iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: https://cy.wikipedia.org/wiki/Boii
Boii - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Boii

Oddi ar Wicipedia
Boii
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ynysig o bobl, grŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathY Galiaid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Biatec gwreiddiol ar y chwith, a chopi modern ar ddarn 5-koruna arian tebyg i'r rhai a grewyd gan y Boii

Llwyth Celtaidd oedd y Boii (Lladin lluosog, yr unigol oedd Boius; Groeg: Βοιοι). Ceir cyfeiriadau atynt ar wahanol adegau yng Ngâl, yn cynnwys gogledd yr Eidal, Pannonia (gorllewin Hwngari heddiw), Bohemia, Morafia a gorllewin Slofacia. Cadwyd eu henw yn yr enw "Bohemia".

Dywedir gan awduron clasurol iddynt groesi o Gallia Transalpina ac ymsefydlu ar y gwastadeddau o amgylch Afon Po, ar ôl gorchfygu'r Etrwsciaid lleol. Yn ystod ail hanner y 3 CC ffurfiodd y Boii a llwythau Celtaidd eraill gogledd yr Eidal gynghrair â'r Etrwsciaid yn erbyn Gweriniaeth Rhufain. Ymladdasant yn erbyn y Rhufeiniaid mewn cynghrair a Hannibal hefyd, gan ladd y cadfridog Rhufeinig Lucius yn 224 CC, ac wedyn yn 193 CC ger Mutina (Modena heddiw). Wedi hyn, gadawodd llawer o'r Boii yr Eidal.

Roedd cangen arall o'r llwyth wedi ymsefydlu yn Pannonia. Dywed Strabo iddynt orchfygu ymosodiadau gan y Cimbri a'r Teutones yn yr 2 CC. Ymunodd carfan ohonynt a'r Helvetii pan geisiodd y llwyth hwnnw ymfudo i orllewin Gâl, a chael eu gorchfygu gan Iŵl Cesar. Caniataodd llwyth yr Aedui i weddillion y rhain ymsefydlu yn eu tiriogathau hwy, yn cynnwys oppidum Gorgobina.

Roedd cangen arall o'r Boii ar wastadeddau Hwngari o gwmpas Afon Donaw. Cofnodir iddynt gael eu gorchfygu gan y Daciaid tua 40 CC.

Mae olion ohonynt i'w gweld mewn enwau lleoedd megis Bohemia (Boio-haemum = "cartref y Boii"), Bafaria (Bai-ovarii = "Baio-ymladdwr") a Bononia (yr hen enw ar ddinas Bologna).