iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: http://cy.wikipedia.org/wiki/Trosedd_a_chosb
Trosedd a chosb - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Trosedd a chosb

Oddi ar Wicipedia
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Radicaliaeth a Phrotest, 1810 -1848
BBC
Newidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Bu newidiadau mawr ym maes trosedd a chosb ar draws y canrifoedd. Mae'r ffordd mae troseddau yn cael eu dirnad gan gymdeithas wedi cael ei adlewyrchu yn y newid a fu mewn agweddau tuag at gosbi troseddwyr. Newidiodd natur troseddau rhwng yr Oesoedd Canol o’u cymharu â’r math o droseddau a gyflawnwyd yn yr 19eg ganrif.

Achoswyd llawer o droseddau ar draws y canrifoedd gan dlodi, ond newidiodd y cosbau ar gyfer hynny yn enfawr. Yn yr Oesoedd Canol hyd at gyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid roedd pwyslais y gosb ar ddial, unioni’r cam ac atal troseddau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Oherwydd hynny roedd y cosbau yn dreisgar, yn achosi poen neu'n anffurfio’r troseddwr, ac yn aml yn arwain at farwolaeth. Rhoddwyd y cyfrifoldeb am gosbi’r troseddwr ar y gymuned. Yn y 19eg ganrif roedd pwrpas y cosbau yn pwysleisio'r angen i ddiwygio’r troseddwr ac ailhyfforddi, ac erbyn yr 20g roedd pwyslais trwm ar hynny.

Mae natur plismona troseddau ar draws y canrifoedd wedi newid mewn ymateb i’r math o droseddau a gyflawnwyd. Roedd pwyslais yn yr Oesoedd Canol ar y gymuned yn cymryd cyfrifoldeb am gosbi’r troseddwr - er enghraifft, ‘gwaedd ac ymlid’, ond yn dilyn sefydlu'r Heddlu Metropolitan yn Llundain yn 1829 roedd hwn yn arwydd bod y Llywodraeth yn cymryd mwy o rôl yn y broses o ddal troseddwyr. Wrth i wahanol arbenigedd ddatblygu mae’r Wladwriaeth hefyd wedi cymryd y cyfrifoldeb am ymchwilio a gwneud gwaith ditectif er mwyn darganfod troseddau a throseddwyr.

Yn yr 20g daeth troseddau yn fwy soffistigedig ac o ganlyniad mae technoleg wedi dod yn rhan allweddol o ddulliau plismona a monitro yr heddlu.

Achosion trosedd

[golygu | golygu cod]

Yr Oesoedd Canol

[golygu | golygu cod]

Roedd cadw cyfraith a threfn a chosbi troseddwyr adeg yr Oesoedd Canol yn cael ei weld fel cyfrifoldeb ar y gymdeithas, yn enwedig gan nad oedd carchardai yn bodoli, na heddlu lleol chwaith.

Cyfreithiau Hywel Dda

[golygu | golygu cod]
Hywel Dda ar ei orsedd

Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd gan Gymru ei chyfreithiau ei hun, sef Cyfreithiau Hywel Dda. Gosodwyd y sylfeini ar gyfer cyfreithiau Cymru gan Hywel Dda, a fu’n llywodraethu y rhan fwyaf o Gymru rhwng 915 a 950.  Y cyfreithiau hyn a drefnwyd ganddo a fu’n sail i gyfraith Cymru tan y Deddfau Uno yn 1536. Galwodd ynghyd gyfarfod o ddynion dysgedig yn y gyfraith yn Hendy-gwyn ar Daf, ger Caerfyrddin, i gasglu a chrynhoi’r cyfreithiau. Roedd y cyfreithiau yn seiliedig ar yr egwyddor bod angen talu iawndal i’r dioddefwr. Roedd y troseddwr felly yn unioni’r cam yr oedd ef/hi wedi ei wneud yn erbyn y dioddefwr.[1][2]

Cyfrifwyd y troseddau mwyaf difrifol fel rhai a oedd yn cael eu cyflawni yn y dirgel - er enghraifft, dwyn, a’r gosb swyddogol am hynny oedd crogi.[3] Nid oedd lladd drwy drais neu ymosodiad treisgar yn cael ei chyfrif fel trosedd mor ddifrifol â throsedd ddirgel.[3]

Cyfoeswr i Hywel Dda oedd y Brenin Alffred, Brenin Wessex rhwng 871 ac 899, a bu yntau hefyd yn gyfrifol am roi trefn ar gyfreithiau Lloegr.[4] Fel Cyfraith Lloegr roedd Cyfraith Cymru yn nodi bod y swm neu’r iawndal a dalwyd i’r dioddefwr yn ddibynnol ar sawl aelod o gorff y dioddefwr oedd wedi cael ei anafu neu ei effeithio.[3]

Deddfau Penyd Owain Glyndŵr

[golygu | golygu cod]

Yn dilyn Gwrthryfel Glyndŵr rhwng 1400 a 1409 adnewyddwyd y Deddfau Penyd gan Harri IV er mwyn sicrhau ei awdurdod ar y Cymry.  Roedd y rhain yn ddeddfau llym eu natur a oedd yn targedu'r Cymry. Roeddent yn amlinellu’n fanwl pa droseddau yr oedd modd cyhuddo rhywun o'u cyflawni - er enghraifft, ni chai Cymro gadw neu ddal arfau na chynnal cyfarfod mawr heb ganiatâd, ni chaent ychwaith ddal swydd na thir mewn unrhyw dref yng Nghymru a’r Gororau.[5]

Cyfnod y Tuduriaid

[golygu | golygu cod]

Wedi iddo ennill Brwydr Maes Bosworth yn 1485, tasg gyntaf Harri VII oedd ceisio sefydlu cyfraith a threfn mor fuan â phosib, yn enwedig ar ôl blynyddoedd cythryblus Rhyfeloedd y Rhosynnau rhwng 1455 a 1485.

Penderfynodd felly adfer pŵer ‘Llys Siambr y Seren’ a oedd yn galw arglwyddi pwerus i lys y Brenin yn Llundain. Yn aml iawn byddent yn cael eu gorfodi i dalu dirwyon trwm i’r Brenin fel cosb am eu troseddau.

Dechreuwyd defnyddio Ynadon Heddwch gan y Tuduriaid i fod yn gyfrifol am gyfraith a threfn ar lefel leol ac yn aml byddent yn gyfrifol am gasglu trethi i ddelio gyda’r tlodion, a gwaith cynnal a chadw ar bontydd a heolydd. Ar lefel y plwyf y Cwnstabl oedd yn gyfrifol am gyfraith a threfn.

Harri VII yn eistedd yn Llys Siambr y Seren yn 1504

Yn ystod cyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid nid oedd rhyddid gan unigolyn i ddewis y grefydd roeddent yn dymuno ei dilyn. Yn ystod teyrnasiad Harri VIII daeth trosedd grefyddol fel heresi yn drosedd a oedd yn cael ei gweld fel trosedd yn erbyn y Brenin. Roedd hereticiaid yn bobl oedd yn credu mewn crefydd a oedd yn wahanol i grefydd swyddogol y deyrnas, sef crefydd y Brenin neu'r Frenhines.

Hyd at 1529, pan wnaeth Harri VIII ysgaru ei wraig gyntaf, Catrin o Aragon, er mwyn medru priodi Anne Boleyn, roedd hereticiaid yn droseddwyr oedd yn cael eu profi yn Llysoedd yr Eglwys. Y Pab hyd hynny oedd Pennaeth yr Eglwys Gatholig yn Lloegr a Chymru. Roedd Harri VIII yn aelod o’r Eglwys Gatholig. Ond pan wrthododd y Pab ganiatáu ysgariad iddo penderfynodd Harri sefydlu ei eglwys ei hunan gydag ef ei hun yn bennaeth arni. Roedd nawr yn Brotestant ac felly roedd yn bennaeth ar yr eglwys a’r deyrnas. Roedd pawb yn gorfod tyngu llw i’r Brenin/Brenhines fel Pennaeth yr Eglwys ac roedd gwrthod gwneud hynny yn drosedd.

Roedd modd i droseddau crefyddol gael eu profi yn Llysoedd y Brenin erbyn hynny, gan gynnwys hereticiaeth. Roedd y bobl oedd yn cyflawni’r mathau hyn o droseddau yn cyflawni teyrnfradwriaeth.

Yn 1534 pasiodd Harri VIII gyfres o gyfreithiau a oedd yn dweud ei bod yn deyrnfradwriaeth os oedd unrhyw un yn siarad neu’n ysgrifennu yn erbyn y Brenin, ei wraig, neu ei blant, neu os oeddent yn dangos cefnogaeth i’r Pab.  Drwy basio’r cyfreithiau hyn roedd Harri yn datgan mai ef fel y Brenin oedd Uwch Bennaeth yr Eglwys yn Lloegr a Chymru, ac roedd yn rhoi terfyn ar bŵer y Pab yn y deyrnas. Roedd heresi o hyn ymlaen yn drosedd a oedd yn cael ei chosbi drwy farwolaeth. Daeth heresi yn drosedd fwyfwy cyffredin felly yn ystod y 1530au a’r 1540au.

Pan ddaeth Mari, merch Harri VIII a Chatrin o Aragon, i’r orsedd yn 1553, ei dymuniad oedd gwneud Lloegr a Chymru yn Gatholig unwaith eto gan mai Pabyddiaeth oedd ei chrefydd hi. O 1555 tan iddi farw yn 1558, dedfrydodd Mari tua 300 o bobl i gael eu llosgi'n farw am eu bod yn gwrthod addoli yn y dull Catholig. Ymhlith y bobl a losgwyd roedd yr Esgobion Ridley a Latimer a hyd yn oed Archesgob Caergaint, sef Thomas Cranmer. Yng Nghymru llosgwyd tri Phrotestant, sef Rawlins White, pysgotwr o Gaerdydd, William Nichol, llafurwr o Hwlffordd a Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, Sir Benfro. Roedd llosgi Catholigion yn gosb a ddefnyddiwyd adeg teyrnasiad Edward VI hefyd (sef mab Harri VIII a Jane Seymour) gan mai Protestaniaeth oedd crefydd swyddogol y wlad yn ystod ei deyrnasiad ef. Credai pobl y cyfnod bod llosgi’r corff yn ffordd i’r unigolion gael cyfle i edifarhau am eu pechodau. Byddai’r enaid felly’n cael ei ryddhau er mwyn medru cyrraedd y nefoedd.

Pan ddaeth Elizabeth, merch Harri VIII ac Anne Boleyn, yn Frenhines yn 1558, roedd llosgi wedi cael ei roi heibio fel dull o gosbi pobl nad oeddent yn dilyn crefydd y Frenhines, sef Protestaniaeth yn achos Elisabeth. Er bod rhai Catholigion a Phiwritaniaid wedi cael eu cyhuddo o frad yn erbyn y Frenhines, byddent yn hytrach yn cael eu crogi, eu diberfeddu a'u pedrannu. Un o’r Piwritaniaid (Protestant eithafol) mwyaf amlwg o Gymru a gafodd ei gosbi yn y ffordd hon oedd John Penry o sir Frycheiniog. Er i Elisabeth wadu ei bod yn erlidiwr brwdfrydig o hereticiaid cafodd tua 250 o Gatholigion eu dienyddio ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth yn ystod ei theyrnasiad. Yn eu plith roedd dau Gatholig o Gymru, sef William Davies a ddienyddiwyd ym Miwmares, Ynys Môn yn 1593, a Richard Gwyn, a ddienyddiwyd yn 1584 yn Wrecsam.[6]

Trosedd gyffredin arall yng nghyfnod y Tuduriaid oedd crwydraeth. Gyda Rhyfel y Rhosynnau wedi dod i ben roedd llawer o filwyr arfog a dynion mewn gwasanaeth yn ddi-waith ac felly wedi gorfod troi at grwydro’r wlad i chwilio am waith. Roedd eraill yn crwydro a chardota oherwydd roeddent wedi colli eu tir a’u cartrefi ar ôl i’r perchnogion gau’r tir comin lle byddent wedi cadw defaid, pori anifeiliaid neu dyfu cnydau a thorri mawn. Roedd Harri VIII wedi cau’r mynachlogydd ac roedd llawer o fynachod a gweision y mynachlogydd wedi cael eu gwneud yn ddi-waith. Roedd y mynachlogydd wedi rhoi lloches a llety i’r cardotwyr a fyddai’n crwydro’r wlad. Byddai llawer o gardotwyr yn troi at grwydraeth i chwilio am fwyd, llety a lloches a gwaith ac weithiau yn ymosod ar bentrefi neu ffermydd.

Doedd dim cydymdeimlad gan y Llywodraeth tuag at grwydriaid. Gwelwyd ef fel arwydd o ddiogi a mabwysiadwyd cosbau ffiaidd er mwyn dwyn cywilydd ar y cardotwr. Pasiwyd deddf gan Harri VIII yn 1531 a oedd yn gorchymyn chwipio’r crwydriaid hyn ac yna byddent yn cael eu hanfon adref. Pwrpas y gosb oedd dwyn gwarth ar y crwydryn, ond nid oedd hyn yn ddatrysiad ymarferol i’r broblem. Pasiodd Elisabeth I Ddeddf Tlodion 1598 a Deddf Tlodion 1601 a oedd yn gorchymyn adeiladu tlotai er mwyn clirio’r dihirod a’r crwydriaid oddi ar y strydoedd. Roedd y cyfrifoldeb yn cael ei roi i’r plwyfi ofalu am eu tlodion. Rhoddwyd gwaith defnyddiol i’r cardotwyr yn y tlotai ond yn aml iawn roedd y rhain yn llefydd budr ac afiach, ac roedd y bwyd yn erchyll.[7][8]

Cyfnod y Stiwartiaid

[golygu | golygu cod]

Roedd troseddau crefyddol yn parhau i gael eu gweld fel teyrnfradwriaeth yn erbyn y Brenin yn ystod y cyfnod hwn. Roedd Iago I yn casáu’r ffydd Babyddol ac yn 1605 bu ymgais gan griw o Gatholigion i ffrwydro’r Senedd yn Llundain a lladd y Brenin. Roedd Guto Ffowc yn un o gynllwynwyr Cynllwyn Powdr Gwn 1605, a dioddefodd ef a’i gyd-gynllwynwyr artaith ddifrifol cyn iddynt gael eu dienyddio.

