iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: http://cy.wikipedia.org/wiki/War_Horse_(ffilm)
War Horse (ffilm) - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

War Horse (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
War Horse
Poster
Poster o'r cynhyrchiad theatr
Cyfarwyddwyd ganSteven Spielberg
Cynhyrchwyd ganSteven Spielberg
Kathleen Kennedy
SgriptLee Hall
Richard Curtis
Seiliwyd arWar Horse
by Michael Morpurgo
Yn serennuEmily Watson
David Thewlis
Peter Mullan
Niels Arestrup
Jeremy Irvine
Cerddoriaeth ganJohn Williams
SinematograffiJanusz Kamiński
Golygwyd ganMichael Kahn
StiwdioTouchstone Pictures
DreamWorks
Reliance Entertainment
Amblin Entertainment
The Kennedy/Marshall Company
Dosbarthwyd ganWalt Disney Studios
Motion Pictures
Rhyddhawyd ganNodyn:Filmdate
Hyd y ffilm (amser)146 munud[1]
GwladUnol Daleithiau America
India[2]
IaithSaesneg
Cyfalaf$66 miliwn
Gwerthiant tocynnau$177.6 miliwn[3]

Ffilm a ryddhawyd yn 2011, yn seiliedig ar lyfr 1982 Michael Morpurgo ydy War Horse. Cyhoeddwyd y llyfr gan Kaye a Ward. Roedd Emily Watson, David Thewlis, Peter Mullan, Niels Arestrup a Jeremy Irvine yn actio yn y ffilm. Cafodd ei chyfarwyddo gan Steven Spielberg a'i chynhyrchu ar y cyd gyda Kathleen Kennedy. Adrodda'r ffilm hanes Albert Narracott a'i geffyl Joey.

Rhyddhawyd y ffilm yn yr Unol Daleithiau gan Touchstone Pictures a cafodd ei chynhyrchu gan Dreamworks. Dewison nhw'r cast am War Horse yn 17 Mehefin 2010.

Cafodd 'War Horse' ei enwebu am chwech o Wobrau'r Academi yn cynnwys y Ffilm Orau, dau Golden Globe a phum BAFTA.

Adrodda'r ffilm hanes Albert Narracott o Ddyfnaint yn 1912 gyda'i geffyl Joey. Maent yn byw a'r ffarm a gorfodir Joey i fynd i'r rhyfel fel ceffyl rhyfel. Gan ei fod mor hoff o'i geffyl, ceisia Albert hefyd enlistio gyda'r fyddin i fod gyda Joey ond mae'n rhy ifanc. O ganlyniad mae Joey'n mynd i'r rhyfel gyda cheffyl arall, Topthorn. Gwelir Joey'n mynd ar lawer o anturiaethau gyda llawer o wahanol bobl. Yn y diwedd mae Albert yn ffeindio Joey a mae'n yn ei dywys adref i'r ffarm.

Yn gyffredinol, roedd War Horse yn boblogaidd mewn sinemau a chafodd adolygiadau cadarnhaol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "War Horse (12A)". British Board of Film Classification. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2011.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-03. Cyrchwyd 2015-06-14.
  3. "War Horse". DreamWorks Studio. Los Angeles. Cyrchwyd 9 Mai 2011.[dolen farw]