Wyn Calvin
Wyn Calvin | |
---|---|
Ganwyd | Joseph Wyndham Calvin-Thomas 28 Awst 1925 Arberth |
Bu farw | 25 Ionawr 2022 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, darlledwr, diddanwr |
Gwobr/au | MBE, Urdd Sant Ioan |
Digrifwr ac actor Cymreig oedd Joseph Wyndham Calvin Thomas, neu Wyn Calvin (28 Awst 1926 – 25 Ionawr 2022).[1][2] Yn ystod ei yrfa hir, gwnaeth sawl gorchwyl: actio ar lwyfan a theledu, chwarae 'dame' mewn pantomeim, personoliaeth radio, cyflwyno sioe siarad ar deledu, siaradwr gwadd, darlithiwr, gwneud gwaith dyngarol ac ysgrifennu colofnau papur newydd[3] Gweithiodd gyda nifer o sêr y diwydiant adloniant, gan gynnwys Harry Secombe, Bob Hope, Christopher Biggins, Shirley Bassey, Frankie Vaughan, Vic Morrow, Bud Flanagan, Roy Hudd, Max Boyce, Morecambe and Wise a Ken Dodd.[4]
Fe'i ganwyd yn Narberth yn un o wyth o blant. Pan oedd yn bum mlwydd oed, symudodd eu deulu i Gaerdydd. Aeth i Ysgol Gynradd Kitchener Road ac yna Ysgol Uwchradd Canton (yr adeilad sydd nawr yn Ganolfan Gelfyddydau Chapter).
Yn 2021 dathlodd Calvin 75 mlynedd mewn busnes sioe.[5]
Teledu
[golygu | golygu cod]- Look Who's Talking (1982)
- The House of Eliott (1994)
- On Show: Two Ton Tessie (2006)
- Legends (2007)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ One of Wales’ greatest entertainers Wyn Calvin has died (en) , Nation Cymru, 25 Ionawr 2022.
- ↑ A life dedicated to show-business: Narberth born entertainer Wyn Calvin passes away (en) , Pembroke Observer, 25 Ionawr 2022.
- ↑ The incredibly colourful life of the Welshman celebrating 75 years in showbiz - Wales Online
- ↑ "Wyn Calvin celebrates 90th birthday and 70th year being an entertainer" (yn Saesneg). Wales Online. 1 Medi 2015.
- ↑ "Wyn Calvin's 75 years in showbiz feted by British Music Hall Society". Western Telegraph (yn Saesneg). 3 October 2021. Cyrchwyd 26 Ionawr 2022.