Mimosa (llong)
Llong hwylio oedd y Mimosa, Tea Clipper wedi'i haddasu i gludo pobl, efo 447 tunnell o gynhwysedd. Teithiodd tua 160 o Gymry arni i Batagonia yn yr Ariannin (i ran a elwir bellach yn: Wladfa) a hynny yn 1865.
Gyrfa (Y Deyrnas Unedig) | |
---|---|
Enw: | Mimosa |
Perchennog: | Robert Vining, William Killey, Lerpwl; Daniel Green |
Adeiladwyd: | Alexander Hall a'i Feibion, Aberdeen |
Cost: | £5,916 |
Lansiwyd: | 21 Mehefin 1853 [1] |
Tynged: | Collwyd yn Calabar.[2] |
Nodweddion cyffredinol | |
Pwysau: | 447 tunnell NM, 540 tunnell OM |
Hyd: | 139.9 tr. |
Trawst: | 25.5 tr. |
Dyfnder yr hold: | 15.6 tr. |
Cynllun yr hwyliau: | 3 hwylbren [1] |
Gadawodd Lerpwl yn Lloegr ar 28 Mai, 1865 a chyrraedd Borth Madryn (heddiw: Puerto Madryn) ym Mae Newydd (Golfo Nuevo yn Sbaeneg), Patagonia ar ôl taith o 2 fis, ar 28 Gorffennaf. Er fod y tywydd yn dda yn ystod y daith, roedd bywyd yn galed iawn a bu nifer o blant farw. Ysgrifennodd Joseph Seth Jones, argraffydd o Ddinbych, ddyddiadur ar y llong sydd yn dangos pa mor galed oedd y daith.
Ar y dechrau, roedd yn rhaid byw mewn ogofâu clogwyn ar draeth Porth Madryn am amser, ac ar ôl mynd i Rawson roedd yn rhaid dygymod â'r tir gwahanol a hinsawdd dieithr, ac roedd prinder bwyd yn parhau am rai blynyddoedd.
Mae olion yr ogofâu lle roedd y Cymry'n byw yn ystod y cyfnod cyntaf i'w weld erbyn heddiw.
Teithwyr 1865
golyguEnw | Nodyn |
---|---|
Austin, Thomas Tegai | Ganwyd: 1854, Aberpennar. Amddifad. Yn byw gyda Daniel & Mary Evans. Priodwyd: Mary Elizabeth Williams, 27 Mai 1875, Y Wladfa. |
Austin, William | Ganwyd: 1852, Aberpennar. Amddifad. Yn byw gyda Daniel & Mary Evans. Priodwyd: Jane Hughes, 19 Mehefin 1873, Rawson, Y Wladfa. |
Davies, Evan | Aberdâr |
Davies, Ann | Aberdâr. Gwraig Evan Davies. |
Davies, Margaret Ann | Aberdâr. Merch Evan & Ann Davies. |
Davies, James (Iago Dafydd) | Ganwyd: c. 1847, Brynmawr. Bu farw: Chwefror 1866, Y Wladfa. |
Davies, John (Ioan Dafydd) | Ganwyd: c. 1847, Aberpennar. |
Davies, Lewis | Ganwyd: c. 1841, Aberystwyth. |
Davies, Rachel | Aberystwyth. Gwraig Lewis Davies. |
Davies, Thomas G. | Aberystwyth. Mab Rachel & Lewis Davies. |
Davies, Robert | Llandrillo. |
Davies, Catherine | Llandrillo. Gwraig Robert Davies. |
Davies, William | Llandrillo. Mab Robert & Catherine Davies. |
Davies, Henry | Llandrillo. Mab Robert & Catherine Davies. |
Davies, John | Ganwyd: c. 1864, Llandrillo. Mab Robert & Catherine Davies. Bu farw: 27 Mehefin 1865 ar y Mimosa. |
Davies, John E. | Aberpennar. |
Davies, Selia | Aberpennar. Gwraig John E. Davies. |
Davies, John | Aberpennar. Mab John E. & Selia Davies. |
Davies, Thomas | Aberdâr. |
Davies, Eleanor | Ganwyd 1819, Blaenporth. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr cyntaf yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais. Ail-briododd â Thomas Davies yn Aberdâr yn 1863. Bu farw: 1884, Y Wladfa. |
Davies, David | Aberdâr. Mab Thomas Davies (priodas 1af). |
Davies, Hannah | Aberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af). |
Davies, Elizabeth | Aberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af). |
Davies, Ann | Aberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af). |
Davies, William | Lerpwl. |
Ellis, John | Lerpwl. |
Ellis, Thomas | Lerpwl. |
