iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: http://cy.wikipedia.org/wiki/John_Prichard-Jones
John Prichard-Jones - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

John Prichard-Jones

Oddi ar Wicipedia
John Prichard-Jones
Syr John Prichard-Jones
Ganwyd31 Mai 1845 Edit this on Wikidata
Bu farw17 Hydref 1917 Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson busnes Edit this on Wikidata
TadRichard Jones Edit this on Wikidata
PriodMary Coggan Coates, Marie Read Edit this on Wikidata
PlantJohn Prichard-Jones, Richard William Prichard-Jones Edit this on Wikidata

Roedd Syr John Prichard-Jones (31 Mai 184117 Hydref 1917), barwnig 1af, yn ŵr busnes, perchennog siop adrannol Dickins & Jones, Regent Street, Llundain ac yn gymwynaswr.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn fferm Tŷ’n y Coed, Niwbwrch, yn fab i Richard Jones, amaethwr a Jane (née Owen) ei wraig. Yn unol â’r drefn Gymreig, fel John Prichard roedd yn cael ei adnabod fel plentyn, ac yna fel John Prichard Jones wedi iddo gychwyn gweithio. Cofrestrodd ei enw yn swyddogol i John Prichard-Jones, trwy weithred pôl ychydig cyn ei farwolaeth.

Cafodd addysgu elfennol yn Ysgol Brydeinig Ddwyran

Bu’n briod ddwywaith ei wraig gyntaf oedd Mary Coggan o Muchley, Gwlad yr Haf. Bu hi farw ym 1901, ar ôl 24 mlynedd o fywyd priodasol, ni fu iddynt blant.[1]. Ym 1911 priododd Marie E Reid yn Hampstead a bu iddynt dau blentyn.

Wedi ymadael a’r ysgol symudodd Jones i Gaernarfon i fwrw prentisiaeth yn siop Owen Owen, dilledydd. Bu’n gweithio wedyn mewn siopau dillad ym Mangor, Wrecsam, Llundain, Dewsbury a Leeds cyn symud yn ôl i Lundain i dderbyn swydd fel prynwr yn siop adrannol Dickins, Smith & Stevens, Regent Street ym 1872. Yno fe'i dyrchafwyd yn olynol i reolwr, cyfarwyddwr, cadeirydd y bwrdd ac yn wedyn ym 1878 fe’i gwnaed yn bartner, gan newid enw’r siop i Dickins & Jones. Ym 1900 trodd Dickins & Jones yn gwmni cyfyngedig, gyda Jones yn gweithredu fel rheolwr cyfarwyddwr. Ym 1914 gwerthodd Jones y siop i gwmni Harrods am £700,000.[2]

Gwasanaeth cyhoeddus

[golygu | golygu cod]

Bu Prichard-Jones yn adnabyddus am ei wasanaeth cyhoeddus ac am ei haelioni i sefydliadau cyhoeddus. Roedd yn un o noddwyr y Warehousemen Clerks and Drapers School yn Purley, Surrey, lle rhoddwyd addysg i blant mewn angen i weithwyr y diwydiant dillad. Ym 1887 fe dalodd y ddyled a godwyd wedi i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd gwneud colled a gwasanaethodd fel trysorydd Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1909. Gwasanaethai fel trysorydd yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd; a thrysorydd y Bwrdd Penodiadau Cymreig. Roedd yn aelod o Gyngor Anrhydeddus Cymdeithas y Cymmrodorion, ac yn weithgar mewn nifer gymdeithas elusengar a chymdeithasol Cymreig a Chymraeg yn Llundain.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Môn ym 1905[3]

Sefydliad Niwbwrch

[golygu | golygu cod]

Ym 1903 sefydlwyd Sefydliad Prichard-Jones yn Niwbwrch. Adeiladodd y sefydliad neuadd gyhoeddus, llyfrgell a chwe bwthyn i dlodion y dref. Cost y fenter oedd £19,000 a thalwyd y cyfan gan John Prichard Jones.[4]

Mae neuadd, sydd yn adeilad rhestredig gradd 2, yn dal i gael ei ddefnyddio gan drigolion Niwbwrch hyd heddiw. Ym 1906 ymddangosodd y neuadd ar raglen y BBC Restoration lle fu’n cystadlu ag adeiladau eraill i gael ei adnewyddu. Er na enillodd y gystadleuaeth derbyniwyd nawdd yn 2008-2009 gan Fenter Môn, Cyngor Ynys Môn a Chynulliad Cymru i adnewyddu’r adeilad.[5]

Prifysgol Bangor

[golygu | golygu cod]

Trwy ei gyfeillgarwch gyda Syr John Morris-Jones ddaeth Prichard-Jones yn weithgar yn natblygiad Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu yn aelod o gyngor y coleg, gan wasanaethu fel ei is lywydd ym 1909. Hefyd ym 1909 cyfrannodd £19,000 i adeiladu prif neuadd ymgynnull adeiladau newydd y coleg, sef Neuadd Prichard Jones[6][7]. Ym 1913 derbyniodd gradd LlD er anrhydedd gan y Brifysgol.

Cafodd ei godi’n farwnig ym 1910[8]

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, Maes yr Hâv (sic), Elstree, Swydd Hertford yn 72 mlwydd oed. Cludwyd ei weddillion yn ôl i Fôn i’w claddu ym mynwent eglwys Niwbwrch[9].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "MRJPRICHARDJONES - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1902-08-29. Cyrchwyd 2017-03-21.
  2. "ISIRJPRICHARDJONESBARTI - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1917-10-19. Cyrchwyd 2017-03-21.
  3. "SYR JOHN PRICHARD JONES - Y Clorianydd". David Williams. 1918-01-30. Cyrchwyd 2017-03-21.
  4. "MR J PRICHARD JONES - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1902-08-29. Cyrchwyd 2017-03-21.
  5. "The Prichard-Jones Institute". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-03. Cyrchwyd 2017-03-21.
  6. "Haeifrydedd Mr Prichard Jones - Y Clorianydd". David Williams. 1909-12-09. Cyrchwyd 2017-03-21.
  7. Prifysgol Bangor, Neuadd prichard Jones[dolen farw]
  8. "Anrhydeddu Mr J Prichard Jones - Gwalia". Robert Williams. 1910-06-27. Cyrchwyd 2017-03-21.
  9. "ANGLADDYDIWEDDARSYRJPRICHARDJONESBAR - Y Clorianydd". David Williams. 1917-10-31. Cyrchwyd 2017-03-21.