iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: https://cy.wikipedia.org/wiki/Nia_Griffith
Nia Griffith - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Nia Griffith

Oddi ar Wicipedia
Nia Griffith
AS
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
Yn ei swydd
Dechrau
6 Ebrill 2020
Arweinydd Keir Starmer
Cysgodi Simon Hart
Rhagflaenydd Christina Rees
Yn ei swydd
13 Medi 2015 – 27 Mehefin 2015
Arweinydd Jeremy Corbyn
Cysgodi Stephen Crabb
Alun Cairns
Simon Hart
Rhagflaenydd Owen Smith
Olynydd Paul Flynn
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Amddiffyn
Yn ei swydd
6 Hydref 2016 – 6 Ebrill 2020
Arweinydd Jeremy Corbyn
Cysgodi Michael Fallon
Gavin Williamson
Rhagflaenydd Clive Lewis
Aelod Seneddol
dros Llanelli
Yn ei swydd
Dechrau
5 Mai 2005
Rhagflaenydd Denzil Davies
Mwyafrif 7,095 (18.4%)
Manylion personol
Ganwyd Nia Rhiannon Griffith
(1956-12-04) 4 Rhagfyr 1956 (67 oed)
Dulyn, Iwerddon
Plaid wleidyddol Llafur
Alma mater Coleg Somerville, Rhydychen
Prifysgol Bangor
Gwefan Gwefan swyddogol

Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Llanelli yw Nia Rhiannon Griffith (ganwyd 4 Rhagfyr 1956).

Cafodd ei phenodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru gan arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn ar 13 Medi 2015,[1] gan ymddiswyddo ar 27 Mehefin 2016.[2]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Daw ei theulu o bentrefi glofaol ger Castell Nedd. Ganwyd hi yn Nulyn yn yr Iwerddon a'i haddysgu yn Ysgol Uwchradd Newland yn Hull a Choleg Somerville, Rhydychen. Cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Ieithoedd Modern yno. Dilynodd gwrs hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a bu'n athrawes, yn ymgynghorydd addysg ac Arolygwr Estyn cyn dod yn Aelod Seneddol. Mae'n medru siarad pum iaith: Cymraeg; Saesneg; Eidaleg; Ffrangeg a Sbaeneg.

Fe etholwyd Nia i'r Tŷ'r Cyffredin yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, yn dilyn ymddeoliad Denzil Davies. Enillodd y sedd gyda mwyafrif o 7,234 o bleidleisiau. Traddododd ei haraith gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar Fai’r 19eg, 2005 [1]. Yn y Senedd, mae hi’n aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig yn ogystal â’r Pwyllgor Archwilio Ewropeaidd.

Ymunodd Nia Griffith â’r Blaid Lafur ym 1981. Yn y gorffennol, bu hi’n Ysgrifenyddes Plaid Lafur Sir Gaerfyrddin. Etholwyd hi yn Gynghorydd i Gyngor Tref Caerfyrddin ym 1987. Gwasanaethodd fel Siryf ym 1997 a Dirprwy Faer ym 1998. Ei phrif ddiddordebau gwleidyddol yw Ewrop a’r amgylchedd.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae'n ferch i'r Athro T. Gwynfor Griffith (1926–2019) a Dr Rhiannon Howell (bu farw 1980). Mae ganddi ddwy chwaer, Siân a Megan, y ddwy ohonynt yn feddygon. Mae wedi ysgaru; roedd ei chyn ŵr yn weithiwr cymdeithasol.[3][4] Mewn llun grŵp o wleidyddion LHDT wedi ei dynnu ar gyfer papur The Independent ym mis Chwefror 2016, daeth allan fel lesbiad, gan ddweud bod ei rhywioldeb yn hysbys ymysg ei ffrindiau, ei theulu a'i chydweithwyr ers canol y 1990au.[5]

Mae'n berchen ar dŷ yn Llanelli, fflat yn Llundain,[6] a thyddyn yn Sir Gaerfyrddin sy'n cael nawdd Tir Gofal.[7] Mae ei diddordebau'n cynnwys cerddoriaeth, sinema Ewropeaidd, garddio, cerdded a seiclo.[8][9]

Cyhoeddiad

[golygu | golygu cod]
  • 100 Ideas for Teaching Languages by Nia Griffith, 2005, Continuum International Publishing Group ISBN 0826485499

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.theguardian.com/politics/2015/sep/14/jeremy-corbyn-labour-shadow-cabinet-in-full/37590[dolen farw]
  2. Syal, Rajeev; Perraudin, Frances (27 Mehefin 2016). "Shadow cabinet resignations: who has gone and who is staying". The Guardian. Cyrchwyd 27 Mehefin 2016.
  3. Dod's parliamentary companion guide ... - Google Books
  4. This is South Wales | The Labour Party's hopeful, Nia Griffith
  5. http://www.independent.co.uk/news/uk/politics/gay-mps-the-photograph-that-shows-westminsters-attitude-towards-lgbt-politicians-is-changing-a6886771.html
  6. MPs' expenses: Full list of MPs investigated by the Telegraph - Telegraph
  7. TheyWorkForYou
  8. "WPR - Nia Griffith MP". Parliamentaryrecord.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-15. Cyrchwyd 2012-08-20.
  9. Dod's parliamentary companion - Google Books

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Denzil Davies
Aelod Seneddol dros Lanelli
2005 – presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Owen Smith
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
3 Medi 2015 – presennol
Olynydd:
deiliaid