Antonin Artaud
Antonin Artaud | |
---|---|
Ganwyd | Antoine Marie Joseph Paul Artaud 4 Medi 1896 Marseille |
Bu farw | 4 Mawrth 1948 Paris, Ivry-sur-Seine |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | dramodydd, actor, bardd, beirniad ffilm, llenor, awdur ysgrifau, sgriptiwr, arlunydd, actor llwyfan, actor ffilm, rhyddieithwr, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr, awdur comedi, artist sy'n perfformio |
Arddull | drama fiction, traethawd |
Partner | Génica Athanasiou |
Perthnasau | Louis Nalpas |
Gwobr/au | Prix Sainte-Beuve |
Dramodydd, actor, cyfarwyddwr theatr a bardd o Ffrainc oedd Antoine Marie Joseph Artaud neu Antonin Artaud (4 Medi 1896, Marseille — 4 Mawrth 1948, Paris). Mae'n cael ei gydnabod heddiw fel ffigwr amlwg ym myd theatr yr abswrd.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Artaud ym Marseille, Ffrainc, yn fab i Euphrasie Alpas a Antoine-roi Artaud. Roedd ei rieni ill dau yn frodorion o Smyrna, Twrci sef Izmir fodern. Ganwyd naw o blant i'w rieni, ond dim ond Antonin ac un o'i chwiorydd lwyddodd i oroesi ei plentyndod. Fe effeithwyd Artaud gan feningitis difrifol pan oedd ond yn bedair mlwydd oed. Canlyniad hyn oedd bod ganddo natur nerfus a phiwis trwy gydol ei arddegau. Roedd hefyd yn dioddef o niwralgia, atal-dweud ac iselder ysbryd difrifol. Fe drinwyd y cyflwr yma efo defnydd o opiwm - canlyniad hyn oedd bod Artaud yn gaeth iddo trwy weddill ei fywyd.
Fe benderfynnodd ei rieni i yrru ei mab trallodus i iechydfa am gyfnodau hir yn ystod ei ieuenctid. Darllennodd yr Artaud ifanc waith sawl awdur, megis Arthur Rimbaud, Charles Baudelaire ac Edgar Allan Poe. Ym mis Mai 1919, fe rhagnodwyd lawdanwm iddo gan gyfarwyddwr yr iechydfa, ag arweiniodd Artaud i fod yn gaeth i'r cyffur hwnnw hefyd, ynghyd â sawl cyffur arall.