Yn ystod cyfnod Oliver Cromwell fel Arglwydd-Amddiffynnydd rhwng 1649 a 1660 pasiwyd nifer o ddeddfau a oedd yn gorfodi syniadau'r Piwritaniaid ar y wlad. Golygai hyn y byddai bywyd yn anodd i Babyddion yn ystod y cyfnod hwn. O dan arweinyddiaeth y Piwritan Oliver Cromwell roedd hi’n drosedd os oeddech chi'n chwarae pêl-droed ar y Sul a chafodd dathlu Diwrnod Nadolig hyd yn oed ei wahardd. Roedd y rhain yn cael eu gweld fel troseddau hereticaidd.[6]

Y gosb am y drosedd hon oedd llosgi. Tan yr Oesoedd Canol roedd pobl wedi ystyried bod dwy ochr i wrachyddiaeth, sef y da a’r drwg. Roedd dewiniaeth ‘wen’ yn medru cynnig iechyd a bendithion nad oeddent ar gael drwy feddyginiaeth. Ar yr ochr arall, roedd dewiniaeth ‘ddu’ yn niweidiol ac yn golygu ‘galw’ ar bwerau drwg oedd yn medru melltithio cymydog neu wneud niwed i anifail.

Dewiniaeth

[golygu | golygu cod]
Dienyddio[dolen farw] gwrachod honedig yn Ewrop, 1587

Yn ystod yr Oesoedd Canol dechreuwyd cysylltu dewiniaeth â’r syniad bod cyfundeb gyda’r diafol. Dechreuwyd honni bod gwrachod yn derbyn eu pwerau oherwydd eu cysylltiad uniongyrchol â’r diafol. Erbyn diwedd y 15g roedd gwrachyddiaeth a heresi yn cael eu gweld fel troseddau oedd yn achosi gofid a phryder i bobl. Trodd yr ofn hwn yn ymgyrch erlid i geisio dileu gwarchyddiaeth yn llwyr o’r gymdeithas. Ar adegau yn ystod yr 17g cychwynnwyd ‘hela’ gwrachod a dewiniaid, yn arbennig menywod.

Daeth hyn yn arfer cyffredin drwy Ewrop a arweiniodd at lawer o fenywod yn cael eu cyhuddo o wrachyddiaeth, yn cael eu poenydio, eu profi a’u dienyddio. Mae tystiolaeth yng nghofnodion Llys y Sesiwn Fawr o rai a gafodd eu herlyn yng Nghymru.[9] Yn ôl amcangyfrifon roedd tua 1,000 o bobl, a'r rheiny’n ferched yn bennaf, wedi cael eu dedfrydu i farwolaeth ar ôl ‘profi’ eu bod yn wrachod.[6]

Er mwyn ‘profi’ a oedd y wraig yn wrach ai peidio cynhaliwyd diheurbrawf, a byddai rhan o’r ‘prawf’ yn cynnwys clymu'r wraig gyda rhaff a’i throchi mewn llyn neu afon. Os byddai’n boddi yna roedd yn ddi-euog ond os byddai’n dod yn ôl i wyneb y dŵr gwelwyd hwn fel arwydd o euogrwydd. Y gosb am wrachyddiaeth oedd llosgi i farwolaeth.[6]

Roedd Matthew Hopkins yn ‘heliwr-gwrachod’ (witch-hunter) enwocaf Lloegr adeg y Rhyfel Cartref (1642 – 1649). Roedd ei ymgyrchoedd hela yn canolbwyntio’n bennaf ar siroedd Dwyrain Anglia, Suffolk, Norfolk, Essex, a swydd Caergrawnt, a honnir ei fod wedi bod yn gyfrifol am ddienyddio tua 300 o wrachod rhwng 1644 a 1646. Amlinellodd Hopkins ei ddulliau sut i ddarganfod gwrachod yn ei lyfr a gyhoeddodd yn 1647 dan y teitl The Discovery of Witches.[9][10][11]

Roedd ofergoeliaeth a chred mewn dewiniaeth yn gyffredin iawn hyd at ganol y 19eg ganrif. Un o ddewiniaid (neu dynion hysbys) enwocaf a mwyaf poblogaidd Cymru oedd John Harries (1787-1839), o Bantcoy, Cwrt-y-cadno, plwyf Caio, Sir Gaerfyrddin. Roedd John Harries a’i fab Henry Harries yn ddoctoriaid ac yn seryddwyr. Er i’r ddau dderbyn hyfforddiant meddygol roeddynt yn adnabyddus yn lleol am ddefnyddio swynion, triniaethau perlysiau ac electrotherapi i wella eu cleifion.[12]

Daethant yn enwog hefyd am eu dawn i broffwydo’r dyfodol, darganfod eiddo a oedd ar goll neu wedi ei ddwyn, brwydro yn erbyn gwrachyddiaeth a chodi ysbrydion rhadlon. O ganlyniad fe’u condemniwyd yn llym gan grefyddwyr y 19eg ganrif.

Honnir i John Harries gadw un o’i lyfrau dan glo, gan fentro ei agor unwaith y flwyddyn mewn coedwig ddiarffordd gerllaw, lle byddai’n darllen swynion amrywiol o'r gyfrol i alw ysbrydion. Dywedir bod storm ddifrifol yn digwydd bob tro yr agorid y llyfr. Dyma sail y syniad bod pŵer y teulu’n deillio o’r gyfrol drwchus hon o swynion a oedd wedi ei rhwymo mewn cadwyn haearn â 3 chlo. Dywedir bod John Harries wedi cael rhagargoel y byddai’n marw drwy ddamwain ar Fai’r 11eg 1839, ac er mwyn osgoi hyn, arhosodd yn y gwely drwy’r dydd. Ond er gwaethaf ei ymdrechion i osgoi pob risg aeth y tŷ ar dân yn ystod y nos, a bu farw.[13][14][15]

Môr-ladrad

[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr 16eg a’r 17g roedd môr-ladrad yn drosedd a oedd ar gynnydd. Byddai môr-ladron yn ymosod ar longau a oedd yn cario nwyddau ac yn eu hysbeilio a'u dwyn. Roedd arfordir Cymru yn dynfa ar gyfer y math hwn o drosedd oherwydd bod ei harfordir mor eang a di-amddiffyn. Roedd Sir Benfro yn ganolog i weithgareddau môr-ladron, fel yn achos George Clark o Benfro, ac roedd de’r sir yn cael ei defnyddio fel pencadlys môr-ladron oedd yn ymosod ar longau oedd yn hwylio ar Fôr Hafren.[16] Gan fod modd gwneud arian o fôr-ladrata roedd yn drosedd a oedd yn denu rhwydwaith o wahanol bobl ar draws y gymdeithas - o foneddigion i bysgotwr mwy tlawd.

Dau o fôr-ladron enwocaf Cymru oedd yn ysbeilio llongau mewn moroedd y tu hwnt i Brydain oedd Barti Ddu, neu Bartholomew Roberts o Sir Benfro, a Henry Morgan, o Sir Fynwy. Roedd Henry Morgan (c.1635 – 88) yn perthyn i deulu bonedd, y Morganiaid, ystâd Tredegar, a daeth yn enwog adeg teyrnasiad Siarl II fel môr-leidr medrus. Ymosodai ar longau Sbaenaidd a phorthladdoedd masnachu yn y Caribȋ gan ddefnyddio Port Royal yn Jamaica fel pencadlys ei gyrchoedd treisgar. Gwnaed ef yn farchog yn 1674. Penodwyd ef yn Is-lywodraethwr Jamaica yn nes ymlaen ac mae diod rym enwog wedi cael ei enwi ar ei ôl.[17]

