iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: http://cy.wikipedia.org/wiki/Anne_Sexton
Anne Sexton - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Anne Sexton

Oddi ar Wicipedia
Anne Sexton
Ganwyd9 Tachwedd 1928 Edit this on Wikidata
Newton Edit this on Wikidata
Bu farw4 Hydref 1974 Edit this on Wikidata
o carbon monoxide poisoning Edit this on Wikidata
Weston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Boston
  • Garland Junior College Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, llenor, awdur plant Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Oberlin
  • Prifysgol Boston
  • Prifysgol Colgate Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLive or Die Edit this on Wikidata
PlantLinda Gray Sexton Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth, Shelley Memorial Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.anne-sexton.net/ Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd oedd Anne Sexton (9 Tachwedd 1928 - 4 Hydref 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, ac awdur plant. Mae ei cherddi'n hynod bersonol a chyffrous gan fanylu ar ei brwydr hir gydag iselder, tueddiadau hunanladdol a manylion personol eraill am ei bywyd preifat, gan gynnwys perthynas â'i gŵr a'i phlant. Datgelodd yn ddiweddarach ei bod wedi dioddef ymosodiad corfforol a rhywiol. Enillodd Wobr Pulitzer am farddoniaeth yn 1967 am ei llyfr Live or Die.[1][2][3][4]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Ganed Anne Gray Harvey yn Newton, Massachusetts, UDA ar 9 Tachwedd 1928 a bu farw yn Weston, Massachusetts o fygu. Ei mam oedd Mary Gray (Staples) Harvey (1901–1959) a'i thad: Ralph Churchill Harvey (1900–1959).

Roedd ganddi ddwy chwaer hŷn, Jane Elizabeth (Harvey) Jealous (1923-1983) a Blanche Dingley (Harvey) Taylor (1925-2011). Treuliodd y rhan fwyaf o'i phlentyndod yn Boston. Ym 1945, cofrestrodd yn ysgol breswyl Rogers Hall, Lowell, Massachusetts, gan dreulio blwyddyn yn Ysgol Garland yn ddiweddarach. Am gyfnod, modelodd ar gyfer "Asiantaeth Boston's Hart". Ar 16 Awst 1948, priododd Alfred Muller Sexton II ac arhosodd y ddau gyda'i gilydd tan 1973. Ganwyd ei phlentyn cyntaf, Linda Gray Sexton, ym 1953 a ganwyd ei hail blentyn, Joyce Ladd Sexton, ddwy flynedd yn ddiweddarach.[5][6]

Y bardd

[golygu | golygu cod]

Dioddefodd Sexton o anhwylder deubegwn difrifol am lawer o'i bywyd; cafwyd y cyfnod manig cyntaf ym 1954. Yn dilyn ei hail ysgytwad, yn 1955, cyfarfu â Dr. Martin Orne, a ddaeth yn therapydd hirdymor iddi yn Ysbyty Glenside. Ef a'i hanogodd i ysgrifennu barddoniaeth.[6][7]

Arweiniwyd y gweithdy barddoniaeth cyntaf a fynychwyd ganddi gan John Holmes. Cafodd ei chanmol yn gynnar am ei barddoniaeth; derbyniodd feirniadaeth canmoladwy iawn gan The New Yorker, Harper's Magazine a'r Saturday Review. Astudiodd Sexton wedyn gyda Robert Lowell ym Mhrifysgol Boston, ochr yn ochr â beirdd mwya'r cyfnod - Sylvia Plath a George Starbuck.

O fewn 12 mlynedd o ysgrifennu ei soned gyntaf, roedd ymhlith y beirdd mwyaf anrhydeddus yn yr Unol Daleithiau i enillydd Gwobr Pulitzer, a daeth yn gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth a'r aelod benywaidd cyntaf o siapter Harvard o Phi Beta Kappa.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Phi Beta Kappa am rai blynyddoedd. [8]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1969), Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth (1967), Shelley Memorial Award (1967)[9][10] .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2008. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
  2. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_343. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Anne Sexton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton".
  4. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Anne Sexton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Sexton".
  5. Nelson, Cary (2008-08-27). "Anne Sexton Chronology". Modern American Poetry website. University of Illinois at Urbana–Champaign. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Chwefror 2009. Cyrchwyd 2009-02-20. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. 6.0 6.1 Morris, Tim (1999-04-23). "A Brief Biography of the Life of Anne Sexton". University of Texas at Arlington. Cyrchwyd 2009-02-20.
  7. Carroll, James (Fall 1992). "Review: ‘Anne Sexton: A Biography’". Ploughshares 18 (58). Archifwyd o y gwreiddiol ar 4 Tachwedd 2007. https://web.archive.org/web/20071104042713/http://www.pshares.org/issues/article.cfm?prmArticleid=3360. Adalwyd 2009-01-18.
  8. Anrhydeddau: http://www.pulitzer.org/awards/1967. dyddiad cyrchiad: 21 Ebrill 2015. https://psa.fcny.org/psa/awards/frost_and_shelley/shelley_winners/.
  9. http://www.pulitzer.org/awards/1967. dyddiad cyrchiad: 21 Ebrill 2015.
  10. https://psa.fcny.org/psa/awards/frost_and_shelley/shelley_winners/.