Ellis, Richard | Llanfechain, Llanidloes. |
Ellis, Frances | Llanfechain, Llanidloes. |
Evans, Daniel | Aberpennar. Priodwyd: Mary Jones |
Evans, Mary | Gwraig Daniel Evans. Ganwyd: 1836, Y Pîl. Bu farw: 1912, Y Wladfa. |
Evans, Elizabeth | Merch Daniel & Mary Evans. Ganwyd: c. 1860, Aberpennar. |
Evans, John Daniel | Mab Daniel & Mary Evans. Ganwyd: c. 1862, Aberpennar. Bu farw: 6 Mawrth 1943. |
Evans, Thomas Pennant (Twmi Dimol) | Ganwyd: c. 1836, Pennant Melangell. Criw. Priodwyd: Elizabeth Pritchard, 30 Mawrth 1866. Bu farw: Chwefror 1868 ar Y Denby. |
Greene, Thomas William Nassau | Ganwyd: 1844, Kilea, Swydd Kildare, Iwerddon. Criw: Llawfeddyg. Bu farw: Ionawr 1921, Dulyn, Iwerddon. |
Harris, Thomas | Aberpennar. |
Harris, Sara | Aberpennar. Gwraig Thomas Harris. |
Harris, William | Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris. |
Harris, John | Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris. |
Harris, Thomas | Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris. |
Harris, Daniel | Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris. |
Hughes, Catherine | Penbedw. |
Hughes, Griffith | Ganwyd: c. 1829, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. Glöwr. |
Hughes, Mary | Gwraig Griffith Hughes. Ganwyd: c. 1834, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. |
Hughes, Jane | Merch Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c. 1853, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. Priododd â William Austin, 19 Mehefin 1873, Rawson |
Hughes, Griffith | Mab Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c. 1856, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. |
Hughes, David | Mab Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c. 1859, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. |
Hughes, John | Yn fyw yn Rhosllannerchrugog. Ganwyd: c. 1835. Bu farw: 13 Mawrth 1866, Y Wladfa |
Hughes, Elizabeth | Gwraig John Hughes. Ganwyd: c. 1826. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. |
Hughes, William John | Mab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1855. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. |
Hughes, Myfanwy Mary | Merch John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1861. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. |
Hughes, John Samuel | Mab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1863. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. |
Hughes, Henry | Mab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1864, Rhosllannerchrugog. Bu farw 5 Awst 1865, Porth Madryn. |
Hughes, Hugh J. (Cadfan) | Ganwyd: c. 1825, Sir Fôn. Bu'n byw yn Lerpwl. Saer. |
Hughes, Elizabeth | Gwraig Hugh J Hughes (Cadfan). Ganwyd: c. 1820, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl. |
Hughes, Jane | Merch Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1843, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl. |
Hughes, David | Mab Hugh J & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1854, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl. |
Hughes, Llewelyn | Mab Hugh J & Elizabeth Hughes. Ganwyd: 1861, West Derby, Lerpwl. |
Hughes, Richard | Caernarfon. |
Hughes, William | Ynys Môn. |
Hughes, Jane | Ynys Môn. Gwraig William Hughes. |