Roedd Barti Ddu yn ymosod ar longau oedd yn teithio ar draws Cefnfor yr Iwerydd a’r Caribȋ, ond bu farw’n ifanc yn 1722 mewn brwydr oddi ar arfordir Affrica. Cysylltir ef gyda fflag y ‘Jolly Roger’, sef y penglog a’r esgyrn.[18] Math arall o fôr-ladrata oedd herwlongwra. Yn ystod oes Elisabeth I roedd nifer o fôr-ladron yn ymosod ar longau trysor Sbaenaidd wrth iddynt hwylio'n ôl o’r Byd Newydd gyda thrysorau fel aur, arian a gemwaith. Roedd Elisabeth ei hun yn hyrwyddo morwyr fel Francis Drake a Walter Raleigh i ymosod a dwyn oddi ar longau tebyg drwy roi caniatâd brenhinol iddynt wneud hynny. Fe fyddai hi wedyn yn medru cael siâr o’r trysor.[19]

Y ddeunawfed ganrif

[golygu | golygu cod]

Smyglo

[golygu | golygu cod]
Prif: Smyglo

Roedd smyglo yn drosedd gyffredin iawn yn ystod y 18fed ganrif oherwydd y tollau uchel a roddwyd ar nwyddau fel halen, te, defnyddiau moethus fel sidan, gwirodydd a thybaco. Dyma oedd oes aur smyglo. Er mwyn osgoi talu’r tollau a’r trethi hyn byddai nwyddau yn cael eu cludo ar y môr a’u dosbarthu gan longau a fyddai’n glanio ar hyd rhannau diarffordd yr arfordir. Roedd arfordir gorllewin a de Cymru, ac arfordir de Lloegr yn ddelfrydol ar gyfer ysbeilio nwyddau liw nos oherwydd eu hogofâu cuddiedig a thraethau diarffordd. Defnyddiwyd sawl un o borthladdoedd bach Cymru fel mannau dosbarthu nwyddau gan fasnachwyr a dynion busnes.

Byddai’r smyglwyr yn gweithio mewn gangiau o 50-100 ac roedd dyletswyddau penodol gan wahanol aelodau’r gang - er enghraifft, Spotsmon, Glaniwr, Cychwr, Batsmyn. Roedd y Swyddogion Tollau yn wyliadwrus o’r arfordir gan wybod ei fod yn gyrchfan cyfleus a rhwydd i lanio nwyddau’r smyglwyr. Er hynny, un o’r rhesymau pam roedd smyglo mor gyffredin oedd oherwydd bod swyddogion y tollau’n gweithio’n ddi-dâl.

Ymhlith smyglwyr mwyaf adnabyddus y cyfnod roedd William Owen, a anwyd yn Nanhyfer, Sir Benfro yn 1717, ac a grogwyd ym Mai 1747 am lofruddiaeth.[20] Wedi i’r Llywodraeth leihau’r tollau ar nwyddau fel te yn y 1830au nid oedd cymaint o alw nac elw wrth smyglo nwyddau tebyg, ac roedd cyflwyno gwylwyr y glannau wedi llwyddo i atal llawer o weithgareddau’r smyglwyr.[20][21][22]

Lladron pen-ffordd

[golygu | golygu cod]
Paentiad[dolen farw] gan William Powell Frith o Ladron Pen-ffordd

Trosedd gyffredin arall yn ystod y 18g oedd lladrad pen-ffordd.  Lladron pen-ffordd oedd lladron ar gefn ceffylau. Byddent yn aros am goets a oedd yn dod o Lundain ar draws y wlad ac yn ymosod arni er mwyn dwyn oddi ar y teithwyr cyfoethog oedd yn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Roedd coets yn cael ei ddefnyddio hefyd i gario post ar draws y wlad.

Llwyddwyd i leihau nifer y lladron pen-ffordd drwy gael gwarchodwyr i deithio ar y goets. Gwellodd cynllun coetsis fel eu bod yn medru teithio yn fwy cyflym, ac erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd arwynebedd yr heolydd wedi cynyddu cyflymder teithio coetsis hefyd. Yn ogystal, cafodd mwy o fanciau eu sefydlu yn y trefi a’r dinasoedd felly roedd teithwyr yn llai tebygol o gario eu cyfoeth gyda nhw wrth deithio.[23][24][25]

Y bedwaredd ganrif ar bymtheg

[golygu | golygu cod]

Yn sgil y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain o’r 1750au ymlaen hyd at ganol y 1850au, cynyddodd maint y trefi yn gyflym iawn. Gan fod twf yn y boblogaeth yn y trefi roedd nifer y troseddau a gyflawnwyd yn cynyddu hefyd. Roedd nifer o resymmau am hyn;

  • Roedd amodau byw a gwaith gwael yn y trefi. Byddai llawer yn troi at ddiodydd meddwol i ddianc rhag eu problemau. Arweiniai hyn at ddyled ac at dorri’r gyfraith pan na fyddent yn yfed.
  • Roedd yr amodau byw gwael yn golygu bod afiechydon fel colera a theiffoid, oherwydd cyflenwadau dŵr brwnt, yn rhemp yn yr ardaloedd hyn. Roedd y gyfradd farwolaethau yn uchel iawn felly ac roedd nifer o blant oedd wedi colli eu rhieni yn crwydro’r strydoedd yn amddifad. Byddai llawer ohonynt yn troi at droseddu, fel pigo-pocedi, er mwyn cael arian i brynu bwyd.
  • Roedd cynllun cymhleth y trefi a’r dinasoedd, gyda’r tai wedi eu hadeiladu yn agos at ei gilydd a strydoedd cul a chyrtiau yn rhedeg rhyngddynt, yn rhoi llwybrau dianc cyflym i droseddwyr
  • Roedd llawer o’r cwnstabliaid a’r gofalwyr a oedd yn gyfrifol am gyfraith a threfn ar hyd strydoedd y trefi a’r dinasoedd yn rhy hen i redeg ar ôl troseddwyr. Roedd llawer o’r Ynadon Heddwch yn llwgr ac roedd maint y trefi/dinasoedd yn golygu bod llawer o droseddwyr yn anhysbys.
  • Yng Nghymru roedd ardaloedd fel China a Pontstorehouse yn ardaloedd tlawd iawn o Ferthyr Tudful ac oherwydd hynny roedd canran uchel o droseddau fel pigo pocedi, dwyn a phuteindra yn gyffredin yno.
  • Adeg dienyddiadau cyhoeddus byddai dwyn yn drosedd gyffredin iawn oherwydd byddai cynulleidfaoedd mawr yn dod ynghyd i weld y digwyddiad. Yn aml iawn byddai hancesi, tlysau neu oriorau poced ymhlith yr eitemau a fyddai’n cael eu dwyn.[26]

Terfysgoedd diwydiannol

[golygu | golygu cod]

Daeth y chwyldro diwydiannol â nifer o heriau newydd i'w ganlyn i'r Deyrnas Unedig. Arweiniodd dyfodiad peiriannau a allai ddisodli llafur dynol a diffyg hawliau gweithwyr at aflonyddwch sifil a therfysgaeth.

