Brawddeg
Gwedd
Math | semantic unit, utterance, linguistic form |
---|---|
Y gwrthwyneb | Q9380011 |
Uned ieithyddol mewn iaith naturiol yw brawddeg, mynegiad sy'n cyfleu gosodiad, gofyniad neu orchymyn.[1]
Yn y rhan fwyaf o ieithoedd,[2] mae'n rhaid i frawddeg gynnwys berf gyfyngedig, ond nid yw hyn yn wir yn y Gymraeg. E.e. Hir pob aros.
Rhannau'r frawddeg
[golygu | golygu cod]Mewn cymal, ceir goddrych a thraethiad; gall fod yn brif gymal neu'n isgymal. Mae'n brawddegau syml yn cynnwys dim ond un cymal (a hwnnw'n brif gymal), ond mewn brawddegau eraill ceir sawl cymal. Mae'r frawddeg gyfansawdd yn cynnwys o leiaf dau brif gymal cydradd, tra mae'r frawddeg gymhleth yn cyfuno prif gymal ag isgymal(au).
Mathau o frawddeg
[golygu | golygu cod]- Brawddeg enwol
- Brawddeg ferfol
- Brawddeg seml - un prif cymal
- Brawddeg gyfansawdd - o leiaf dau brif gymal cydradd wedi'u cysylltu gan gysylltair
- Brawddeg gymhleth - un prif cymal ac un neu ragor o isgymalau
- Darn brawddeg