Hughes, Jane | Ynys Môn. Merch William & Jane Hughes. |
Hughes, William | Abergynolwyn. |
Humphreys, Maurice | Ganwyd: c. 1838, Ganllwyd, Dolgellau. Priodwyd: Elizabeth Harriet Adams, 1864, West Derby, Lerpwl. |
Humphreys, Elizabeth Harriet | Ganwyd: 1844, Cilcain. Gwraig Maurice Humphreys. |
Humphreys, Lewis | Ganllwyd, Dolgellau. |
Humphreys, John | Ganllwyd, Dolgellau. |
Huws, Rhydderch | Manceinion. |
Huws, Sara | Manceinion. Gwraig Rhydderch Huws. |
Huws, Meurig | Manceinion. Gwraig Rhydderch & Sara Huws. |
Jenkins, Aaron | Ganwyd: 1 Awst 1831, Sain Ffagan, Caerdydd. Priodwyd (1): Mary James Davies, 27 Ionawr 1855, Merthyr Tudful. Priodwyd (2): Rachel Evans, 14 Medi 1860, Merthyr Tudful. Priodwyd (3): Margaret Jones, 12 Medi 1868, Coednewydd, Y Wladfa. Bu farw: 17 Mehefin 1879, Chubut, Y Wladfa. Glöwr. |
Jenkins, Rachel | Aberpennar. Ail wraig Aaron Jenkins. |
Jenkins, James | Aberpennar. Mab Aaron & Rachel Jenkins. |
Jenkins, Richard | Mab Aaron & Rachel Jenkins. Ganwyd: 5 Mai 1861, Troed-y-rhiw, Merthyr Tudful. Priodwyd: Mary Evans 22 Mehefin 1895. Bu farw: Esquel, Y Wladfa. |
Jenkins, Thomas | Ganwyd: 3 Rhagfyr 1862, Aberpennar. Bu farw: 11 Mehefin 1865 ar y Mimosa. |
Jenkins, Rachel | Merch Aaron & Rachel Jenkins. Ganwyd: 26 Mehefin 1865 ar y Mimosa. Bu farw: 22 Medi 1865, Rawson. |
Jenkins, William | Aberpennar. |
John, David | Aberpennar. |
John, Mary Ann | Aberdâr. |
Jones, Evan | Ganwyd 1845, Llangoedmor. Mab Eleanor Davies (priodas 1af). Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr. Bu farw: 1930, Y Wladfa. |
Jones, Thomas | Ganwyd 1849, Llangoedmor. Mab Eleanor Davies (priodas 1af). Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr. Priododd â Sarah Jones (gweddw James Jones) yn 1870. Bu farw: 1934, Y Wladfa. |
Jones, David | Ganwyd 1852, Llangoedmor. Mab Eleanor Davies (priodas 1af). Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr. Bu farw: 1899, Buenos Aires. |
Jones, Elizabeth | Ganwyd 1855, Llangoedmor. Merch Eleanor Davies (priodas 1af). Yn dilyn marwolaeth ei thad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr. Bu farw: 1889, Y Wladfa. |
Jones, Elizabeth | Aberpennar. |
Jones, Anne | Bethesda. |
Jones, George | Lerpwl. |
Jones, David | Ganwyd: 1847, Lerpwl. Bu farw: 1868, Y Wladfa. |
Jones, James | Ganwyd c. 1838, Sir Gaerfyrddin. Ymfudodd o Aberpennar. Bu farw: 1868, pan suddodd y 'Denby' oddi ar arfordir Y Wladfa. |
Jones, Sarah | Ganwyd 1840. Gwraig James Jones. Ymfudodd o Aberpennar. Ail-briododd â Thomas Jones yn 1870. Bu farw: 1907, Y Wladfa. |
Jones, Mary Anne | Aberpennar. Merch James & Sarah Jones. |
Jones, James | Aberpennar. Mab James & Sarah Jones. |
Jones, John | Ganwyd 1805, Y Pîl. Ymfudodd y teulu o Aberpennar. Ail-briododd â Catherine Hughes (Beaumaris) yn 1870. Bu farw: 1882, Y Wladfa. |
Jones, Elizabeth | Ganwyd 1810, Y Pîl. Ymfudodd y teulu o Aberpennar. Bu farw: 1869, Y Wladfa. |
Jones, Richard | Ganwyd 1843, Llangynwyd. Mab John & Elizabeth Jones. Ymfudodd y teulu o Aberpennar. |
Jones, Ann | Ganwyd 1849, Maesteg. Merch John & Elizabeth Jones. Ymfudodd y teulu o Aberpennar. Priododd Edwyn Cynrig Roberts yn 1866. Bu farw: 1913, Bethesda. |
Jones, Margaret | Ganwyd 1850, Llangynwyd. Merch John & Elizabeth Jones. Ymfudodd y teulu o Aberpennar. Priododd ag Aaron Jenkins yn 1868. Bu farw: 1914, Y Wladfa |
