iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: https://cy.wikipedia.org/wiki/Baner_Ecwador
Baner Ecwador - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Baner Ecwador

Oddi ar Wicipedia
Baner Ecwador
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iaumelyn, glas, coch, gwyrdd, gwyn, brown, llwyd, dark brown Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMileniwm 2. Edit this on Wikidata
Genrehorizontal triband Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Ecwador
Lluman sifil Ecwador

Mabwysiadwyd baner Colombia Fawr ar 17 Rhagfyr, 1819 yn dilyn ei hannibyniaeth ar Sbaen. Baner drilliw lorweddol yw hi, gyda hanner uchaf y faner yn felyn (symbol o Golombia Fawr), y chwarter nesaf i lawr yn las (i gynrychioli annibyniaeth ar Sbaen) a'r chwarter isaf yn goch (am ddewrder). Lliwiau Francisco de Miranda, yr arweinydd rhyddid, ydynt. Fe ymwahanodd Ecwador o Golombia Fawr fel gweriniaeth ar wahân ym 1830, ac ar 26 Medi, 1860 mabwysiadwyd dyluniad baner Colombia Fawr fel baner Ecwador.

Fel baneri eraill y cyn-drefedigaethau Sbaenaidd, gosodir arfbais y wlad yn ei chanol pan defnyddir fel lluman gwladwriaethol neu lyngesol; ychwanegwyd hon ym 1900. Nid oes arfbais yn y lluman sifil ac felly mae'n unfath â baner Colombia, ac eithrio'r cyfraneddau.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am Ecwador. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato