Metr
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | unedau sylfaenol SI, uned mesur hyd, uned sylfaen UCUM, metric unit |
---|---|
Rhan o | system o unedau MKSA, System Ryngwladol o Unedau, system o unedau MKS |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Uned sylfaenol y System Ryngwladol o Unedau yw'r metr, neu medr (symbol: m), a ddefnyddir i fesur hyd. Hwn yw'r uned sylfaenol yn y system fetrig ddefnyddir ledled y byd yn gyffredinol ac yn wyddonol.
Ceir 100 centimetr mewn 1 metr ac mae 1000 o fetrau'n gwneud 1 cilometr.
Diffiniad
[golygu | golygu cod]Wedi diffinio maint yr eiliad, mae maint y metr yn sefydledig ar y ffaith mai 299,792,458 m/s (metr yr eiliad) ydy cyflymder golau yn fanwl.
Archebwyd y metr hwn mewn marmor gan Convention nationale Ffrainc i annog y defnydd o'r system fetrig newydd. O'r 16 metr o'r fath a luniwyd rhwng 1796 a 1799 ar gyfer llefydd prysuraf Paris, dim ond dau sydd i'w weld heddiw yn y brif ddinas.