Heddwch
Absenoldeb gwrthdaro neu ryfel yw heddwch.
Mae gan y Cenhedloedd Unedig lu cadw heddwch sef byddin sy'n ceisio datrys gwrthdaro rhwng pobl neu wledydd. Ond nid yw'r llu cadw heddwch yn llu di-drais gan ei bod yn defnyddio trais os oes rhaid i gadw'r heddwch. Mae'r syniad o ddefnyddio trais neu ryfel i greu heddwch yn hen; rhyfel cyfiawn yw'r ymadrodd a ddefnyddir. Dywedwyd ar y pryd fod y Rhyfel Byd Cyntaf i fod yn "rhyfel i orffen neu ddiweddu pob rhyfel". Ond bu rhyfeloedd ar ôl y rhyfel hwnnw. Cred heddychwyr nad yw trais na rhyfela yn creu heddwch mewn gwirionedd. Mae yna enghreifftiau o drais yn cael eu defnyddio i oresgyn a thawelu pobl, megis y Pax Romana (Heddwch Rhufeinig) dan yr Ymerodraeth Rufeinig, neu fel y gwnaeth y Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru, a'r Ymerodraeth Brydeinig mewn sawl gwlad arall yn y byd (gweler Imperialaeth). Ond dadlau heddychwyr fod ceisio heddwch trwy drais yn ofer, ac mai trwy gyfiawnder mae creu gwir heddwch.
Heddwch a chrefydd
[golygu | golygu cod]Mae sawl crefydd yn annog heddwch, Bwdhaeth, Cristnogaeth ac Islam er enghraifft (yn wir, heddwch yw un o ystyron y gair الإسلام). Fodd bynnag, mae rhai anffyddwyr yn honni fod crefydd yn achosi gwrthdaro.
Mae yna air Cymraeg arall sydd ag ystyr tebyg i "heddwch" sef "tangnefedd". Yn ôl Cristnogion, mae angen cyfiawnder i gael gwir dangnefedd, ac ni cheir tangnefedd drwy drais ond "trwy garu ein gelynion".[angen ffynhonnell]
Mudiadau heddwch
[golygu | golygu cod]Mae yna nifer o fudiadau sy'n gweithio dros heddwch yng Nghymru, megis CND a Chymdeithas y Cymod, a hefyd nifer o grwpiau heddwch a chyfiawnder lleol. Mae'r mudiadau yma'n ymgyrchu yn erbyn rhyfel a thrais yn y byd.