Cwningar Niwbwrch
Math | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhosyr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1522°N 4.3561°W |
Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn ne-orllewin Ynys Môn i'e de o Niwbwrch yw Cwningar Niwbwrch (Saesneg: Newborough Warren). Saif yng nghymuned Rhosyr. Mae'r cwningar yng ngofal Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Gwnaed Cwningar Niwbwrch yn warchodfa ar sail yr amrywiaeth o blanhigion yn y twyni tywod a ger glan y môr, rhai ohonynt yn brin. Ceir hefyd amrywiaeth o loÿnnod byw ac adar.
Enwyd yr ardal yn Warchodfa Natur Genedlaethol yn 1953. Yr adeg honno, roedd yn bennaf yn ardal o laswellt a gedwid yn fyr gan ei fod yn cael ei bori gan y cwningod. Yn fuan wedyn, o 1956 ymlaen, cafodd haint mycsomatosis effaith ddifrifol ar niferoedd y cwningod. Gerllaw mae Coedwig Niwbwrch, coedwig o goed bytholwyrdd y dechreuwyd ei phlannu yn 1946. Mynegwyd pryderon fod y goedwig yma yn cael effaith andwyol ar y warchodfa, gan ei bod yn gostwng lefel y dŵr yn y ddaear.
Mae'r warchodfa yn ymestyn o aber Afon Braint hyd at aber Afon Cefni, ac yn cynnwys Bae Llanddwyn Bay a Bae Malltraeth, gydag Ynys Llanddwyn thwng y ddau. Mae rhan o Lwybr Arfordirol Ynys Môn yn arwain trwy'r warchodfa. Mae'n cynnwys twyni tywod, ardaloedd glaswelltog, coed gwasgaredig a llyn, Llyn Rhos-ddu. Mae yna 10 milltir o llwybrau cyhoeddus yn ymestyn trwy's cwningar.
Mae gan y warchodfa hanes diddorol o fewn y diwydiant Morhesg.
Cyn yr Ail Ryfel Byd roedd merched Niwbwrch yn rhentu darnau o'r tywyn i hel morhesg i'w blethu. Enw ar y darn yma oedd "clwt" a rhentu clwt o'r tywyn y byddent. I ddangos perchnogaeth o glwt byddent yn rhoi cnoten yn y pedwar congl.
Gyda Llys Rhosyr sef Llys Llywelyn Fawr yn agos at y safle, trwy'r Tywyn (Cwningar Niwbwrch) mae'n debyg y byddai Llywelyn Fawr yn teithio i'r Llys ar ôl glanio yn Abermenai. Y llwybr y byddai'n gymeryd wrth gychwyn o Cae Llys (enw lleol ar safle Llys Rhosyr), mwy na thebyg, fyddai i lawr lôn gul i Ben Lôn Ddŵr ac yna ar draws Rhos Mas Gesdir (talfyrriad o enw fferm - "Maes-y-ceirchdir") a chyrraedd Ponc Lwcus, lle mae'r bobol leol yn dweud eu bod wedi darganfod trysorau lu ar hyd y canrifoedd; a dyma mae'n debyg darddiad yr enw. Ar ôl mynd heibio i Bonc Lwcus rydych yn cyrraedd Pant Lladron lle byddant, yn ôl yr hanesion, yn crogi lladron i ddychryn pobol rhag dwyn! Yna i Bant Mawr ac Abermenai, ac wrth gwrs dyma lle oedd y fferi yn cychwyn am Gaernarfon.