iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.
iBet uBet web content aggregator. Adding the entire web to your favor.



Link to original content: http://cy.wikipedia.org/wiki/Amwythig
Amwythig - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Amwythig

Oddi ar Wicipedia
Amwythig
Mathtref sirol, tref farchnad, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Amwythig, Swydd Amwythig
Poblogaeth71,715, 76,802 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1189 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iZutphen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd37.99 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr71 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Hafren Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaWem Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7081°N 2.7544°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04011358, E04010538 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ491124 Edit this on Wikidata
Map

Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Amwythig (hefyd Yr Amwythig, ar lafar yn bennaf; hen ffurf: Mwythig; Saesneg: Shrewsbury).[1] Amwythig yw tref sirol a chanolfan weinyddol awdurdod unedol Swydd Amwythig, sy'n llai na'r sir seremonïol. Mae Afon Hafren yn llifo trwy'r dref.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 71,715.[2]

Awgrymir Amwythig fel safle Pengwern, llys brenhinoedd teyrnas Powys cyn i'r deyrnas honno golli ei thir yn y dwyrain i Mersia,[3] ond does dim sicrwydd am hynny.

Codwyd castell ar y safle gan y Normaniaid yn 1070. Ymwelodd Gerallt Gymro ag Amwythig yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Cipiwyd Amwythig gan Lywelyn Fawr yn 1215, ac eto yn 1234.

Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I o Loegr ei senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru a brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ar 30 Medi dedfrydwyd Dafydd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru.

Mae'r dref yn enwog am ei hysgol ramadeg i fechgyn a agorodd yn 1552; mae'r gwyddonydd Charles Darwin a'r bardd Syr Philip Sydney yn gyn-ddisgyblion. Hi oedd yr unig le lle ceid gwasanaeth trên uniongyrchol o dde-ddwyrain, de-orllewin, canolbarth a Gogledd Cymru.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]

Mae llawer o adeiladau hanesyddol yn y dref:

Cysylltiadau Cymreig

[golygu | golygu cod]

Y wasg Gymraeg yn Amwythig

[golygu | golygu cod]

Symudodd Thomas Jones (1648-1713) yr almanaciwr ei wasg o Lundain i Amwythig yn 1695 i gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Am tua 70 o flynyddoedd ar ôl hynny Amwythig oedd canolfan y fasnach lyfrau Cymraeg (dim tan 1718 y cafwyd y wasg drwyddedig gyntaf yng Nghymru).

Ar ddiwedd y 18fed ganrif roedd gan Stafford Prys wasg yn y dref. Ei gyhoeddiad mwyaf uchelgeisiol efallai oedd y flodeugerdd Gymraeg Gorchestion Beirdd Cymru (1773).

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 12 Ebrill 2021
  2. City Population; adalwyd 12 Ebrill 2021
  3. Gwefan Cymru Catalonia; PRIF DDINAS I GYMRU (Papur a ddarllenwyd i Gymdeithas Lenyddol Parkfield, Penbedw), Y Geninen, rhif 2, cyf. XIII (Ebrill 1895), tt.81-85)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]