Robert Isaac Jones (Alltud Eifion)
Robert Isaac Jones | |
---|---|
Ffugenw | Alltud Eifion |
Ganwyd | 1813 Pentrefelin |
Bu farw | 7 Mawrth 1905 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | fferyllydd, bardd, argraffydd |
Bardd, hynafiaethydd a golygydd o Gymru oedd Robert Isaac Jones (1815 – 7 Mawrth 1905), a fu'n adnabyddus wrth ei enw barddol Alltud Eifion.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Alltud Eifion yn 1815 yn Nhyddyn Iolyn, Mhentrefelin ger Porthmadog yn ardal Eifionydd yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd). Treuliodd ei oes yn yr ardal gan ennill ei fywoliaeth fel fferyllydd ym Mhorthmadog.[1]
Meddyg pobol ac anifeiliaid
[golygu | golygu cod]O du ei fam disgynnai Robert Isaac Jones o deulu Dr. Roberts, Isallt, Eifionydd, teulu enwog fel meddygon, a honnai yntau ddawn arbennig fel meddyg pobl ac anifeiliaid. (Yn 1884 cyhoeddodd lyfryn preifat tan yr enw Hanes ac Achyddiaeth Teulu Isallt. Cafodd addysg yn ardal ei gartref a thua 1831 aeth yn brentis at fferyllydd ym Mhwllheli; bu wedyn yng Nghaernarfon a Llundain. Yn 1838 agorodd fasnach fferyllydd yn Nhremadog, a alwai yn 'Cambrian Pill Depot,' a gwnaeth enw iddo'i hun gyda'r pelenni a hysbysebai fel meddyginiaeth anffaeledig at bob math o anhwylderau dynol[2][3].
Llenor a hynafiaethydd
[golygu | golygu cod]Roedd yn eisteddfodwr brwd a chyfansoddodd sawl cerdd. Nid oes bri mawr ar ei gerddi erbyn heddiw, ond gwnaeth gyfraniad fel golygydd a hynafiaethydd a gofir o hyd. Gwnaeth gasglaid o hynafiaethau ei fro a gyhoeddwyd ganddo yn y gyfrol Y Gestiana (1892). Ei gyfraniad mwyaf yn y maes hwnnw fodd bynnag oedd cyhoeddi'r cylchgrawn hynafiaethol Y Brython. Yn y cylchgrawn hwnnw cyhoeddwyd nifer o gerddi canoloesol o waith y Cywyddwyr ac eraill a manion hynafiaethol o bob math; cyhoeddwyd yn ogystal nifer o chwedlau gwerin Cymraeg, dywediadau'r werin a phenillion telyn. D. Silvan Evans oedd y golygydd cyntaf cyn i Alltud Eifion ei hun gymryd yr awenau.[1]
Y Brython
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd hefyd argraffwasg y tu ôl i'w siop yn Nhremadog, ac argraffodd yno lawer o gyhoeddiadau a llyfrau Cymraeg[3]. Cylchgrawn anenwadol misol, Cymraeg ei iaith a oedd yn cyhoeddi erthyglau ar lenyddiaeth, hynafiaeth a llên gwerin. Golygwyd y cylchgrawn gan Robert Isaac Jones rhwng Mehefin a Hydref 1858 a 1860-1863, efo'r geiriadurwr Daniel Silvan Evans (1818-1903) yn cymryd yr awenau yn ei absenoldeb. Ond oherwydd diffyg cefnogaeth ni chyhoeddwyd ar ôl 1863[3].
Bu farw 7 Mawrth 1905, a chladdwyd ef ym mynwent Ynyscynhaearn[3].
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Y Gestiana (Porthmadog, 1892)
- Y Brython (Porthmadog, 1858-1863)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
- ↑ Williams, Dewi (2007). "Anffaeledig belenni "Dryg Bach y Port"". Y Casglwr 32: 7. http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2032/32%2007.pdf.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Rowlands, William (1953). "JONES, ROBERT ISAAC ('Alltud Eifion '; 1815 - 1905), fferyllydd, llenor ac argraffydd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2023.