Odl
Pan fo sillaf olaf dau air yn gorffen gyda'r un sain, fel arfer ar ddiwedd brawddeg ond nid bob amser, ceir odl (Saesneg: rhyme).
Er enghraifft mae "rhedeg" a "maneg" yn odli gyda'i gilydd ac felly hefyd "Môn" a ffôn". Gall gair unsill hefyd odli gyda gair deusill neu ragor e.e. mae "mi" a "eni" yn odli yn y ddwy linell sy'n dilyn gan Lewis Glyn Cothi:
- Un mab oedd degan i mi.
- Dwynwen! Gwae'i dad o'i eni.
Odl ddwbl ydy odl ble mae'r llafariad ar y goben (y sillaf olaf ond un) hefyd o'r un sain: "hoffi" a "coffi" neu "streipan" a "peipan".
Yng ngwaith y beirdd Cymraeg cynnar fel y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, mae lled-odl (neu "odl-Wyddelig") yn digwydd yn aml. Fel mae'r enw'n awgrymu, mae'r ddeuasain neu'r llafariaid yn cytuno ond mae'r gytsain yn amrywio. Er enghraifft, 'gwraig' - 'rhaid'. Nid ydy'r odl yma'n ffasiynol yn y Gymraeg erbyn heddiw.