Niwl
Cwmwl o ddiferion dŵr yn yr atmosffer is sy'n cyfyngu gwelededd i 1000 m neu'n llai yw niwl.[1][2]
Mathau o niwl
[golygu | golygu cod]- Mwrllwch
Math o niwl llygredig yw mwrllwch (Saesneg, smog).
- ”Mwg Sipsiwn”
Ymadrodd o rai mannau yng Nghymru yw hwn i ddisgrifio’r carpiau o niwl uwchben ardaloedd di-dor o goed dan amodau arbennig (sy’n ysgogi dychmygu gwersyll o sipsiwn yn y coed). Math o gwmwl stratus yw hyn. Ar ôl sbelen o law mae’r gwynt yn aml yn disgyn; mae’r aer uwchben y coed yn llaith (wedi ei fwyhau gan drydarthiad y coed). Mae’r aer union uwchben yr ardal coed yn dueddol o fod yn fwy claear na’r mannau mwy agored oherwydd effaith cysgodol y coed, sydd yn ei dro yn cyddwyso’r gwlybaniaeth ac yn ysgogi’r glaw i ffurfio carpiau o niwl. Pan dderfydd y glaw mae’r niwl yn dueddol o godi fymryn dan ddylanwad cerryntoedd aer dyrchafol (megis y ffordd y mae niwl mwy trwchus yn ymffurfio’n haenen o gwmwl isel ychydig uwchben y ddaear). O’r diwedd, wrth i’r gwynt godi, mae’r awyr yn cynhesu a’r haul yn gwneud ei waith, mae’r carpiau niwl yn ymwasgaru[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) What is fog?. Swyddfa'r Tywydd. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
- ↑ (Saesneg) fog (weather). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
- ↑ Cyfieithad o esboniad y meteorolegydd Huw Holland Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 40 [1]