Lee Harvey Oswald
Lee Harvey Oswald | |
---|---|
Ganwyd | 18 Hydref 1939 New Orleans |
Bu farw | 24 Tachwedd 1963 Parkland Memorial Hospital |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweithiwr |
Cyflogwr | |
Tad | Robert Edward Lee Oswald |
Mam | Marguerite Oswald |
Priod | Marina Oswald Porter |
llofnod | |
Y saethwr cudd a lofruddiodd John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn Dallas, Texas, ar 22 Tachwedd 1963 oedd Lee Harvey Oswald (18 Hydref 1939 – 24 Tachwedd 1963), yn ôl archwiliadau gan yr FBI ym 1963, Comisiwn Warren ym 1964, Pwyllgor Dethol y Tŷ ar Fradlofruddiaethau ym 1979, ac Adran Heddlu Dallas.
Roedd Oswald yn gyn-Fôr-filwr a wnaeth ffoi i'r Undeb Sofietaidd yn Hydref 1959, ond symudodd yn ôl i'r Unol Daleithiau ym Mehefin 1962. Cafodd Oswald ei arestio am lofruddiaeth y heddwas J. D. Tippit, a gafodd ei ladd tua 45 munud wedi bradlofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy. Cafodd Oswald ei gyhuddo'n hwyrach o lofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy hefyd, ond gwadodd y ddau gyhuddiad. Dau ddiwrnod yn hwyrach, tra'n cael ei drosglwyddo o bencadlys Heddlu Dallas i ddalfa'r sir, cafodd Oswald ei saethu'n farw gan Jack Ruby wrth i gamerâu teledu ddarlledu'r digwyddiad yn fyw.
Daeth yr FBI, Heddlu Dallas, a Chomisiwn Warren i'r casgliad y wnaeth Oswald targedu Kennedy ar ben ei hunan, gan danio tair ergyd ato. Er tystiolaeth fforensig, balistig, ac amgylchiadol o blaid y theori hon, mae nifer o'r cyhoedd Americanaidd wedi gwrthod "theori'r un saethwr" (Saesneg: lone gunman theory).[1] Yn ôl adroddiad Pwyllgor Dethol y Tŷ ar Fradlofruddiaethau, Oswald oedd yn gyfrifol am saethu Kennedy'n farw ond "mae tystiolaeth acwstig wyddonol yn dangos tebygolrwydd uchel taw dau saethwr oedd yn saethu at yr Arlywydd John F. Kennedy".[2][3]
Dysgwyd Rwseg i Oswald gan Stanislau Shushkevich, y dyn, a ddaeth maes o law yn Arlywydd gyntaf Belarws ac a lofnododd y Gytundeb Belavezha a ddaeth â'r Undeb Sofietaidd i ben yn 1991.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gallop: Most Americans Believe Oswald Conspired With Others to Kill JFK". Gallup.com. Cyrchwyd 2012-12-24.
- ↑ "Summary of Findings and Recommendations". Report of the Select Committee on Assassinations of the U.S. House of Representatives. Washington, D.C.: United States Government Printing Office. 1979. t. 3.
- ↑ House Select Committee on Assassinations Final Report, pp. 65-75.