Mudiad y Siartwyr

Yn hanner cyntaf yr 1800au bu gweithredu diwydiannol yng Nghymru a Lloegr gan grŵp o'r enw'r Ludiaid. Yn yr ardaloedd gwledig roedd dyfodiad peiriannau newydd i waith tecstilau ac i fyd amaethyddiaeth wedi golygu bod nifer o weithwyr wedi colli gwaith. Dyma beth achosodd protestiadau’r Ludiaid rhwng 1811 a 1817 mewn ardaloedd yn Lloegr, ac yna rhwng 1830 a 32 digwyddodd Terfysgoedd Swing. Ar 28 Awst 1830, dinistriwyd peiriant dyrnu yn Lower Hardes yng Nghaergaint. Dyma’r cyntaf o bron i 1,500 o ddigwyddiadau yn y diwedd a oedd yn gysylltiedig â Therfysgoedd Swing.[27][28]

Wedi hynny achosodd Mudiad y Siartwyr aflonyddwch ar draws ardaloedd diwydiannol, gyda milwyr yn lladd nifer o brotestwyr rhwng 1839 a 1848. Yng Nghasnewydd, lladdwyd 20 o Siartwyr ac anafwyd tua 50 o bobl oherwydd gwrthdaro rhwng y protestwyr a’r milwyr pan wnaeth tua 3,000 o Siartwyr, gweithwyr haearn a glowyr orymdeithio i mewn i Gasnewydd er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r achos.[29]

Ym 1831 cyrhaeddodd sawl blwyddyn o aflonyddwch ymysg gweithwyr Merthyr Tudful a'r cyffiniau uchafbwynt treisgar a adnabyddir fel Gwrthryfel Merthyr. Pan wrthododd y dorf wasgaru, dechreuodd y milwyr eu saethu, a lladdwyd sawl un. Ar ôl y gwrthryfel dedfrydwyd rhai i garchar ac eraill i'w halltudio i Awstralia; a dedfrydwyd dau - Dic Penderyn a Lewis Lewis - i farwolaeth, y naill am drywanu milwr o'r enw Donald Black yn ei goes a'r llall am ysbeilio.[27][28]

Troseddau ardaloedd gwledig

[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru, bu cyfres o brotestiadau a elwid yn Helyntion Beca yn ardal de-orllewin Cymru oherwydd bod yn rhaid talu wrth y tollbyrth, yn ogystal â chwynion yn erbyn talu’r degwm i’r Eglwys. Roedd Terfysgoedd Beca wedi tynnu ar draddodiad lleol gwledig fel rhan o’u protestiadau yn erbyn y tollbyrth, sef y Ceffyl Pren. Roedd hwn yn draddodiad a oedd yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned fel rhyw fath o gyfiawnder cymdeithasol. Ei bwrpas oedd cosbi’r troseddwyr gan y gymdeithas pan na fedrai’r gyfraith wneud hynny. Y math o droseddau a gosbwyd oedd trais yn y cartref neu i gosbi troseddwyr rhyw. Gan nad oedd heddlu proffesiynol, parhaol yn bodoli yn y cyfnod hwn dyma’r ffordd roedd cymunedau gwledig yn rheoli a chynnal cyfraith a threfn yn eu hardaloedd.[28][30]

Roedd potsian yn drosedd gyffredin arall yn y cyfnod hwn. Gyda gweithwyr fferm yn colli eu gwaith oherwydd peiriannau newydd y Chwyldro Diwydiannol a chyflogau isel, roedd yn anodd iddynt gael deupen y llinyn ynghyd.  Byddai rhai yn troi at botsian am ffesantod, cwningod, neu bysgod, a olygai eu bod yn gorfod tresbasu ar dir y meistr liw nos. Roedd y gosb yn hallt gyda thrawsgludo neu ddienyddio yn cael eu defnyddio i gosbi’r drwgweithredwyr.[26]

Yr oes fodern

[golygu | golygu cod]
Heddlu yn chwilio am gyffuriau mewn car yn Awstralia

Yn yr 20fed ganrif gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y troseddau a gyflawnwyd. At ei gilydd, erbyn hynny roedd gwell systemau o ddarganfod troseddau a chofnodi troseddau. Gwelodd y ganrif gynnydd mewn troseddau yn ymwneud â cheir a thraffig, troseddau cyfrifiadurol a therfysgaeth ryngwladol. Mae troseddau yn ymwneud â chyffuriau wedi cynyddu hefyd oherwydd bod dwyn, bwrgleriaeth ac ymosodiadau yn cael eu cyflawni er mwyn cael arian i brynu cyffuriau. Yn ogystal, gwelwyd cynnydd difrifol mewn troseddau treisgar sy'n deillio o droseddau'n ymwneud â chyffuriau, yn enwedig yn ystod ail hanner yr 20g. Mae gangiau mawr yn trefnu rhwydweithiau soffistigedig o bobl sy'n cynhyrchu'r cyffuriau, yn eu dosbarthu a'u gwerthu.

Mae troseddau yn ymwneud â cheir wedi cynyddu oherwydd bod llawer mwy o geir ar y ffordd erbyn hyn na'r sefyllfa ar ddechrau’r 20g. Mae troseddau yn ymwneud â cheir yn amrywio o droseddau fel goryrru, yfed a gyrru, gyrru o dan ddylanwad cyffuriau, parcio anghyfreithlon, gyrru a defnyddio ffôn symudol, a defnyddio ceir i gyflawni troseddau fel ‘ram-raiding’, neu ‘joyriding’. Mae gyrru car heb MOT, heb yswiriant car a heb dreth car yn droseddau hefyd.

Golyga'r cynnydd yn y defnydd o dechnoleg newydd fel cyfrifiaduron yn ystod yr 20g bod troseddau newydd yn cael eu cyflawni. Mae’r troseddau hyn yn cynnwys hacio, gosod feirysau i ddifetha systemau, cyflawni twyll ariannol, twyll hunaniaeth, a bwlio seibr, er enghraifft, ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd hil a mewnfudo yn un o achosion y terfysgoedd a ddigwyddodd ym Mhrydain yn yr 20g.  Ar ddechrau’r ganrif bu terfysgoedd yng Nghaerdydd yn erbyn pobl Tsieineaidd a morwyr du ac yn nes ymlaen yn y ganrif bu gwrthdaro rhwng yr heddlu a’r gymuned ddu adeg Terfysgoedd Toxteth yn Lerpwl yn 1981.

Mae twf mewn terfysgaeth ryngwladol wedi bod yn un o nodweddion troseddau’r ganrif hon. Bu sôn cyson yn y newyddion am droseddau terfysgol yr IRA a oedd eisiau gweld Iwerddon gyfan yn cael ei throi’n weriniaeth. Yr IRA oedd yn gyfrifol am fomio Gwesty’r Grand yn Brighton yn 1984 adeg Cynhadledd Flynyddol y Ceidwadwyr. Roedd hwn yn ymdrech i ladd y Prif Weinidog, Margaret Thatcher. Lladdwyd 5 o bobl ac anafwyd 31.

Bu cynnydd yng ngweithgareddau terfysgol rhai mudiadau cenedlaetholgar yng Nghymru yn ystod y 1960au - er enghraifft, Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC), a fu ynghlwm â bomio pibellau dŵr oedd yn cario dŵr i Lerpwl. Roedd hyn mewn ymateb i Foddi Cwm Tryweryn, a gwblhawyd yn 1965 er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl. Yn ystod y 1980au bu mudiad Meibion Glyndŵr yn cynnal ymgyrch llosgi tai gwyliau yn ardal gogledd-orllewin Cymru oherwydd eu bod yn dadlau bod cymunedau Cymraeg eu hiaith o dan fygythiad gan fewnfudwyr o Loegr.

