Carson McCullers
Carson McCullers | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1917 Columbus |
Bu farw | 29 Medi 1967 o gwaedlif ar yr ymennydd Nyack |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, dramodydd, llenor, sgriptiwr, rhyddieithwr |
Adnabyddus am | The Heart Is a Lonely Hunter, The Member of the Wedding |
Mam | Marguerite Waters Smith |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gorchest Merched Georgia, Cymrodoriaeth Guggenheim |
Gwefan | http://carson-mccullers.com |
llofnod | |
Nofelydd, dramodydd ac awdures straeon byrion o'r Unol Daleithiau oedd Carson McCullers (Lula Carson Smith) (19 Chwefror, 1917 – 29 Medi, 1967).
Cafodd ei geni yn Columbus, Georgia. Priododd Reeves McCullers ym 1937, a wnaethont ysgaru a phriodi eto. Roedd Carson a Reeves yn ddeurywiol.[1] Roedd y ddau ohonynt hefyd yn ysmygu ac yn yfed alcohol yn drwm. Lladdodd Reeves ei hunan ym 1953. Ar ôl bywyd o iechyd gwael, bu farw Carson McCullers o strôc ym 1967.
Gelwir ei harddull yn aml yn Gothig De'r Unol Daleithiau. Roedd ei gwaith yn enwog am bortreadu trefi unig ac adfeiliedig, ac ymddieithriad cymdeithasol a rhywiol eu trigolion.[1] Yn ôl Michiko Kakutani, beirniad llenyddol The New York Times, prif thema ei ffuglen yw "unigrwydd unigolion ynysedig a'u hawydd llafurus am berthynas".[2] Galwodd Gore Vidal waith McCullers yn "un o'r ychydig o lwyddiannau digonol ein diwylliant eilradd".[3]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Nofelau
[golygu | golygu cod]- The Heart Is a Lonely Hunter (1940)
- Reflections in a Golden Eye (1941)
- The Member of the Wedding (1946)
- Clock Without Hands (1961)
Arall
[golygu | golygu cod]- The Ballad of the Sad Cafe (1951) (straeon byrion)
- The Square Root of Wonderful (1958) (drama)
- Sweet as a Pickle and Clean as a Pig (1964) (barddoniaeth)
- The Mortgaged Heart (1972)
- Illumination and Night Glare (1999)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Whatling, Clare (8 Gorffennaf 2005). McCullers, Carson (1917-1967). glbtq.com. Adalwyd ar 13 Awst 2012.
- ↑ (Saesneg) Kakutani, Michiko (2 Mawrth 2001). Portrait of a Troubled Writer as an Eternal Adolescent. The New York Times. Adalwyd ar 13 Mawrth 2012.
- ↑ Carr, Virginia Spencer (2005). Understanding Carson McCullers. University of South Carolina Press. t. 124. ISBN 1-57003-615-2.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Canolfan Carson McCullers
- (Saesneg) Prosiect Carson McCullers Archifwyd 2014-01-07 yn y Peiriant Wayback
- Genedigaethau 1917
- Marwolaethau 1967
- Beirdd benywaidd yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Beirdd Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Dramodwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Llenorion LHDT o'r Unol Daleithiau
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Llenorion straeon byrion Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Nofelwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned yn Columbus, Georgia
- Pobl fu farw yn Efrog Newydd
- Pobl fu farw o strôc