Arweinydd yr Wrthblaid (DU)
Gwleiddydd sy'n arwain yr Wrthblaid Swyddogol (Gwrthblaid Mwyaf Teyrngar Ei Mawrhydi) yn y Deyrnas Unedig yw Arweinydd Gwrthblaid Mwyaf Teyrngar Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig (a adnabyddir yn gyffredin fel Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin). Mae hefyd Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi. Ar un adeg roedd arweinwyr gwrthblaid yn y ddau Dŷ â statws cyfartal, os nad oedd un yn Brif Weinidog diweddar yn y blaid a ffurfiodd yr Wrthblaid Swyddogol. Ond, ers cychwyn yr 20g, does dim dadl wedi bod mai'r arweinydd yn Nhŷ'r Cyffredin yw'r arweinydd di-gyffelyb.
Fel arfer, Arweinydd yr Wrthblaid yw arweinydd y blaid fwyaf sydd ddim yn llywodraethu, sef y baid ail fwyaf yn Nhŷ'r Cyffredin. Cysidrir hwy yn Brif Weinidog amgen, ac maent yn aelod o'r Cyfrin Gyngor.
Arweinydd yr Wrthblaid presennol yw Keir Starmer, arweinydd y Y Blaid Llafur.
Arweinwyr yr Wrthblaid
[golygu | golygu cod]Mae'r tabl isod yn rhestru'r bobl a oedd yn, neu a weithredodd fel, Arweinwyr yr Wrthblaid yn y ddwy dŷ seneddol ers 1807.
Roedd arweinwyr y ddwy dŷ o statws cyfartal hyd 1922, os nag y bu un yn Brif Weinidog yn ddiweddar. Cysidrwyd gyn-Brif Weinidogion i fod yn arweinwyr cyffredinol ar gyfer yr wrthblaid. O 1922 ymlaen, cysidrwyd mai Arweinydd y blaid yn Nhŷ'r Cyffredin oedd arweinydd cyffredinol yr wrthblaid. Dengys enau'r arweinwyr cyffredinol mewn print trwm. Dengys enwau'r arweinwyr gweithredol mewn italig, os na ddaeth yr arweinydd gweithredol yn arweinydd llawn yn ddiweddarach yn ystod cyfnod di-dor fel arweinydd.
Oherwydd darniad y ddau brif blaid gwleidyddol rhwng 1827 ac 1830, mae enwau'r arweinwyr a gynnigir ar gyfer y prif gwrthblaid yn rai dros dro.
Mae + wedi enw, yn dynodi y bu faw'r arweinydd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
Nodiadau:
- 1 Cyn Brif Weinidog
- 2 Daeth yn Brif Weinidog yn ddiweddarach
- 3 Cyn Brif Weinidog a ddaeth yn Brif Weinidog eto yn ddiweddarach
- A Cynnigiai Foord y bu Lansdowne, mewn effaith, yn gweithredu fel arweinydd y Blaid Chwig o 1824–1827. Mae'n bosib mai dyma oedd yr achos o 1828–1830 yn ogystal. Mae erthygl Grey yn yr Oxford Dictionary of National Biography yn cynnig "... though he called on Lansdowne to take up the leadership of the opposition he was still unwilling to give it up altogether". Roedd Grey yn yr wrthblaid ym 1827–1828, pan oedd Lansdowne yn llywodraethu. Oherwydd dryswch y gwleidyddiaeth ar y pryd, yn enwedig wedi 1827 pan bu'r ddwy blaid yn ddarniad, mae'n bosib mai Grey ddylid gael ei gysidro fel Arweinydd yr Wrthblaid o 1824–1830. Ond, mae datganiadau pendant (gan Foord) fod Grey wedi ymddeol yr arweinyddiaeth ym 1824 a (gan Cook & Keith) na ail-gymerodd Grey yr arweiniaeth tan Tachwedd 1830.
- B Dadansoddid amgen yw y bu Palmerston (y cyn Brif Weinidog diwedddaraf) a'r Arglwydd John Russell (cyn Brif Weinidog) yn gyd-arweinwyr. Ond, mae Cook & Keith yn rhestru Palmerston fel yr arweinydd.
- C Ymddeolodd Harcourt ar 14 Rhagfyr 1898.
- D Ymddeolodd Rosebery ar 6 Hydref 1896.
- E Collodd Balfour ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Ionawr 1906.
- F Yn ystod llywodraeth clymblaid Asquith o 1915–1916, nid oedd gwrth blaid swyddogol yn Nhŷ'r Cyffredin na'r Arglwyddi. Yr unig blaid nad oedd yn rhan o glymblaid Rhyddfrydol, Llafur a Ceidwadol Asquith oedd Plaid Cenedlaetholgar Iwerddon a arweinwyd gan John Redmond. Ond, roedd y blaid yn gefnogol o'r llywodraeth a ni weithredont fel gwrthblaid.
- Ymddeolodd Syr Edward Carson o'r glymbalid ar 19 Hydref 1915, ef oedd y ffigwr mwyaf blaengar ymysg cynghreiriaid Undebwyr Iwerddon y Baid Geidwadol1. Felly daeth yn un o'r Undebwyr nad oedd yn aelod o'r llywodraeth ac felly, yn weithredol, yn arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin.
- G Collodd Asquith ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin ym 1918.
- H Sylwebodd Douglas yn The History of the Liberal Party 1895-1970, fod "The technical question whether the Leader of the Opposition was Maclean or William Adamson, Chairman of the Parliamentary Labour Party, was never fully resolved ... The fact that Adamson did not press his claim for Opposition leadership is of more than technical interest, for it shows that the Labour Party was still not taking itself seriously as a likely alternative government".
- I Ni apwyntiodd y Blaid Lafur arweinydd yn Nhŷ'r Arglwyddi, tan iddynt ffurfio eu llywodraeth cyntaf ym 1924.
- J Collodd Henderson ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin 27 Hydref 1931.
- K Gweithredodd Lansbury fel arweinydd, yn absonoldeb Henderson o Dŷ'r Cyffredin, ym 1931–1932; cyn dod yn arweinydd y blaid go iawn ym 1932.
- L Gweithredodd Attlee fel arweinydd, wedi ymddeoliad Lansbury ar 25 Hydref 1935, cyn cael ei ethol yn arweinydd y blaid ar 3 Rhagfyr 1935.
- M Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithredodd olyniaeth o wleidyddion Llafur fel Arweinydd yr Wrthblaid er mwy galluogi i Dŷ'r Cyffredin barhau i weithredu. Ond, oherwydd bu llywodraeth 1940–1945 yn lywodraeth clymblaid lle gwithredodd gwleidyddion Llafur yn gyflawn fel aelodau o'r llywodraeth, o'r Is-brif Weinidog Clement Attlee ac i lawr, ni dderbyniodd unrhyw un ohonynt gyflog fel Arweinydd yr Wrthblaid.
- Y Blaid Lafur Annibynnol a arweinwyd gan James Maxton oedd y blaid fwyaf a wrthwynebodd y rhyfel ac nad oedd yn ran o'r glymblaid, ac felly mewn theori hwy oedd yr wrthblaid. Ond, gyda ond tri AS, atalwyd hwy rhag gymryd drosodd mainc blaen yr wrthblaid.
- N Nid oedd yr Arglwydd Addison yn aelod o'r llywodraeth glymblaid yn ystod y rhyfel. Pan fu Llafur mewn llywodraeth o Mai 1940 hyd Mai 1945, yn ôl pob tebyg gweithredodd Addison fel Arweinydd technegol yr Wrthblaid, yn yr un modd ag arweinwyr gweithredol Tŷ'r Cyffredin.
- O Isiarll Cranborne yw'r teitl cwrteisi a roddir i etifeddydd teitl Ardalydd Salisbury. Mae dau Arglwydd Cranborne wedi bod yn Arweinwyr yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi. Eisteddont yn Nhŷ'r Arglwyddi oherwydd gwrit cyflymiad a effeithiodd un o'r Barwniaethau teuluol.
- P Yn gyffredinol, yr arweinydd gweithredol wedi marwolaeth neu ymddiswyddiad yr arweinydd, ond yn ôl cyfansoddiad y Blaid Lafur, y gwir arweinydd tan i arweinydd newydd gael ei ethol. Cyn 1981, etholwyd arweinydd gwrthblaid y Blaid Lafur Seneddol yn flynyddol. Wedi 1981, etholwyd yr arweinydd gan goleg etholaethol yng nghynhadleddau'r blaid.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- British Historical Facts 1760–1830, Chris Cook a John Stevenson (The Macmillan Press 1980)
- British Historical Facts 1830–1900, Chris Cook a Brendan Keith (The Macmillan Press 1975)
- His Majesty's Opposition 1714–1830, Archibald S. Foord (Oxford University Press 1964)
- History of the Liberal Party 1895–1970, Roy Douglas (Sidgwick & Jackson 1971)
- (Saesneg) Smith, E. A. "Grey, Charles, second Earl Grey (1764–1845)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/11526.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- Twentieth Century British Political Facts 1900–2000, David Butler a Gareth Butler (Macmillan Press 8fed rhifyn, 2000)