Mae’r cynnydd mewn terfysgaeth ryngwladol a’r twf mewn Islamiaeth radicalaidd wedi bod yn nodwedd sydd wedi dod i’r amlwg ers cychwyn y 21ain ganrif.  Roedd y sefyllfa wleidyddol yn y Dwyrain Canol wedi achosi terfysgaeth mewn rhannau eraill o’r byd hefyd - er enghraifft, Trychineb Lockerbie yn 1988.  Roedd yr ymosodiadau terfysgol ar Dyrrau Canolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd ar Fedi 11, 2001 yn dynodi pennod newydd a chynnydd sylweddol yn nifer yr ymosodiadau terfysgol ar draws y byd. Cyhoeddodd y mudiad terfysgol Islamaidd Al-Qaeda mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, a hwythau hefyd gymrodd y cyfrifoldeb am ymosodiad terfysgol yn Llundain yng Ngorffennaf 2005.[26]

Cosbau cyn 1900

[golygu | golygu cod]

Cyfraith Hywel

[golygu | golygu cod]

Yn ôl Cyfreithiau Hywel Dda, a ddefnyddiwyd hyd at y Deddfau Uno yng Nghymru, penderfynwyd maint yr iawndal, neu’r alanas, ar sail statws y dioddefwr yn y gymdeithas. Yn ôl Cyfreithiau Hywel Dda roedd llofrudd yn medru talu’r alanas ar ffurf gwartheg. Er enghraifft, roedd teulu penteulu yn cael 189 o wartheg fel galanas, uchelwr yn cael 126 o wartheg ac roedd galanas i deulu caethwas yn 6 o wartheg.[31] Roedd yr alanas yn medru cael ei benderfynu hefyd ar sail pa ran o gorff y dioddefwr oedd wedi cael ei anafu neu ei effeithio.[32]

Cosbau corfforol

[golygu | golygu cod]
Dynes yn y 'Gadair drochi'

Yn yr Oesoedd Canol, hyd at ac yn cynnwys cyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, pwrpas cosbau oedd dwyn gwarth a chywilydd ar y troseddwr a hefyd dangos bod y gymdeithas yn dial ar yr unigolyn hynny.  Pwrpas y gosb hefyd oedd rhybuddio eraill a chodi ofn arnynt i beidio cyflawni troseddau tebyg, oherwydd roedd cosb weledol yn dangos beth fyddai eu tynged hwy. Roedd cosbau felly yn ddigwyddiadau cyhoeddus ac fel arfer yn rhai mileinig a llym eu natur. Roedd gwarthnodi ac anffurfio’r corff ymhlith y math o gosbau a weinyddwyd.

Pwrpas y cosbau corfforol oedd bod y troseddwr yn dioddef poen, artaith neu hyd yn oed marwolaeth. Roedd natur y gosb yn cael ei phenderfynu gan natur y drosedd - er enghraifft, crogi oedd y gosb am lofruddiaeth, llosgi ar gyfer llosgi bwriadol neu heresi, ac yn achos crwydraeth gwarthnodwyd y talcen gyda ‘V’ neu chwipiwyd y dioddefwr.

Roedd y rhigod (pillory) a’r gadair drochi yn cael eu defnyddio i gosbi mân droseddau - er enghraifft, y rhigod am werthu bwyd gwael ac roedd y gadair drochi a Ffrwyn y Dafodwraig yn cael eu defnyddio ar gyfer menywod oedd yn poeni eu gwŷr, menywod gwenwynllyd neu rai oedd yn hel gormod o glecs.

Roedd y ffrwyn yn fframyn metel oedd yn gorchuddio’r pen, gyda darn o fetel yn cael ei wthio i mewn i’r geg dros y tafod.  Byddai’r gadair drochi hefyd yn cael ei defnyddio yn y llyn lleol fel prawf hefyd ar gyfer trosedd fwy difrifol, sef gwrachyddiaeth.[33]

Dau garcharor mewn rhigod gydag un arall yn cael ei chwipio isod.

Cosb arall ar gyfer mân droseddwyr oedd chwipio. Hyd ddiwedd y 18g roedd chwipio yn ddigwyddiad cyhoeddus er mwyn codi cywilydd ar y troseddwr a’i deulu ac er mwyn atal eraill rhag cyflawni yr un drosedd. Clymwyd y troseddwr wrth gert a’i chwipio o un lle mewn tref i le arall. Gallai’r gosb amrywio. Roedd yn dibynnu ar ba mor gyflym neu araf oedd y ceffyl yn mynd wrth dynnu’r cert, ac ar dymer y chwipiwr. Adeg y Tuduriaid roedd hon yn gosb a ddefnyddiwyd ar gyfer cardotwyr.

Gan amlaf, lleolwyd y rhigod yng nghanol y dref neu’r pentref fel bod y troseddwr yn gyff gwawd, a byddai pobl yn taflu bwyd pwdr er mwyn eu hisraddio ymhellach. Fel arfer byddai’r troseddwr wedi ei ddedfrydu i awr yn y rhigod ac yn gorfod sefyll ar ryw fath o lwyfan gyda’i ben a’i ddwylo mewn tyllau o fewn ffrâm sgwâr. Ar ben y troseddwr roedd darn o bapur wedi ei osod yn nodi manylion y drosedd. Pwrpas y math hwn o gosb oedd stopio rhai eraill a hefyd dweud wrth bawb pwy oedd y troseddwr. Roedd yn rhybudd i eraill i beidio ymddiried yn y dyn hwn. Cafodd llawer eu gosod yn y rhigod am dwyllo, enllib, camddefnyddio pwysau a mesurau ffug, ac am droseddau rhyw. Weithiau hoeliwyd clustiau'r unigolyn oedd wedi cael ei ddal yn dwyn yn sownd wrth bren y rhigod.

Byddai’r dorf a fyddai’n casglu yn taflu mwd, ffyn a cherrig at y troseddwr yn aml. Anafwyd rhai yn ddifrifol a bu eraill farw oherwydd y driniaeth a gawsant. Dyma’r rheswm pam daeth y gosb i ben yn 1837.

Roedd meddwon, gamblwyr a chrwydriaid yn cael eu gosod yn y stociau, sef fframyn pren lle rhoddwyd y coesau yn unig, oedd wedi eu lleoli yng nghanol pob pentref a thref.

Roedd fflangellu yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd yn ystod cyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid. Byddai dynion a menywod yn cael eu clymu i bostyn chwipio yng nghanol y dref neu’r pentref neu byddent yn cael eu clymu wrth gefn cert a’u harwain drwy’r strydoedd.[33]

Y Gosb Eithaf

[golygu | golygu cod]
Llosgi'r Merthyr Rawlins White

Roedd ymateb y Tuduriaid a’r Stiwartiaid i droseddau difrifol yn cael ei adlewyrchu yn y gosb, sef dienyddio drwy grogi neu losgi. Byddai unigolion a oedd yn cael eu canfod yn euog o deyrnfradwriaeth yn cael eu dienyddio naill ai drwy dorri eu pen i ffwrdd gyda bwyell neu drwy grogi, diberfeddu a phedrannu. Roedd pobl gyffredin a gafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth yn cael eu torri i lawr o’r rhaff yn fyw ac yna byddai eu perfeddion yn cael eu rhwygo allan o flaen eu llygaid. Byddai pennau yn cael eu torri i ffwrdd wedyn ac yna bydda eu cyrff yn cael eu torri'n bedwar rhan.[33]

Yng Nghymru roedd yr Esgob Rowland Lee yn adnabyddus am (ac yn wir yn brolio'r ffaith) ei fod wedi adfer cyfraith a threfn yng Nghymru oherwydd ei fod wedi crogi 5,000 o droseddwyr. Pan benodwyd Lee yn Llywydd Cyngor y Gororau gan Harri VIII yn 1534 roedd yn wynebu tasg anodd i sefydlu trefn yng Nghymru. Ers pasio Statud Rhuddlan gan Edward I roedd Cymru wedi ei rhannu rhwng y Dywysogaeth (a reolwyd dan Gyfraith y Brenin) acArglwyddi’r Mers, a oedd yn gweinyddu eu cyfreithiau eu hunain yn y Mers. Yn aml iawn byddai drwgweithredwyr oedd yn cyflawni troseddau yn y Dywysogaeth - er enghraifft, dwyn gwartheg neu ddwyn defaid, yn ceisio osgoi’r gyfraith drwy ddianc i’r Mers.[33]

Daeth Mari i gael ei hadnabod fel ‘Mari Waedlyd’ oherwydd ei thriniaeth erchyll o hereticiaid drwy eu llosgi wrth yr ystanc. Eu trosedd oedd gwrthod troi at y ffydd Gatholig. Llosgwyd tua 300 o bobl yn ystod ei theyrnasiad. Yng nghyfnod Elisabeth I crogi, diberfeddu a phedrannu oedd y gosb am deyrnfradwriaeth a llosgi i farwolaeth oedd y gosb ar gyfer gwrachyddiaeth hefyd.

