Brian Wildsmith
Brian Wildsmith | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ionawr 1930 De Swydd Efrog |
Bu farw | 31 Awst 2016 Grasse |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, llenor, darlunydd |
Gwobr/au | Medal Kate Greenaway |
Gwefan | http://brianwildsmith.com/ |
Darlunydd llyfrau plant o Loegr oedd Brian Wildsmith (20 Ionawr 1930 – 31 Awst 2016),[1] a enillodd Fedal Kate Greenaway ym 1962 am ei waith darlunio yn y llyfr A.B.C.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Magwyd Wildsmith ym mhentref bychan Penistone yn Swydd Efrog, yng nghanol y dwiydiant glo. Enillodd ysgoloriaeth i fynychu Ysgol Celfyddydau Gain Slade ble'r astudiodd am dair mlynedd. Dysgodd gerddoriaeth yn yr Ysgol Cerdd Milwrol Brenhinol am gyfnod, ond fe roddodd y gorau ar ddysgu er mwyn gallu peintio yn llawn amser.[2][3]
Yn 1994, sefydlwyd Amgueddfa Celf Brian Wildsmith yn Izukogen, tref sydd wedi ei leoli i'r de o Tokyo, Japan. Ymwelodd miliwn a hanner o bobl â'i arddangsfa ar daith yn 2005. Mae 800 o'i baentiadau wedi cael eu benthyg i'r amgueddfa.[2]
Roedd yn briod gyda pedwar o blant, ac ers 1971 bu'n byw Ffrainc gyda'i wraig Aurélie. Bu farw yn Grasse, Ffrainc yn 2016.[4].[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Brian Wildsmith. IMDB.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 About. Brian Wildsmith.
- ↑ AUTHOR PROFILE - Brian Wildsmith. Jubilee Books.
- ↑ "Children's author Brian Wildsmith dies". thebookseller.com. Cyrchwyd 5 Medi 2016.