- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
21.—(1) Ni chaniateir cychwyn, adeiladu, gweithredu, ailbweru na datgomisiynu unrhyw weithfeydd llanwol nes bod cynllun i sicrhau diogelwch mordwyo ar gyfer pob cam perthnasol o’r gwaith llanwol wedi cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ac wedi cael ei gymeradwyo’n ysgrifenedig ganddynt mewn ymgynghoriad â Trinity House, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Chyngor Sir Ynys Môn.
(2) Rhaid i’r cynllun a gyflwynir i’w gymeradwyo fod yn gyson â’r asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru ar gyfer y gwaith llanwol perthnasol a gymeradwywyd yn unol ag erthygl 3(4) neu erthygl 3(7) a chydag argymhellion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a geir yn MGN654 ‘Offshore Renewable Energy Installations (OREIs) – Guidance on UK Navigational Practice, Safety and Emergency Response’ a’i atodiadau neu ddiweddariadau dilynol.
(3) Bydd y gweithfeydd awdurdodedig yn cael eu cyflawni yn unol â’r cynllun cymeradwy ac eithrio i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn cytuno ar amrywiad i’r cynllun cymeradwy ar ôl ymgynghori â’r personau a grybwyllir ym mharagraff (1).
(4) At ddiben erthygl 21(1) bydd term cychwyn yn cynnwys gwaith dymchwel, ymchwiliadau at ddiben asesu amodau gwely’r môr ac ymchwiliadau archaeolegol a chodi unrhyw ddull amgáu dros dro.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: