Thomas Jenkyn
Thomas Jenkyn | |
---|---|
Ganwyd | 1794 Merthyr Tudful |
Bu farw | 26 Mai 1858 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, academydd, glöwr, daearyddwr |
Cymro, glowr, gweinidog gyda'r Annibynwyr a daearegydd oedd Thomas Jenkyn (1794 – 26 Mai 1858).[1] Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r rhagddodiad anthropos- i ddisgrifio olion parhaol y ddynoliaeth ar greigiau'r blaned, rhagflaenydd y term modern yr Anthroposin .
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Thomas Jenkyn ym Merthyr Tydfil, 1794; roedd ei dad yn hannu o Lanymddyfri a'i fam o blwyf Llandeilo Fawr. Roedd pedwar o frodyr ei fam yn weinidogion gyda'r Bedyddwyr. Dechreuodd bregethu yn 1808 yn Soar, Merthyr, ac adnabyddid ef fel y boy preacher. Fe'i addysgwyd yn y Fenni a bu'n cadw ysgol ei hunan am gyfnod yn y Faenor, ger Merthyr. Oherwydd amgylchiadau cyfyng ei rieni gorfu iddo fynd i weithio i waith glo Penydarren. Âi i ysgol nos lle dysgodd Saesneg yn ysgol Sul y Wesleaid Saesneg ym Mhontmorlais. Aeth yn genhadwr i'r Genhadaeth Gartref i Ludworth a chafodd beth ysgol yno hefyd.
Trwy garedigrwydd cyfeillion aeth i Goleg Homerton, Llundain, ac arhosodd yno am bedair blynedd. Cafodd alwad i eglwys Annibynnol Wem, Swydd Amwythig, ac wedi pum mlynedd yno, symudodd i Groesoswallt. Traddododd yno gyfres o ddarlithiau ar yr Iawn a dynnodd gryn sylw, a chyhoeddwyd hwy sawl tro yn Saesneg ac un yn Gymraeg. Yn 1834 symudodd i Stafford; yno cyhoeddodd lyfr ar yr Ysbryd Glân. Oherwydd afiechyd gorfu iddo adael oddi yno ac aeth i'r Almaen lle bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Halle, lle'r oedd Tholuck a Gesenius yn athrawon. Gwahoddwyd ef i gadair diwinyddiaeth yng Ngholeg Coward, Prifysgol Llundain. Yn 1850, oherwydd uno'r coleg â cholegau eraill, symudodd i Rochester ac yno y bu hyd ei farwolaeth ar 26 Mai 1858. Ysgrifennodd amryw erthyglau i'r Popular Educator (Cassell) a'r Quarterly Review.
Jenkyn y Daearegwr
[golygu | golygu cod]Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd daearegwyr yn dadlau'n rheolaidd am ddynodi effeithiau gweithgaredd dynol yn y cofnod daearegol er i grefydd (a'i fydolwg diffygiol o fyr) barhau i ddylanwadu yn gryf ar ddaeareg yr oes. Hyd eithaf ein gwybodaeth[2] y cyhoeddiad cyntaf un i ddefnyddio'r rhagddodiad Groeg‘'anthropos-‘' i ddynodi'r epog ddynol oedd yn 1854 gan Athro Diwinyddiaeth o Gymro, a daearegwr, Thomas Jenkyn mewn cyfres o wersi ar ddaeareg yn y cyfnodolyn Popular Educator. Nid oedd hwn yn gyfnodolyn arbenigol lleiafrifol o bell ffordd. Fe'i cyhoeddwyd gyda'r is-bennawd 'gwyddoniadur cyflawn o addysg elfennol, uwch a thechnegol', ac roedd yn cynnwys gwersi i'r cyhoedd ar ystod eang o bynciau, o ffiseg pŵer stêm, i'r iaith Ladin i ddaeareg. A hwnnw'n cael ei adnabod fel ‘sefydliad cenedlaethol' fe ganmolwyd y cylchgrawn ar draws Prydain, gydag amcangyfrif o 100,000 o ddarllenwyr wythnosol[3]
Mewn darlith gynnar mae Jenkyn yn rhoi crynodeb byr o effaith gweithredoedd dynol parhaol ar y Ddaear, yn gyntaf fel heliwr-gasglwr, yna fel ffermwr, ac yn olaf fel sylfaenydd cymdeithas fodern. Ar ôl trafod difodiant rhywogaethau, a'r hyn y mae'n ei alw'n ‘nodweddion cyfnewidiol anifeiliaid' trwy ddomestigeiddio a cholli cynefin, mae'n nodi bod dynion yn gyfrifol am ‘llosgi coedwigoedd mawr, at ddibenion amaethyddol, ar raddfa enfawr yng Ngogledd America, ym Mrasil, yn Java, a'r rhan fwyaf o wledydd trofannol lle mae ardaloedd helaeth wedi'u difrodi'[4]. Mae'n swnio'n rhyfeddol o fodern.
