Queens
Gwedd
Math | bwrdeistref Dinas Efrog Newydd, consolidated city-county |
---|---|
Enwyd ar ôl | Catrin o Braganza |
Poblogaeth | 2,405,464 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Melinda Katz |
Cylchfa amser | UTC−05:00, UTC−04:00, Cylchfa Amser y Dwyrain |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Efrog Newydd |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 461 km² |
Gerllaw | Afon y Dwyrain, Swnt Long Island, Jamaica Bay, Cefnfor yr Iwerydd, Newtown Creek |
Yn ffinio gyda | Brooklyn, Y Bronx, Manhattan |
Cyfesurynnau | 40.7042°N 73.9178°W |
Cod post | 110-- |
Pennaeth y Llywodraeth | Melinda Katz |
Un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd, wedi'i leoli i'r gogledd-ddwyrain o Brooklyn ar ymyl orllewinol Long Island, ydy Queens. Enwyd y fwrdeistref ar ôl Catrin o Braganza (1638–1705), gwraig Siarl II, brenin Lloegr. Sefydlwyd Queens ym 1683 fel un o 12 siroedd gwreiddiol Talaith Efrog Newydd. Cafodd ei uno gydag Efrog Newydd ym 1898. Queens ydy bwrdeistref ail fwyaf poblog Dinas Efrog Newydd, gyda 2.2 miliwn o drigolion.
I bob pwrpas ymarferol mae'r un endid â Queens County sy'n un o'r siroedd yn nhalaith Efrog Newydd.