Kings of Leon
Enghraifft o'r canlynol | band roc |
---|---|
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Label recordio | Sony Music |
Dod i'r brig | 2000 |
Dechrau/Sefydlu | 1999 |
Genre | roc amgen |
Yn cynnwys | Caleb Followill, Nathan Followill, Jared Followill, Matthew Followill, Joaquin Godoy |
Gwefan | https://kingsofleon.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Kings of Leon yn fand roc Americanaidd a gafodd ei ffurfio yn Nashville, Tennessee ym 1999. Mae'r band yn cynnwys tri brawd - Anthony 'Caleb' Followill (g. Ionawr 14, 1982 gitar rhythm a llais), Ivan Nathan Followill (g. Mehefin 26, 1979 drymiau, offerynnau taro, llais cefndir), Michael Jared Followill (g. Tachwedd 20, 1986 gitar fas, llais cefndir), a'u cefnder Mathew Followill (g. Medi 10, 1984 gitar flaen, llais cefndir). Mae'r band wedi ennill 'Gwobr BRIT' a Gwobr Grammy. Roedd cerddoriaeth cynharaf y band yn gymysgedd o ddylanwadau roc deheuol a roc garej. Ers hynny, mae'r band wedi arbrofi gydag amrywiaeth o ddulliau. Ers y rhyddhawyd eu caneuon cyntaf yn 2003, maent wedi datblygu o fod yn fand annibynnol i fod yn fand hynod boblogaidd yn rhyngwladol, yn enwedig yn y DU ac yn Awstralia. Gwelodd y band dŵf yn eu poblogrwydd yn yr Unol Daleithiau hefyd yn sgîl eu halbwm "Only by the Night" (2008). Erbyn 2009, roedd y Kings of Leon wedi cael 8 sengl yn Siart y 40 Uchaf yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys y sengl "Sex on Fire" a aeth i rif un.
Disgograffiaeth
[golygu | golygu cod]- Youth and Young Manhood (2003)
- Aha Shake Heartbreak (2004)
- Because of the Times (2007)
- Only by the Night (2008)
- Come Around Sundown (2010)
- Mechanical Bull (2013)
- Walls (2016)
- When You See Yourself (2021)
- Can We Please Have Fun (2024)