Cynnig ymchwil
Gwedd
Dogfen gan ymchwilydd academaidd yw cynnig ymchwil sy'n disgrifio'n fanwl bwriadau a chynlluniau'r awdur ar gyfer gwaith neu raglen ymchwil benodol. Mae'n rhaid i rai myfyrwyr gwblhau cynnig ymchwil cyn cyflwyno traethawd ymchwil ar gyfer gradd israddedig neu uwchraddedig. Yn aml mae'n rhaid i academyddion ac ymchwilwyr proffesiynol gwblhau cynnig ymchwil cyn cael eu penodi i swydd benodol neu gyn derbyn cyllideb ar gyfer eu gwaith.