Libanus
- Am y pentref yng Nghymru, gweler Libanus, Powys; am ddefnyddiau eraill, gweler Libanus (gwahaniaethu).
Gweriniaeth Libanus الجمهوريّة اللبنانيّة (ynganiad: al-Jumhūrīyah al-Lubnānīyah) | |
Arwyddair | Libanus: Y Wefr o Fyw |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gwlad |
Prifddinas | Beirut |
Poblogaeth | 6,100,075 |
Sefydlwyd | 1516 (Ffurfiwyd) 22 Tachwedd 1943 (Annibyniaeth oddi wrth Ffrainc |
Anthem | Anthem Genedlaethol Libanus |
Pennaeth llywodraeth | Najib Mikati |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00, EET, Amser Haf Dwyrain Ewrop, Asia/Beirut |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia, Asia |
Gwlad | Libanus |
Arwynebedd | 10,452 ±1 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Syria, Israel |
Cyfesurynnau | 33.83333°N 35.76667°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Libanus |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Libanus |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Libanus |
Pennaeth y Llywodraeth | Najib Mikati |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $23,132 million |
Arian | punt Libanus |
Canran y diwaith | 6 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.714 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.706 |
Gwlad fach fynyddig yn y Dwyrain Canol ar lan ddwyreiniol y Môr Canoldir yw Gweriniaeth Libanus neu Libanus (Arabeg: الجمهورية اللبنانية; Saesneg: Lebanon). Mae'n ffinio â Syria i'r gogledd a'r dwyrain a gydag Israel i'r de. Mae baner Libanus yn cynnwys delwedd cedrwydden Libanus yn wyrdd yn erbyn cefndir gwyn gyda stribed coch llorweddol ar y brig a'r gwaelod.
Cafodd y wlad ei henw oddi wrth gadwyn Mynydd Libanus, sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de am tua 160 km i'r dwyrain o'r arfordir. Mae "Laban" yn golygu "gwyn" mewn Aramaeg.
Prif ddinasoedd
[golygu | golygu cod]Hanes Ddiweddar
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd Libanus ei hanibyniaeth 22 Tachwedd 1943, gan gadw ffiniau Libanus Fawr (1920 - 1926), wedi misoedd o brotestio. Ymddangosodd arweinwyr megis Béchara el-Khoury a Riad El Solh, a datblygodd y syniad o gyfamod cenedlaethol ble fyddai'r system wleidyddol yn gweithio'n drawsgymunedol, gyda'r Arlywydd yn dod o'r gymuned fwslemaidd a'r Prif Weinidog o'r gymuned gristnogol er enghraifft.
Cyfeirid at y wlad fel "Swistir y Dwyrain Canol" rhwng y 1950au a'r 1970au, oherwydd presenoldeb nifer o fanciau, wrth i economi Libanus ddatblygu'n gyflym ochr yn ochr ag isadeiladwaith a'r wladwriaeth, yng nghyfnodau Camille Chamoun a Fouad Chéhab yn arlywyddion.
Ar yr un pryd, roedd Libanus hefyd yn wynebu tensiynau cymdeithasol, ynghyd â chanlyniadau creu gwladwriaeth Israel. Mudodd 120,000 o Balesteiniaid i'r wlad o 1948 ymlaen. Tynnwyd Libanus fesul dipyn i'r Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd, yn enwedig wedi diwedd y 1960au gyda Chytundeb Cairo a Mis Medi Du. Ystyrir i'r cytundeb gwthio'r wlad tua'r rhyfel cartref a barodd rhwng 1975 a 1990, gyda chymysgedd o ffactorau gwleidyddol, crefyddol a'r maffia.
Meddianwyd Libanus gan Syria wedi Cytundeb Taëf ym 1989, gan barhau felly nes 2005. Ansefydlog bu hanes cynnar Ail Weriniaeth Libanus, gyda'r gwrthdaro yn 2007 a 2008, ac eto yn 2014-2016 cyn ethol Michel Aoun yn arlywydd. Ochr yn ochr â hynny, mae'r wlad yn parhau i wynebu problemau sylweddol o'i hamgylch, gan gynnwys rhyfel gydag Israel yn 2006 yn ogystal â Gwrthryfel Syria.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Arabeg yw'r brif iaith gyda Ffrangeg yn ail iaith swyddogol. Mae Libanus yn adnabyddus yn y Dwyrain Canol am ei chymdeithas gymysg, ond mae'n wlad a rwygir gan wahaniaethau crefyddol hefyd, gyda tua hanner y boblogaeth yn Gristnogion o sawl enwad a'r hanner arall yn Fwslimiaid.
Ar un adeg cyfeirid at Beirut fel "Paris y Lefant" a nodweddid gan ei bywyd cosmopolitaidd, soffistigedig. Mae'n aros yn un o ganolfannau diwylliannol pwysicaf y Byd Arabaidd, yn enwedig ym myd llenyddiaeth, cerddoriaeth a newyddiaduraeth.
Mae coginio a bwyd Libanus yn enwog hefyd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
|
|