Wicipedia:Ar y dydd hwn/23 Mai
Gwedd
23 Mai: Diwrnod Rhyngwladol y Crwban
- 1120 – ail-gladdwyd creiriau'r sant Dyfrig yng nghadeirlan Llandaf, ar ôl eu trosglwyddo o Ynys Enlli
- 1533 – diddymwyd priodas Harri VIII, brenin Lloegr, a Chatrin o Aragon
- 1832 – sefydlwyd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog, y cwmni rheilffordd hyna'r byd sy'n dal i weithio
- 1970 – llosgwyd Pont Britannia ar ddamwain gan ddau fachgen
- 1981 – ganwyd y gantores bop Gwenno Saunders yng Nghaerdydd
- 1995 – cyrhaeddodd Caradog Jones gopa Mynydd Chomolungma (Everest): y Cymro cyntaf i wneud hynny.
|