Defynnog
Eglwys Sant Cynog, Defynnog. | |
Math | pentref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cynog Ferthyr |
Daearyddiaeth | |
Sir | Maescar |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9°N 3.6°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref bychan yng nghymuned Maescar, Powys, Cymru, yw Defynnog.[1] Saif yn ardal Brycheiniog yn ne'r sir, fymryn i'r de o Bontsenni ar groesffordd lle mae'r A4067 o Ystradgynlais yn cwrdd â'r A4215. I'r de-orllewin ceir Y Gaer, sef caer Rufeinig.[2]
I'r de o'r pentref ceir y Fforest Fawr, sy'n ffurfio rhan ganolog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. I'r dwyrain o'r pentref ceir bryn 400 metr Cefn Llechid. Mae afon Senni yn llifo trwy'r pentref ar ei ffordd i aberu yn afon Wysg ger Pontsenni.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]
Gwenllian Morgan (neu ar lafar Miss Philip Morgan) (9 Ebrill 1852 - 7 Tachwedd 1939) oedd y ferch gyntaf yng Nghymru i gael ei gwneud yn Faer (neu'n Faeres). Roedd yn hynafieithydd a chyhoeddodd lyfrau am ei hardal.
Eglwys Sant Cynog a'r garreg ogham
[golygu | golygu cod]Cysegrir eglwys y plwyf i Sant Cynog, un o feibion Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog ac mae'r adeilad wedi'i chofrestru'n Radd 1 gan Cadw.[5] Dethlid gwylmabsant Cynog yr eilfed ddydd Iau o fis Hydref. Ceir colofn o garreg yn y llan a Chroes Geltaidd ar ei phen; ceir olion arysgrgif Ladin ac Ogam arni ond mae'n anarllenadwy bellach. Cyfarfu Daniel Rowland a Howel Harris am y tro cyntaf yn yr eglwys hon yn 1737.
Yn 1836 cysegrwyd eglwys arall ym mhlwyf Defynnog i Callwen.[6]
Ceir carreg gydag arysgrif Ladin o 5g neu 6g yn nhŵr yr eglwys. Arni nodir naill ai:
RVGMIATIO/FI0LI VENDONI
neu
D?0RVGNIATO/FI/LI VENDONI
"Carreg Rugniato, mab Vendonus".
Fe'i gosodwyd yn y mur yn y 14g a'i symud i gyntedd yr egwlys yn lled ddiweddar - gan ei gosod mewn concrid!
Hen ywen Defynnog
[golygu | golygu cod]Ceir ym mynwent Eglwys Sant Cynog hen ywen y credir ei bod oddeutu 5,000 o flynyddoedd oed. Mae'n 60 troedfedd o led ac wedi hollti'n ddwy: y naill yn 40 tr a'r llall yn 20 tr. Yn ei bon, ceir 120 modrwy ym mhob modfedd! Ar ei heithaf, mae coron y goeden yn 60 tr mewn diametr.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 12 Mawrth 2024
- ↑ An Inventory of the Ancient Monuments in Brecknock (Brycheiniog): Hill-forts and Roman remains. Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. 1986. t. 32. ISBN 978-0-11-300003-6.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Church of Saint Cynog, Maescar". British Listed Buildings. Cyrchwyd 17 December 2013.
- ↑ Rees, Rice (1836), An Essay on the Welsh Saints Or the Primitive Christians, Usually Considered to Have Been the Founders of the Churches in Wales, Longman, Rees, Orme, Brown, Green, and Longman, p. 153, https://books.google.com/books?id=h4gOAAAAQAAJ&pg=PA139, adalwyd 2016-04-07
- ↑ "5000 years and counting". Woodlands.co.uk. Cyrchwyd 29 April 2016.
