Wicipedia:Ar y dydd hwn/13 Hydref
Gwedd
13 Hydref Gŵyl mabsant Sant Edwin, a laddwyd gan y Brenin Cadwallon ym Mrwydr Meicen (Hatfield)
- 1278 – priododd Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon
- 1899 – bu farw Charles Ashton, hanesydd llenyddiaeth Gymraeg
- 1906 – cynhyrchwyd trydan drwy egni dŵr o Lyn Llydaw yn Nant Gwynant; y system cyntaf o'i bath drwy wledydd Prydain
- 1970 – ganwyd y chwaraewr rygbi'r undeb Rob Howley ym Mhen-y-bont ar Ogwr
- 2004 – bu farw Bernice Rubens, nofelydd yn yr iaith Saesneg
|