Erbyn diwedd y 18g, roedd llawer o bobl yn credu mai’r unig ffordd i ddelio gyda’r cynnydd mewn troseddau oedd dienyddio’r troseddwyr. Erbyn hynny, roedd dros 200 o droseddau yn medru cael eu cosbi drwy ddienyddio.

Ond erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd llawer o farnwyr yn anghysurus gyda’r syniad o ddedfrydu troseddwr i farwolaeth am fân droseddau fel dwyn defaid neu ddwyn o bocedi. Roedd yn well gan rai droi at drawsgludo pobl. Yn raddol felly yn ystod y 19eg ganrif lleihawyd nifer y troseddau a gosbwyd drwy ddefnyddio'r gosb eithaf. Yn 1823, diwygiodd Robert Peel, sef yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, y Cod Troseddol, a dileu'r gosb eithaf ar gyfer dros 180 o droseddau. Hyd hynny roedd pigo pocedi, dwyn defaid, gwneud arian ffug yn cael yr un gosb â dynladdiad a llofruddiaeth.  Bellach, dim ond am lofruddio neu geisio llofruddio y byddai rhywun yn cael ei grogi.[34]

Golygfa crogi o baentiad gan Pisanello, 1436–1438

Yn Llundain byddai troseddwyr yn cael eu crogi mewn llefydd fel Tyburn. Crogwyd arweinyddion y ‘Pererindod Gras’ gan Harri VIII yn Tyburn.[35] Roedd cosbau cyhoeddus fel dienyddiadau yn denu tyrfaoedd mawr gan eu bod yn cael eu gweld fel math o adloniant. Byddent yn achlysuron pan fyddai llawer o droseddu yn digwydd, fel dwyn a phigo pocedi, puteindra a throseddau yn gysylltiedig â meddwdod. Byddai tyrfaoedd rhwng 35 a 40,000 yn casglu yn Tyburn ac amcangyfrifwyd bod 100,000 wedi casglu i weld torri pennau cynllwynwyr Cato Street am deyrnfradwriaeth yn 1820.[36]

Cynhaliwyd y crogi cyhoeddus olaf yn 1868. Roedd torfeydd yn arfer dod i wylio crogfeydd cyhoeddus. Roedd crogi yn dal i ddigwydd ym Mhrydain tan 1965, ond y tu ôl i ddrysau caeedig. Doedd crogi ddim yn anghyffredin - fe grogwyd Dic Penderyn am ei ran yng Ngwrthryfel Merthyr Tudful yn 1831. Roedd crogi fel arfer yn gosb i rai oedd wedi troseddu’n ddifrifol. Y dyn olaf i gael ei grogi'n gyhoeddus oedd Michael Barratt. Gwyddel oedd Barratt a oedd wedi gosod ffrwydron yn erbyn wal carchar i geisio cael Gwyddelod eraill allan o’r carchar. Method y cynllun ac fe laddodd y ffrwydrad 12 o bobl.

Yn 1868 felly penderfynodd y Llywodraeth y byddai crogi troseddwyr yn digwydd y tu mewn i furiau’r carchar. Cynhaliwyd y crogi diwethaf ym Mhrydain yn 1965.[37]

Trawsgludo

[golygu | golygu cod]
Merched yn Lloegr yn galaru am eu cariadon sydd i gael eu cludo i Awstralia, 1792.

Erbyn diwedd y 18g nid oedd nifer o’r cosbau corfforol llym a chyhoeddus a ddefnyddiwyd o gyfnod y Tuduriaid ymlaen yn cael eu defnyddio. Rhoddwyd terfyn ar gosbau fel gwarthnodi a hollti clustiau. Roedd gosod troseddwyr yn y rhigod yn cael ei weld bellach fel cosb rhy beryglus ac felly dechreuodd y Llywodraeth droi at ddulliau eraill. Un ohonynt oedd trawsgludo. Pasiwyd y Ddeddf Drawsgludo gan y Senedd yn 1718.

Roedd trawsgludo drwgweithredwyr yn apelio’n fawr at yr awdurdodau achos roedd yn gwaredu’r wlad yn barhaol o bobl beryglus. Roedd yn rhatach na gwario arian ar adeiladu carchardai newydd ac roedd angen gweithwyr rhad yn nhrefedigaethau Prydain, fel Awstralia. O 1718 ymlaen daeth trawsgludo yn gosb oedd yn cynnig dewis arall heblaw crogi ac fe barhaodd hyd 1868.  Fel arfer roedd dedfryd trawsgludo naill ai yn 7 neu 14 blynedd neu am weddill eu bywyd. Weithiau roedd modd ennill tocyn i ddod yn ôl yn gynnar.

Yn ôl amcangyfrifon roedd tua 56,000 o bobl wedi cael eu halltudio i America rhwng 1718 a 1785, sef tua chwarter o holl ymfudwyr Prydain i America yn ystod y cyfnod hwn. Gyda Rhyfel Annibyniaeth America daeth y trawsgludo i ben, ond o 1787 ymlaen dechreuwyd anfon troseddwyr i Awstralia. Trawsgludwyd tua 160,000 o Brydain yno rhwng 1787 a 1868. O’r rhain roedd 2,200 yn dod o Gymru. Ymhlith y rhain roedd John Frost, un o arweinyddion y Siartwyr yng Ngwrthryfel Casnewydd yn 1839, a Dai’r Cantwr, un o derfysgwyr Beca. Dychwelodd y ddau yma i Gymru ond eithriadau oedd y rhai a oedd yn dychwelyd.

Roedd y daith i America yn cymryd rhwng chwech ac wyth wythnos.  Roedd yr amodau ar y llong yn erchyll. Roeddent yn cael eu cadwyno yng ngwaelod y llong heb ddigon o fwyd ac awyr iach na dillad addas. Nid oedd rhai yn cael digon o ddŵr i’w yfed, ac er mwyn torri eu syched byddent yn yfed eu dŵr eu hunain. Roedd llawer yn dioddef clefydau oherwydd gorlwytho a diffyg glendid a byddai nifer yn marw wedi eu cadwyno mewn celloedd. Mae’n debyg fod y daith i Awstralia yn waeth oherwydd roedd y gyfradd farwolaethau yn uwch. Credir fod un o bob pump wedi marw ar y daith o Brydain.

