Playboy
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, men's magazine, nude magazine |
---|---|
Y gwrthwyneb | Playgirl |
Crëwr | Hugh Hefner |
Label brodorol | Playboy |
Golygydd | Hugh Hefner |
Cyhoeddwr | Playboy Enterprises, Hubert Burda Media Holding |
Iaith | Saesneg |
Tudalennau | 150 |
Dechrau/Sefydlu | 1 Hydref 1953 |
Dechreuwyd | Rhagfyr 1953 |
Prif bwnc | men's magazine |
Pencadlys | Chicago |
Enw brodorol | Playboy |
Gwefan | https://www.playboy.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Playboy yn gylchgrawn Americanaidd i ddynion, a gafodd ei sefydlu yn Chicago, Illinois ym 1953, gan Hugh Hefner a'i gyd-weithwyr. Mae'r cylchgrawn wedi datblygu i Playboy Enterprises, Inc., gyda phresenoldeb ymhob agwedd o fywyd bron. Yn ogystal â'r prif gylchgrawn yn yr Unol Daleithiau, cyhoeddir fersiynnau gwledydd unigol yn fyd-eang.
Mae gan y cylchgrawn hanes o gyhoeddi straeon byrion gan nofelwyr fel Arthur C. Clarke, Ian Fleming, Vladimir Nabokov, a Margaret Atwood. Mae Playboy yn cynnwys cyfweliadau misol gan bobl enwog megis artistiaid, penseiri, economegwyr, cyfansoddwyr, cyfarwyddwyr ffilm, newyddiadurwyr, nofelwyr, dramodwyr, arweinwyr crefyddol, athletwyr a gyrwyr ceir rasio. Ers cychwyn y cylchgrawn, mae ganddo agwedd ryddfrydig ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol.