Y Deml Heddwch
Math | adeilad |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Parc Cathays, Castell, Caerdydd, Caerdydd |
Sir | Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 12.5 metr |
Cyfesurynnau | 51.487323°N 3.183252°W |
Cod post | CF10 3AP |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Adeilad rhestredig Gradd II ym Mharc Cathays, canolfan ddinesig Caerdydd, yw'r Deml Heddwch ac Iechyd. Mae pwrpas yr adeilad yn adlewyrchiad o ddau ddiddordeb pennaf ei sylfaenydd, yr Arglwydd David Davies, sef "yr ymgyrch Gymreig yn erbyn y darfodedigaeth... a'r groesgad dros heddwch cydwladol".[1]
Ar ei hagor ym 1938, gan fam a oedd wedi colli ei phlant yn y Rhyfel Byd Cyntaf,[2] roedd y Deml Heddwch yn bencadlys i ddau sefydliad a grëwyd yn rhannol gan yr Arglwydd Davies: cangen Cymru Undeb Cynghrair y Cenhedloedd a Chymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru'r Brenin Edward VII (sefydliad ar gyfer trin y diciâu). Er bod y rhain wedi darfod erbyn hyn, mae'r adeilad bellach yn gartref i ddau sefydliad arall ag amcanion sy'n gysylltiedig â heddwch ac iechyd, sef Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru[3] a Iechyd Cyhoeddus Cymru, un o ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.[4]
Y pensaer Percy Thomas a gynlluniodd y Deml Heddwch, mewn arddull glasurol syml. Noda sawl awdur yr eironi fod yr arddull yn un debyg i bensaernïaeth Ffasgaidd yr Almaen a'r Eidal yn y 1930au.[2][5]
Ar 4 Tachwedd 1967 ffrwydrodd bom y tu allan i'r Deml Heddwch, bom a blannwyd gan Fudiad Amddiffyn Cymru. Protest oedd hyn yn erbyn cyfarfod mewn adeilad gerllaw i drefnu Arwisgiad Tywysog Cymru; amserwyd y taniad fel na fyddai neb yn cael ei anafu.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Davies, Gwilym. Davies, David (1880–1944), y barwn Davies cyntaf. Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.
- ↑ 2.0 2.1 Hilling, John B. (1973). Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape. Llundain: Lund Humphries. tt. 159–60.CS1 maint: ref=harv (link)
- ↑ Hanes y Deml. Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.
- ↑ Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y Deml Heddwch. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.
- ↑ (Saesneg) Temple of Peace & Health, Castle. British Listed Buildings. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.
- ↑ (Saesneg) Matthews, Tom (23 Tachwedd 2013). The bombing of the Temple of Peace. Cardiff Past. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.