Byddai’r mwyafrif o droseddwyr o Gymru yn hwylio i America neu Awstralia o Lundain. Byddai'r llysoedd yn gwneud trefniadau gyda’r ynadon heddwch i’w symud o’r carchardai yng Nghymru i Lundain.[38][39]

Glaniad y troseddwyr yn Botany Bay

Unwaith y byddai'r troseddwyr yn cyrraedd byddent yn cael eu rhoi mewn barics. Roedd bywyd yn galed ac yn greulon ac roeddent yn gorfod gwneud gwaith corfforol. Byddent yn gweithio mewn gangiau cadwyn ac roedd cosb gorfforol yn gyffredin iawn.  Roedd y boen o gael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd yn gosb lem i lawer ohonynt hefyd, ac mae’r baledi a ysgrifennodd rhai yn dangos eu hanobaith a’u hiraeth am adref.

Erbyn canol y 19eg ganrif roedd amodau byw'r troseddwyr yn Awstralia wedi gwella. Roedd sôn ym Mhrydain bod rhai pobl hyd yn oed yn troseddu yn fwriadol er mwyn cael eu hanfon i Awstralia. Bu cynlluniau i anfon gwragedd a phlant troseddwyr draw atynt i Awstralia cyn belled â bod y troseddwyr wedi ymddwyn yn iawn yn y wlad.

Roedd trawsgludo hefyd wedi dechrau colli cefnogaeth fel cosb addas ac ymarferol. Roedd llawer wedi beirniadu ers blynyddoedd y syniad o drawsgludo pobl i Awstralia, a bod y carcharorion yn ddylanwad drwg ar ei gilydd.  Roedd trefedigaethau fel Awstralia wedi dechrau cael digon ar y trefniant hwn hefyd, a daeth trawsgludo i ben yn 1868. Canlyniad hyn oedd mai carchar yn awr oedd y prif arf i gosbi troseddwyr.[39][40]

Carchardai

[golygu | golygu cod]
Prif: Carchar

Roedd carchardai’r 18g yn lleoedd ofnadwy. Nid oeddent wedi cael eu cynllunio i gadw carcharorion am dymor hir. Eu gwaith oedd cadw carcharorion nes byddai’r llysoedd yn eistedd neu nes byddent yn derbyn eu cosb. Felly, roedd problemau mawr o ran gorlenwi a chlefydau. Ond dechreuodd pobl fel John Howard ac Elizabeth Fry ymgyrch i ddiwygio'r carchardai, felly erbyn canol y 19eg ganrif roedd amodau yn llawer gwell, gyda mwy o bwyslais ar ddiwygio troseddwyr. Yn ystod y 20g gwelwyd datblygu carchardai modern, gyda meddygon, bwyd iach, cyfleoedd addysg ag ymarfer corff. Ers diwedd y 1960au mae carchardai wedi cael eu categoreiddio o A i D, er mwyn gwasanaethu troseddwyr risg isel a risg uchel. Sefydlwyd Canolfannau Cadw Ieuenctid gan y Llywodraeth, ac yn 1988 cyflwynwyd Sefydliadau Troseddwyr Ifanc. [41]

Plismona

[golygu | golygu cod]
Prif: Heddlu
Heddlu

Mae heddlu'n cael eu hawdurdodi gan wladwriaethau i orfodi'r gyfraith ac atal troseddau.

Yn y canol oesoedd nid oedd heddlu yn bodoli, er bod gan lawer o wledydd Ynadon Heddwch o ryw fath. Cafodd y gwasanaeth heddlu cyntaf a drefnwyd yn ganolog ei greu ym Mharis gan y Brenin Louis XIV, ac ym 1749 roedd modd dod o hyd i'r heddlu cyntaf yn Llundain. Fodd bynnag, ni ddaeth heddlu i lawer o ardaloedd gwledig Prydain tan Ddeddf Heddlu 1856, a nododd fod yn rhaid i bob sir sefydlu gwasanaeth heddlu. Datblygodd yr heddlu yn sylweddol yn yr 20g wrth i heddluoedd droi at dechnoleg newydd, fel ceir, radio a theledu cylch cyfyng er mwyn brwydro yn erbyn troseddau. Roedd yr heddlu hefyd yn dibynnu mwy ar dditectifs i adnabod cyflawnwyr troseddau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Trosedd a Chosb. Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru. tt. p.4.CS1 maint: extra text (link)
  2. "Cyfraith Hywel Dda | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2020-03-27.
  3. 3.0 3.1 3.2 Trosedd a Chosb. Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. tt. p.5.CS1 maint: extra text (link)
  4. Trosedd a Chosb. Cyd-bwyllgor Addysg CYmru. tt. p.4.CS1 maint: extra text (link)
  5. Trosedd a Chosb. Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. tt. p.19.CS1 maint: extra text (link)
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 "Effaith newid crefyddol yn ystod y 16eg ganrif - Achosion trosedd - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  7. "Crwydraeth, heresi a theyrnfradwriaeth yn yr 16eg ganrif - Natur troseddau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  8. "Twf pwysau economaidd yn ystod oes y Tuduriaid - Achosion trosedd - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  9. 9.0 9.1 "Gwrachyddiaeth". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-30.
  10. "Achosion a natur troseddau". BBC.
  11. "Matthew Hopkins". Encyclopedia Britannica.
  12. "Dewiniaeth". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  13. "Gwrachyddiaeth". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  14. Price, Fred S. (1904). A History of Caio, Carmarthenshire.
  15. "Llyfr Swynion John Harries". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-09.
  16. Davies, John (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 635.
  17. Davies, John (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 633.
  18. Davies, John (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 781.
  19. "Sir Francis Drake | Biography, Accomplishments, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  20. 20.0 20.1 "Hunangofiant Smyglwr | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2020-03-27.
  21. "Smyglo yn y 18fed ganrif - Natur troseddau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  22. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 860–861.
  23. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 562.
  24. "Twf lladrata pen ffordd yn y 18fed ganrif - Natur troseddau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  25. "Llofruddion a lladron Pen-ffordd: Y genre trosedd a chosb yng Nghymru'r 19eg Ganrif". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2019-12-09. Cyrchwyd 2020-03-27.
  26. 26.0 26.1 26.2 "Pwysau diwydiannu a threfoli - Achosion trosedd - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  27. 27.0 27.1 "Anhrefn amaethyddol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol - Natur troseddau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  28. 28.0 28.1 28.2 "Radicaliaeth a Phrotest 1810-1848" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 27 Mawrth 2020.
  29. "Industrial disorder during the Industrial Revolution - Nature of crimes – WJEC - GCSE History Revision - WJEC". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  30. "Gwarchod Stori Cymru". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2019-04-26. Cyrchwyd 2020-03-27.
  31. Trosedd a Chosb. Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. t. 4.
  32. Trosedd a Chosb. Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. t. 5.
  33. 33.0 33.1 33.2 33.3 "Agweddau yn y 16eg a'r 17eg ganrif - Agweddau tuag at gosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  34. "Ad-daledigaeth ac ataliaeth o'r 19eg ganrif i'r 21ain ganrif - Agweddau tuag at gosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  35. "Defnyddio'r gosb eithaf yn gyhoeddus hyd at y 19eg ganrif - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  36. Parry, Glyn (2001). Naid i Dragwyddoldeb. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. t. 34.
  37. "Pwrpas cosbi cyhoeddus drwy'r oesoedd - Agweddau tuag at gosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  38. Parry, Glyn (2001). Naid i Dragwyddoldeb. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. tt. 30–31.
  39. 39.0 39.1 "Y defnydd o alltudio o'r 1770au hyd at y 1860au - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  40. Parry, Glyn (2001). Naid i Dragwyddoldeb. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. tt. 30, 34.
  41. "Dulliau eraill o ddelio â charcharorion yn yr 20fed ganrif - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.