14 Mehefin 1594 München |
Dinasyddiaeth | Habsburg Netherlands |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, côr-feistr |
Swydd | côr-feistr |
Adnabyddus am | Lagrime di San Pietro |
Arddull | motêt, poliffoni, cerddoriaeth y Dadeni |
Plant | Regina di Lasso, Ferdinando di Lasso, Rudolph di Lasso |
Gwobr/au | Urdd y Sbardyn Aur |
Cyfansoddwr o'r Iseldiroedd yng nghyfnod y Dadeni oedd Orlande de Lassus (hefyd Roland de Lassus, Orlando di Lasso, Orlandus Lassus, Orlande de Lattre a Roland de Lattre; 1532, efallai 1530 – 14 Mehefin 1594).
Ganwyd ym Mons yn Iseldiroedd yr Hapsbwrgiaid. Yn ddeuddeg oed gadawodd yr Iseldiroedd ac aeth i'r Eidal fel canwr ac yn ddiweddarach fel maestro di cappella (cyfarwyddwr cerdd) mewn llysoedd ac eglwysi ym Mantova, Napoli a Rhufain. Yn 1555 dychwelodd i'r Iseldiroedd. Cyhoeddwyd rhai o'i gyfansoddiadau cynnar yn Antwerp (1555–6).
Yn 1556 aeth i München i weithio fel canwr yn llys Albrecht V, Dug Bafaria a oedd â'r uchelgais o greu sefydliad cerdd cystal ag unrhyw un o brif lysoedd yr Eidal. Priododd Lassus ym 1558. Ar ôl 1563 daeth yn maestro di cappella ym Mûnich, a gwasanaethodd Albrecht a'i etifedd Wilhelm V am weddill ei oes (dros 30 mlynedd). Sefydlodd enw da yn rhyngwladol fel cyfansoddwr, a chyhoeddwyd llawer o'i weithiau. Teithiodd dramor yn aml, a chafodd ei urddo gan Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig a chan Pab Grigor XIII.
Roedd yn gyfansoddwr toreithiog ac amryddawn. Ysgrifennodd dros 2,000 o weithiau ym mhob math o gerddoriaeth leisiol ei oes (yn yr ieithoedd Lladin, Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg). Cyhoeddwyd 141 o gasgliadau o'i waith yn ystod ei oes a'r 25 mlynedd wedyn.