Trefi
Aberhonddu · Crucywel · Y Drenewydd · Y Gelli Gandryll · Llanandras · Llandrindod · Llanfair-ym-Muallt · Llanfyllin · Llanidloes · Llanwrtyd · Machynlleth · Rhaeadr Gwy · Talgarth · Y Trallwng · Tref-y-clawdd · Trefaldwyn · Ystradgynlais
Pentrefi
Abaty Cwm-hir · Aberbrân · Abercegir · Abercraf · Aberedw · Abergwesyn · Abergwydol · Aberhafesb · Aberhosan · Aberllynfi · Aber-miwl · Aberriw · Abertridwr · Aberysgir · Adfa · Arddlin · Bachelldref · Y Batel · Betws Cedewain · Beulah · Bochrwyd · Bontdolgadfan · Y Bontnewydd-ar-Wy · Bronllys · Bugeildy · Bwlch · Caersŵs · Capel Isaf · Capel Uchaf · Capel-y-ffin · Carno · Casgob · Castell Caereinion · Castell-paen · Cathedin · Cegidfa · Cemaes · Ceri · Cilmeri · Y Clas-ar-Wy · Clatter · Cleirwy · Cnwclas · Coedybrenin · Coelbren · Comins-coch · Crai · Craig-y-nos · Crugion · Cwmdu · Cwm-twrch · Darowen · Defynnog · Derwen-las · Dolanog · Dolfor · Dylife · Einsiob · Erwd · Esgairgeiliog · Felindre, Maldwyn · Felin-fach · Y Foel · Ffordun · Gaer · Garth · Glan-miwl · Glantwymyn · Glasgwm · Y Groes · Gwenddwr · Heol Senni · Isatyn · Kinnerton · Libanus · Llan · Llanafan Fawr · Llananno · Llanarmon Mynydd Mawr · Llanbadarn Fynydd · Llanbadarn Garreg · Llanbister · Llanbryn-mair · Llandinam · Llandrinio · Llandyfaelog Tre'r-graig · Llandysilio · Llandysul · Llan-ddew · Llanddewi yn Hwytyn · Llanddewi Ystradenni · Llanelwedd · Llanerfyl · Llanfair Caereinion · Llanfair Llythynwg · Llanfechain · Llanfihangel Nant Brân · Llanfihangel Nant Melan · Llanfihangel Rhydieithon · Llanfihangel Tal-y-llyn · Llanfihangel-yng-Ngwynfa · Llanfrynach · Llangadfan · Llangadwaladr · Llangamarch · Llangasty Tal-y-llyn · Llangatwg · Llangedwyn · Llan-gors · Llangurig · Llangynidr · Llangynllo · Llangynog · Llangynyw · Llanhamlach · Llanigon · Llanllugan · Llanllwchaearn · Llanllŷr · Llanrhaeadr-ym-Mochnant · Llansanffraid Cwmdeuddwr · Llansanffraid-ym-Mechain · Llansantffraed (Aberhonddu) · Llansantffraed-yn-Elfael · Llansilin · Llanwddyn · Llanwnnog · Llanwrin · Llanwrthwl · Llanwyddelan · Llanymynech · Llan-y-wern · Llawr-y-glyn · Llechfaen · Llowes · Llys-wen · Llywel · Llwydiarth · Manafon · Meifod · Merthyr Cynog · Mochdre · Nant-glas · Nantmel · Pandy · Pencelli · Pencraig · Penegoes · Pengefnffordd · Pennant Melangell · Pentrefelin · Penybont · Pen-y-bont-fawr · Pilalau · Pipton · Pont-faen · Pontneddfechan · Pontrobert · Pontsenni · Pwllgloyw · Saint Harmon · Sarn · Sarnau, Brycheiniog · Sarnau, Maldwyn · Sgethrog · Snead · Sycharth · Talachddu · Talerddig · Tal-y-bont · Tal-y-bont ar Wysg · Tirabad · Trallong · Trecastell · Trefeca · Trefeglwys · Tregynon · Trelystan · Tre'r-llai · Tretŵr · Tre-wern · Walton · Yr Ystog