Yna mae Jenkyn yn trafod dylanwad traenio corsydd, newid cyrsiau dŵr, ac adeiladu morgloddiau i ddal y cefnfor yn ôl, gan nodi'r effeithiau dynol mawr ar briddoedd a daeareg. Ar bwysigrwydd y newidiadau hyn mae'n nodi:
(Cyfieithiad) Nid yw'n debygol y bydd yr hil ddynol, wrth fyw yng nghanol y newidiadau daearegol y mae ei gwareiddiad yn ei gynhyrchu ar y ddaear, yn gallu ffurfio cysyniad digonol o'u pwysigrwydd ffisegol na'u gwerth gwyddonol. Os dychmygwch fod cyfandiroedd ein planed unwaith yn rhagor, fel y maent wedi bod yn aml, o'r blaen, wedi'u boddi dan donnau'r cefnfor, ac y byddai daearegwr rhyw fileniwm yn y dyfodol yn ymchwilio i'r ffenomenáu hynod gymhleth hyn, yna, iddo ef, byddai'r manylion a gofnodir yng ngwaith daearegol yr oes bresennol o werth anfesuradwy. Byddent yn rhoi goleuni newydd iddo yn ei ymholiadau, a gallu newydd yn ei brofion, wrth iddo bwyso a mesur fflora ffosil a ffawna ffosil y creigiau a ddyddodwyd yn yr hyn a elwid wedyn, yr epog dynol[5]
Yn ei ddarlith olaf, sef trafodaeth ar ei gyfnod presennol, mae Jenkyn yn ysgrifennu, 'Gallai holl greigiau diweddar, a alwyd yn ein gwers olaf Ôl-Bleistosen, fod wedi'u galw'n Anthroposöig, hynny yw, ‘creigiau bywyd dynol.'[6]. Wrth arsylwi ar yr effeithiau dynol ar y Ddaear yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jenkyn yn cael ei ddosbarth i ymgymryd ag arbrawf-meddwl eithaf syml. Dychmygwch (meddai) cofnod ffosil y dyfodol o esgyrn dynol, anifeiliaid domestig, difodiant cyflym rhywogaethau, ac effeithiau uniongyrchol newid wyneb y Ddaear, mae'n dod i'r casgliad y bydd rhain yn cofnodi'n glir ddylanwad cryf bodau dynol ar y Ddaear ar y pryd. Mae Jenkyn yn enwi ein presennol fel yr epog Anthroposöig (‘'human-life), yn seiliedig ar ddylanwad amlwg gweithredoedd dynol ar y ffosilau a geid yn y dyfodol. Mae arbrawf-meddwl Jenkyn yn dangos bod y syniad o ‘epoc dynol' yn gyfredol ac yn amlwg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Nid rhyw fath o rebal oedd Jenkyn o bell ffordd. Roedd syniadau o'r fath yn gyffredin ar y pryd. Ym Mhrydain, mae Llawlyfr Daeareg poblogaidd y Parchedig Samuel Haughton, a gyhoeddwyd ym 1865, yn defnyddio'r term Anthroposöig am y 'cyfnod yr ydym yn byw ynddo'. Yn yr Unol Daleithiau, mae llyfr dylanwadol yr Athro Daeareg James Dwight Dana o 1863, sydd hefyd yn dwyn y teitl Manual of Geology, yn cyfeirio'n helaeth at Oes y Meddwl ac Oes Dyn am y cyfnod daearegol diweddaraf. A degawd wedyn, yn 1873, cyhoeddodd yr offeiriad Eidalaidd a'r daearegwr Antonio Stoppani, yn ei gyfrol Corso di Geologia dan y pennawd "Cyfnod Cyntaf Oes yr Anthroposoig". Mae'n nodi'r grym sydd gan fodau dynol o gymharu â grymoedd naturiol eraill. Ond y Cymro Thomas Jenkyn oedd y cyntaf i amlygu'r syniad i ni.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "JENKYN, THOMAS WILLIAM (1794 - 1858), gweinidog ac athro diwinyddol gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ Lewis, S.L & Maslin, M.A. (2018) ‘'The Human Planet: How We Created the Anthropocene, Pelican Books
- ↑ Cyhoeddwyd Popular Educator gannthe House of Cassell; see Anon (1922), The Story of the House of Cassell (Cassell & Co)
- ↑ T. W. Jenkyn (1854), 'Lessons in Geology XLVI. Chapter IV. On the effects of organic agents on the Earth's crust', Popular Educator 4: 139-41
- ↑ Ibid. This was first, noted, to our knowledge, in P. H. Hansen (2013) The Summits of Modern Man: Mountaineering after the Enlightenment (Harvard University Press), and in a scientific context in S. L. Lewis and M. A. Maslin (2015), 'Defining the Anthropocene', Nature 519: 171-80
- ↑ T. W. Jenkyn (1854), 'Lessons in Geology XLIx. Chapter V. On the classifi-cation of rocks, section IV. On the tertiaries', Popular Educator 4: 312-16