iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: http://cy.wikipedia.org/wiki/Anhwylder_Gorfodaeth_Obsesiynol
Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol

Oddi ar Wicipedia
Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol
Mathanhwylder gorbryder, Anhwylder rheoli ergyd, anhwylder system nerfol genetig, anhwylder genetig Edit this on Wikidata
Rhan oneurodivergence Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol
Mathanhwylder gorbryder, Anhwylder rheoli ergyd, anhwylder system nerfol genetig, anhwylder genetig Edit this on Wikidata
Rhan oneurodivergence Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) yn fath o anhwylder gorbryder sy’n achosi meddyliau obsesiynol ac ymddygiad cymhellol. Mae obsesiynau yn feddyliau ailadroddus y gellir eu gweld yn afresymol, ond na ellir eu hanwybyddu. Gall fod yn ddifrifol, ond fe ellir ei drin.

Gellir dweud bod gan yr anhwylder dair nodwedd. Y meddyliau sy’n achosi pryder i bobl (obsesiynau), y gorbryder y mae pobl yn ei deimlo, a’r hyn y mae pobl yn ei wneud er mwyn lleddfu eu pryder (gorfodaethau). Enghraifft gyffredin o hyn yw pan fydd pobl yn glanhau yn ddiymollwg er mwyn lleihau’r pryder sy’n deillio o ofn obsesiynol meicrobau a haint.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl ffyrdd penodol i wneud pethau ac i bryderu yn eu cylch. Serch hynny, mae’r rhai sy’n dioddef o OCD yn tueddu i ganfod bod eu hobsesiynau a’u gorfodaethau yn eu gwanhau’n ddybryd, yn meddiannu eu bywyd a’u bod yn rhoi gofynion a baich ainnifyr arnynt.

Bydd pobl ag OCD yn profi meddyliau, delweddau neu deimladau ailadroddus sy’n drallodus. Maent yn cyflawni defodau neu arferion (gorfodaethau) sy’n gwneud iddynt deimlo’n well am ychydig. Gall defodau OCD fod yn amlwg i bobl eraill (fel gwirio cloeon drws) neu gallent ddigwydd yn eich pen (fel cyfrif neu geisio gwrthsefyll meddyliau negyddol gyda rhai cadarnhaol).

Daw meddyliau OCD ymhob lliw a llun, ond yn aml maent yn cylchdroi o amgylch pethau fel perygl, baw a halogiad, neu bryderon ynghylch rhywioldeb neu grefydd.

Symptomau

[golygu | golygu cod]
  • ofn haint
  • ofn niweidio rhywun arall
  • ofn ymddwyn yn annerbyniol
  • angen cymesuredd a manwl gywirdeb
  • eich meddwl yn cael ei ‘feddiannau’ gan feddyliau erchyll dro ar ôl tro
  • yn ofnus, wedi’ch ffieiddio, yn euog, yn ddagreuol, yn betrus neu’n isel
  • cymhelliad pwerus i wneud rhywbeth i atal y teimladau
  • rhyddhad dros dro ar ôl cyflawni defodau
  • yr angen i ofyn am sicrwydd neu i gael pobl i gadarnhau pethau i chi

Triniaeth

[golygu | golygu cod]

Efallai y cewch gynnig Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) gan ddefnyddio techneg o’r enw ataliaeth ymateb i amlygiad (ERP), sy’n eich helpu i deimlo’n llai gofidus dros eich meddyliau. Mae meddyginiaethau a all helpu hefyd.[1][2][3][4]

Gweler Hefyd

[golygu | golygu cod]

Adnoddau allanol

[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall

  1. "Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol". meddwl.org. 2017-02-25. Cyrchwyd 2022-05-04.
  2. "Intrusive Thoughts". Made of Millions Foundation (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-04.
  3. "See Me is Scotland's Programme to tackle mental health stigma and discrimination". www.seemescotland.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-04.
  4. "Obsessive Compulsive Disorder | OCD Symptoms & Support". YoungMinds (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-04.