iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: http://cy.wikipedia.org/wiki/Cawl
Cawl - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Cawl

Oddi ar Wicipedia
Cawl
Enghraifft o'r canlynolmath o fwyd neu saig Edit this on Wikidata
Mathsaig Edit this on Wikidata
Rhan oAlgerian cuisine, Russian cuisine, Ukrainian cuisine, coginio Ffrainc Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganappetizer Edit this on Wikidata
Olynwyd ganplat de relevé Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssbeis, broth, hylif, dressing Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gweler hefyd: Cawl Cymreig
Cawl tatws Romaniaidd

Bwyd yw cawl, sy'n cael ei goginio gan gyfuno cynhwysion megis llysiau a chig gydag isgell, sudd, dŵr neu hylif arall. Bydd y cynhwysion solid hefyd yn rhoi blas i'r hylif. Mae cawl yn aml yn llawn maeth, ac yn fwyd iach fel rheol gan ei fod yn rhoi'r teimlad o fod yn llawn yn llawer cynt na nifer o fwydydd eraill.[1]

Yn draddodiadol, caiff cawliau eu dosbarthu mewn dau grŵp, cawliau clir a chawliau trwchus. Yn Ffrainc mae enwau penodol pellach ar gyfer y dosbarthiadau sef bouillon neu consommé am gawl clir. Caiff cawliau trwchus eu dosbarthu yn ôl y cyfrwng a ddefnyddir i'w drwchu: cawliau llysiau sydd wedi eu trwchu gyda starts yw purée; cragenbysgod ar ffurf purée, neu llysiau gyda hufen yw bisque; gall cawliau hufen cael eu trwchu gyda saws béchamel; a caiff cawliau veloutés eu trwchu gydag wyau, menyn a hufen. Defnyddir yn aml hefyd reis, blawd neu grawn i drwchu cawl.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Gair benthyg o'r Lladin yw "cawl", yn deillio o'r gair "caulis", sydd yn golygu 'coesyn planhigyn' neu 'goesyn bresych'.[2][3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Jack Challoner (26 Mai 2009). How soup can help you lose weight. BBC.
  2. Lewis, Henry. 1943. Yr Elfen Ladin Yn Yr Iaith Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t. 34
  3. http://www.ultralingua.com/onlinedictionary/dictionary#src_lang=Latin&dest_lang=English&query=caulis
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am cawl
yn Wiciadur.