Majel Barrett
Gwedd
Majel Barrett | |
---|---|
Ganwyd | 23 Chwefror 1932 Cleveland |
Bu farw | 18 Rhagfyr 2008 Bel Air |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llais, actor llwyfan, cynhyrchydd teledu |
Adnabyddus am | Star Trek |
Priod | Gene Roddenberry |
Plant | Rod Roddenberry |
Actores a chynhyrchydd Americanaidd oedd Majel Barrett-Roddenberry (ganwyd Majel Leigh Hudec; 23 Chwefror 1932 – 18 Rhagfyr 2008). Roedd hi'n adnabyddus am ei rhan fel Nyrs Christine Chapel yng nghyfres wreiddiol Star Trek ac fel Lwaxana Troi ar Star Trek: The Next Generation a Star Trek: Deep Space Nine. Hi hefyd oedd llais y rhyngwyneb cyfrifiadurol drwy'r gyfres i gyd. Daeth yn ail wraig i grëwr Star Trek, Gene Roddenberry.[1]
Fel gwraig i Roddenberry a chyda'i pherthynas glos â phob cyfres o Star Trek drwy gydol ei hoes,[1] cyfeirir ati weithiau fel "the First Lady of Star Trek". Priododd Roddenberry yn Siapan ar 6 Awst 1969, ar ôl canslo cyfres gyntaf Star Trek. Ganwyd un mab iddynt, Eugene "Rod" Roddenberry, Jr., a anwyd yn 1974.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod] Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.