iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: https://cy.wikipedia.org/wiki/Howard_Hughes
Howard Hughes - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Howard Hughes

Oddi ar Wicipedia
Howard Hughes
GanwydHoward Robard Hughes Jr. Edit this on Wikidata
24 Rhagfyr 1905 Edit this on Wikidata
Houston Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 1976 Edit this on Wikidata
Houston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Technoleg California
  • Prifysgol Rice
  • The Thacher School
  • Fessenden School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, hedfanwr, military flight engineer, entrepreneur, dyfeisiwr, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
TadHoward R. Hughes, Sr. Edit this on Wikidata
MamAllene Stone Gano Edit this on Wikidata
PriodElla Botts Rice, Jean Peters Edit this on Wikidata
PartnerTerry Moore, Katharine Hepburn Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur y Gyngres, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.hhmi.org/ Edit this on Wikidata
llofnod

Gŵr busnes ac entrepreneur o dras Gymreig o Unol Daleithiau America oedd Howard Robard Hughes, Jr. (24 Rhagfyr 19055 Ebrill 1976). Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn awyrenau, buddsoddi, peirianneg a chreu ffilmiau. Daeth i amlygrwydd bydeang yn y 1920au yn y 1920au drwy greu ffilmiau yn Hollywood - rhai drudfawr ac yn aml - dadleuol ee The Racket (1928), Hell's Angels (1930), Scarface (1932), a The Outlaw (1943). Yn ystod ei oes, roedd yn un o bobl gyfoethoca'r byd, gan wneud ei arian ei hun yn hytrach na thrwy etieddu arian.

Ymhlith ei gariadon roedd: Billie Dove, Bette Davis, Ava Gardner, Olivia de Havilland, Katharine Hepburn, Ginger Rogers a Gene Tierney; gofynnodd i Joan Fontaine ei briodi sawl tro, heb fawr o lwc.

Yn dilyn hyn, ffurfiodd The Hughes Aircraft Company a huriodd lawer o beiriannwyr a chynllunwyr. Treuliodd weddill y 1930au yn sefydlu sawl record hedfan, cynhyrchodd yr Hughes H-1 Racer a'r H-4 "Hercules" (a adnabyddir ar lafar fel y "Spruce Goose") a phrynodd ac ehangodd y Trans World Airlines (TWA), a werthwyd yn ddiweddarach i gwmni American Airlines[1]. Prynodd hefyd Air West a'i ailenwi'n Hughes Airwest; gwerthodd y cwmni hwn yn ei dro i Republic Airlines (1979–1986).

Rhestrwyd Hughes yn rhestr y Flying Magazine o 50 'Arwr y Byd Hedfan', gan ddod yn 25fed.[2] Fe'i cofir yn benaf am ei arian anhygoel, ei ymddygiad ecsentrig, gwahanol ac am dreulio'i flynyddoedd olaf fel meudwy. Etifeddwyd ei waddol ariannol gan elusen a sefydlodd i ymchwilio i ddatblygiadau meddygol: Howard Hughes Medical Institute.

Cyndadau

[golygu | golygu cod]

Roedd ei dad, Howard Robard Hughes, yr Hynaf (9 Medi 1869 – 14 Ionawr 1924), hefyd yn ŵr busnes a ffurfiodd Hughes Tool Company, a'i daid Felix Turner Hughes (10 Tachwedd 1837, Millstadt, Illinois – 19 Hydref 1926, Los Angeles, California), yn farnwr. Cyn hynny bu Felix yn filwr ym Myddin yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America, ac roedd yn fab i Joshua Waters Hughes (g. 15 Hydref 1808) a Martha Askins; roedd yn ofaint.[3][4] Ganwyd ei dad William Hughes tua 1780, priododd tua 1807, Judith Hughes, (g. 1790), merch Josiah Hughes).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-06. Cyrchwyd 2015-10-05.
  2. "51 Heroes of Aviation." Archifwyd 2017-07-02 yn y Peiriant Wayback Flying magazine; adalwyd Rhagfyr 2014.
  3. www.genealogy.com; adalwyd Hydref 2015
  4. Gweler: "Genealogy of Howard Robard Hughes Jr" gan Mary Smith Fay, yn y National Genealogical Quarterly, Mawrth 1983, Cyfrol 71 #1, tud 5-12.