Friedrich Dürrenmatt
Friedrich Dürrenmatt | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ionawr 1921 Konolfingen |
Bu farw | 14 Rhagfyr 1990 Neuchâtel |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, arlunydd, sgriptiwr, bardd, arlunydd graffig |
Adnabyddus am | The Physicists, The Visit, Suspicion, The Judge and His Hangman, Q602782, A Dangerous Game, The Pledge: Requiem for the Detective Novel, Der Doppelgänger |
Arddull | drama, rhyddiaith |
Tad | Reinhold Dürrenmatt |
Mam | Hulda Dürrenmatt |
Priod | Lotti Dürrenmatt, Charlotte Kerr |
Plant | Ruth Dürrenmatt, Peter Dürrenmatt, Barbara Dürrenmatt |
Gwobr/au | Gwobr Georg Büchner, Gwobr Goffa Schiller, Gwobr Schiller, Medal Buber-Rosenzweig, Gwobr-Jean-Paul, Gwobr Schiller Dinas Mannheim, Medal Carl Zuckmayer, Gwobr Franz-Grillparzer, Ernst Robert Curtius Award, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Q105870591, honorary doctorate from the University of Nice-Sophia Antipolis |
Roedd Friedrich Dürrenmatt (5 Ionawr 1921 - 14 Rhagfyr 1990) yn awdur iaith Almaeneg a dramodydd. Fe'i anwyd yn Konolfingen, yng Nghanton Emmental rhan o Bern) yn fab i Weinidog ac yn wyr i'r gwleidydd, Ulrich Dürrenmatt. Symudodd y teulu i Bern ym 1935. Astudiodd Almaeneg ym Mhrifysgol Zurich tan 1941, ond gorffenodd ei radd ym Mhrifysgol Bern. Dechreuodd fel llenor ym 1943. Priododd ar 11 Hydref 1946, i'r actores Lotti Geissler. Ond bu iddi farw ym 1983, ac ailbriododd ym 1984 i actores arall, Charlotte Kerr. Bu farw 14 Rhagfyr 1990 yn 69 oed yn Neuchâtel.
Mae ei ddrama (Der Besuch der alten Dame, 1956) yn fyd enwog a pherfformir ef yn gyson o hyd. Ond mae llawer yn meddwl bod ei brif waith yw y Ffisegwyr (Die Physiker, 1962), sy'n trafod peryglon gwyddoniaeth i'r ddynoliaeth. Yn aml ysgrifennai am Yr Ail Ryfel Byd. Mae ei waith yn amrywio o ddramâu avant-garde i ysgrifennu deifiol. Arwyddair Dürrenmatt oedd: "Does dim diweddglo i'r stori heb dro gwael ynddi". Roedd yn aelod o'r grwp Gruppe Olten.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Es steht geschrieben (1947)
- Der Blinde (1947)
- Romulus der Große (Romulus Mawr: Comedi hanesydddol mewn pedwar act, 1950, drama)
- Der Richter und sein Henker 1952; stori fer)
- "Der Tunnel" ("The Tunnel", 1952; stori fer)
- Die Ehe des Herrn Mississippi (Priodas Mr. Mississippi, 1952, drama)
- Der Verdacht (The Quarry or Suspicion, 1953)
- "Theaterprobleme" ("Theater Problems", 1954, essay)
- Der Besuch der alten Dame (The Visit, 1956, drama)
- Die Panne ("Traps", 1956, stori fer)
- Das Versprechen: Requiem auf den Kriminalroman (The Pledge: Requiem for the Detective Novel, 1958, stori fer)
- Die Physiker (The Physicists: A Comedy in Two Acts, 1962, drama)
- Der Meteor (1966)
- "Monstervortrag" ("Darlith Mawr ar Gyfraith a Chyfiawnder ", 1969, darlith)
- "Der Sturz' ("Cipio'r Deyrnas", 1971, stori fer)
- Achterloo (1982)
- Justiz (Dienyddio Cyfiawnder, 1985)
- Der Auftrag (Y Weithred, 1986, stori fer)
- "Die Schweiz – ein Gefängnis. Rede auf Václav Havel" ("Y Swistir - Carchar: Araith dros Václav Havel", 1990)
Straeon Dürrenmatt mewn Ffilm
[golygu | golygu cod]- Es geschah am hellichten Tag (Digwyddodd yng Ngolau'r Dydd 1958), a fersiwn Teledu o 1997
- Priodas Mr. Mississippi (1961)
- Der Besuch der alten Dame (1964, fersiwn Cymraeg Ymweliad yr Hen Foneddiges)
- Once a Greek (1966, Grieche sucht Griechin)
- Play Strindberg (1969), wedi ei seilio ar "Dawns Angau" gan Strindberg
- La più bella serata della mia vita (1972, gan Ettore Scola, wedi ei seilio ar 'La Panne')
- End of the Game (1976), wedi ei seilio ar The Judge and His Hangman, mae Dürrenmatt yn actio yn y fflim hefyd.
- Deadly Games (1982, Trapp)
- Cumartesi Cumartesi (1984, Salam, storiau mewn ffilm)
- Физики (The Physicists) (1988, yn Rwsieg)
- Визит дамы (The Visit of the Lady) (1989, yn Rwsieg)
- Hyènes (1992), addasiad gan Djibril Diop Mambéty o Senegal
- Justiz (1993)
- The Pledge (2001), wedi ei seilio ar ei nofel Das Versprechen, sydd ei hun wedi ei seilio ar Es geschah am hellichten Tag
- Yr Adduned (Das Versprechen, 1958), cyfieithwyd gan Robat G Powell, Cyfres yr Academi (Gwasg Gee, 1976)
- Y Twnel (Die Arche), cyfieithwyd gan Ioan Bowen Rees, Taliesin 33 (Rhagfyr 1976), tud. 21. Troswyd i ddathlu rhoi Gwobr yr Academi iddo.
- Y Ffisegwyr (Die Physiker, 1962), cyfieithwyd gan Damian Walford Davies, Cyfres Dramâu Aberystwyth (CAA, 1991)
- Ymweliad yr Hen Foneddiges (Der Besuch der Alten Dame, 1956), cyfieithwyd gan John Gwilym Jones a G. L. Jones, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Everett M. Ellestad, "Friedrich Durrenmatt's 'Mausefalle' ('Mouse Trap')", German Quarterly 43:4 (Tachwedd 1970) 770-9
- Gerhard P. Knapp, "Friedrich Dürrenmatt: Studien zu seinem Werk", Poesie und Wissenschaft 33 (1976)
- Centre Dürrenmatt Neuchâtel
- National Library Switzerland
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Friedrich Dürrenmatt home page casglaid cynhwysfawr dan ofal University of Chicago Press
- Drama Radio gan Friedrich Dürrenmatt [dolen farw]
- Genedigaethau 1921
- Marwolaethau 1990
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o'r Swistir
- Dramodwyr Almaeneg o'r Swistir
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o'r Swistir
- Llenorion straeon byrion Almaeneg o'r Swistir
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Swistir
- Nofelwyr Almaeneg o'r Swistir
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o'r Swistir
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Almaeneg o'r Swistir