Jim Nabors
Jim Nabors | |
---|---|
Jim Nabors yn portreadu ei gymeriad enwocaf, Gomer Pyle, ym 1968. | |
Ganwyd | James Thurston Nabors 12 Mehefin 1930 Sylacauga |
Bu farw | 30 Tachwedd 2017 Honolulu |
Label recordio | Columbia Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, digrifwr, actor teledu, artist recordio |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr efengyl, sentimental ballad, canu gwlad |
Math o lais | bariton |
Gwobr/au | Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.jimnabors.com |
Actor digrif a chanwr o'r Unol Daleithiau oedd James Thurston "Jim" Nabors (12 Mehefin 1930 – 30 Tachwedd 2017) a ddaeth yn enwog am bortreadu'r cymeriad Gomer Pyle yn y rhaglenni teledu comedi The Andy Griffith Show (1962–64) a Gomer Pyle, U.S.M.C. (1964–69). Bu hefyd yn ganwr poblogaidd, gan amlaf baledi rhamantaidd, canu'r efengyl ac emynau, canu gwlad, a chaneuon o sioeau cerdd.
Ganed ef yn Sylacauga, Alabama, yn fab i blismon. Yn ystod ei ddyddiau ysgol, canai yn y clwb glee a chôr yr eglwys, a chanai'r clarinét yng ngherddorfa'r ysgol. Derbyniodd radd mewn busnes o Brifysgol Alabama, a symudodd i Efrog Newydd i geisio am swydd ym myd y theatr, tra'n gweithio fel teipydd ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig. Ni lwyddodd i gael ei gyfle ar y llwyfan, felly symudodd i Tennessee i weithio fel torrwr ffilm i sianel deledu yn Chattanooga. Erbyn diwedd y 1950au bu'n dorrwr ffilm i NBC yn Los Angeles.[1]
Yn Santa Monica, Califfornia, perfformiodd Nabors ei ymsonion digrif a'i unawdau operatig yn ddi-dâl mewn clwb cabaret o'r enw The Horn. Yno, cafodd ei wahodd gan yr actor comig Bill Dana i roi clyweliad i The Steve Allen Show, ac ymddangosodd Nabors sawl gwaith ar y sioe honno cyn iddi ddod i'w therfyn ym 1961.[1] Wedi hynny, cafodd ei recriwtio gan Andy Griffith i bortreadu cymeriad rheolaidd ar The Andy Griffith Show, a ddarlledwyd ar CBS ers 1960. Ymddangosodd Nabors yn y drydedd a'r bedwaredd gyfres o'r gomedi sefyllfa boblogaidd honno, o 1962 i 1964, yn rhan Gomer Pyle, gweithiwr gorsaf betrol yn nhref ffuglennol Mayberry, Gogledd Carolina. Byddai'n serennu mewn spin-off ei hun, Gomer Pyle, U.S.M.C., yn portreadu'r un cymeriad wedi iddo ymuno â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau. Parhaodd y rhaglen honno am bum cyfres, o 1964 i 1969.
Canodd Nabors i gynulleidfa'r teledu am y tro cyntaf mewn pennod o The Andy Griffith Show a fel perfformiwr gwadd ar The Danny Kaye Show ym 1964, a byddai'n canu mewn ambell golygfa ar Gomer Pyle, U.S.M.C. Wedi diwedd y sioe honno, cyflwynodd ei sioe amrywiaethol ei hun, The Jim Nabors Hour, ar CBS o 1969 i 1971. Yn y 1970au, ymddangosodd yn aml ar The Carol Burnett Show, a chyd-serennodd â Ruth Buzzi ar y rhaglen deledu i blant The Lost Saucer (1975–76). Ymddangosodd hefyd yn y ffilmiau The Best Little Whorehouse in Texas (1982), Stroker Ace (1983), a Cannonball Run II (1984). Rhyddhaodd nifer o albymau o ganeuon, ac o 1972 i 2014 bu'n canu "Back Home Again in Indiana" yn aml cyn dechrau ras geir yr Indianapolis 500, a gynhaliwyd yn flynyddol ar benwythnos Diwrnod Coffa.
Yn 2013 priododd Nabors â Stan Cadwallader, ei bartner ers 38 mlynedd, yn Seattle ychydig wythnosau wedi i briodasau cyfunryw gael eu cyfreithloni yn nhalaith Washington.[2] Bu farw Jim Nabors yn ei gartref yn Honolulu, Hawaii, yn 87 oed.[1]
Ffilmiau / Teledu
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Richard Severo, "Jim Nabors, 87, TV’s Gomer Pyle, Is Dead", The New York Times (30 Tachwedd 2017). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Hydref 2021.
- ↑ (Saesneg) "EXCLUSIVE: Actor Jim Nabors marries his longtime male partner", Hawaii News Now (30 Ionawr 2013). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Hydref 2021.
- Genedigaethau 1930
- Marwolaethau 2017
- Actorion ffilm yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Actorion ffilmiau comedi Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Actorion teledu'r 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cantorion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cantorion yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cantorion Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Cantorion yr efengyl
- Cantorion gwlad o'r Unol Daleithiau
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Alabama
- Digrifwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned yn Alabama
- Pobl fu farw yn Hawaii