Harri Williams
Harri Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1913 |
Bu farw | 1983 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Awdur Cymraeg a enillodd y Fedal Ryddiaith ym 1978 oedd Harri Williams (1913 – 1983).
Fe'i ganed yn Anfield, Lerpwl. Roedd yn faban pan gollwyd ei dad, y Capten Richard Williams, ar y môr yn Half Assini, Ghana. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Anfield Road yna Ysgol Llanallgo wedi symud i Farian Glas, Ynys Mon i fyw gyda'i nain. Wedi dychwelyd i Lerpwl parhaodd gyda'i addysg yn y 'Collegiate School'. Gadawodd yr ysgol ym 1929 a mynd i weithio fel clerc yn swyddfa Silcocks yn ardal y dociau. Yn 1934 fe'i derbyniwyd i Goleg Santes Catherine Rhydychen i baratoi ar gyfer y Weinidogaeth. Oddi yno aeth i Goleg y Bala i ddilyn y cwrs bugeiliol.
Bu'n weinidog yn Nhywyn, Meirionnydd o 1939 nes 1948. Yn y cyfnod hwn treuliodd ddwy flynedd yn ysbytai Machynlleth a Thalgarth yn dioddef o'r diciau a ffrwyth ei brofiad yno yw ei gyfrol Ward 8 a ddaeth yn agos at gipio'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli, 1962. Ym 1948 symudodd i fod yn weinidog yn Waunfawr, Sir Gaernarfon cyn symud i ofalu am y Tabernacl a Hirael Bangor ym 1955. Bu hefyd yn gofalu am yr adran fugeiliol yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth.[1]
Diddordebau
[golygu | golygu cod]Magodd ddiddordeb mewn gwylio adar am gyfnod gan gadw dyddiadur adarydda am y flwyddyn 1958. Ysgrifennodd yn helaeth ac yn ddiddorol am y broses o ddysgu.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Chwech o gewri cerdd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Cyf, 1962)
- Ward 8 (Gwasg Gomer, 1963)
- Rhagor o gewri cerdd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1967)
- Y Crist cyfoes (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1967)
- Crwydro'r Ynys Hir (Llyfrau'r Dryw, 1968)
- Crwydro Cernyw (Llyfrau'r Dryw, 1971)
- Rhyfel yn Syria (Christopher Davies, 1972)
- Ein ffydd heddiw (Argraffty'r Methodistaid Calfinaidd, 1976)
- Y Ddaeargryn fawr (Gwasg Gomer, 1978) (Medal Ryddiaith)
- Bonhoeffer, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)
- Deunydd Dwbl (Gwasg Gomer, 1982)
- Mam a fi (Gwasg Gomer, 1983)[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ YR YNYS HIR NEU YNYSOEDD HELEDD (OUTER HEBRIDES). ichtus (Hydref 2017).
- ↑ openlibrary.org