Jones, John (jnr) | Ganwyd 1834, Y Pîl. Mab John & Elizabeth Jones. Ymfudodd y teulu o Aberpennar. |
Jones, Mary | Aberpennar. Gwraig John Jones. |
Jones, Thomas Harries | Aberpennar. |
Jones, Joseph Seth | Dinbych. |
Jones, Joshua | Cwmaman, Aberdâr. |
Jones, Mary | Aberpennar. |
Jones, Stephen | Caernarfon. Brawd Lewis Jones. |
Jones, William R. (Bedol) | Y Bala. |
Jones, Catherine | Y Bala. Gwraig William R. Jones (Bedol). |
Jones, Mary Ann | Y Bala. Merch William R. & Catherine Jones. |
Jones, Jane | Y Bala. Merch William R. & Catherine Jones. |
Jones, Richard (Berwyn) | Ganwyd: c. 1838, Tregeiriog (teulu o'r ardal Y Berwyn). Symudodd i Efrog Newydd, UDA. Criw - Cyfrifydd. Priodwyd: Elizabeth Pritchard, 25 Rhagfyr 1868, Rawson. Bu farw: 25 Rhagfyr 1917. |
Lewis, Anne | Abergynolwyn. |
Lewis, Mary | Aberpennar. |
Matthews, Abraham | Aberdâr. |
Matthews, Gwenllian | Aberdâr. Gwraig Abraham Matthews. |
Matthews, Mary Annie | Aberdâr. |
Morgan, John | Pen-y-Garn, Aberystwyth. |
Nagle, Robert F | Ganwyd: c. 1833, Abermaw. Criw - Stiward y teithwyr. Bu farw: Chwefror 1868 ar Y Denby |
Owen, Ann | Lerpwl. |
Price, Edward | Lerpwl. |
Price, Martha | Lerpwl. Gwraig Edward Price. |
Price, Edward | Lerpwl. Mab Edward & Martha Price. |
Price, Martha | Lerpwl. Merch Edward & Martha Price. |
Price, Griffith | Ffestiniog. |
Pritchard, Elizabeth | Caergybi. |
Rhys, James Berry | Ganwyd: c. 1842. Priodwyd: Grace Roberts, 3 Gorffennaf 1868, Glan Camwy. |
Rhys, William Thomas | Tregethin (neu Trefethin, ger Aberpennar?). |
Richards, William | Aberpennar |
Roberts, Elizabeth | Bangor. |
Roberts, Grace | Bethesda. Priodwyd: James Berry Rhys, 3 Gorffennaf 1868, Glan Camwy. |
Roberts, John Moelwyn | Ffestiniog. |
Roberts, John, | Ffestiniog. |
Roberts, Mary | Ffestiniog. Gwraig John Roberts. |
Roberts, Mary | Ffestiniog. Merch John & Mary Roberts. |
Roberts, Thomas | Ffestiniog. Mab John & Mary Roberts |
Roberts, John | Ffestiniog. Mab John & Mary Roberts |
Roberts, William | Seacombe, Lerpwl |
Solomon, Griffith | Ganwyd: c. 1841, Dolbenmaen. Priodwyd: Elizabeth Edwards, Ffestiniog, 1861. |
Solomon, Elizabeth | Gwraig Griffith Solomon. Ganwyd: c. 1835, Ffestiniog. |
Solomon, Elizabeth | Merch Griffith & Elizabeth Solomon. Ganwyd: 1864, Ffestiniog. Bu farw: 18 Gorffennaf 1864 ar y Mimosa. |
Thomas, John Murray | Ganwyd: 1847, Pen-y-bont ar Ogwr. Bu farw: 1924, Gaiman, Y Wladfa. |
Thomas, Robert | Bangor. |
Thomas, Mary | Bangor. Gwraig Robert Thomas. |
Thomas, Mary | Bangor. Merch Robert & Mary Thomas. |
Thomas, Catherine Jane | Bangor. Merch Robert & Mary Thomas. |
Thomas, Thomas | Aberpennar. |
Williams, Amos | Ganwyd: 1841, Llangïan. Criw - Cogydd y deithwyr. |
Williams, Eleanor | Gwraig Amos Williams. |
Williams, Elizabeth | Merch Amos & Eleanor Williams. |
Williams, Dafydd | Ganwyd: c. 1829, Aberystwyth. Bu farw: 1965, Y Wladfa. |
Williams, Jane | Lerpwl. |
Williams, John | Penbedw. Ganwyd yn Nolwyddelan, yn gysylltiedig â fferm Penrhiw. |
Williams, Elizabeth | Penbedw. Gwraig John Williams.Ganwyd yng Ngwalchmai. |
Williams, John | Penbedw. Mab John & Elizabeth Williams. |
Williams, Elizabeth | Penbedw. Merch John & Elizabeth Williams. |
Williams, Watkin William | Ganwyd: 1832, Abermaw. Yn fyw yn Lerpwl. |
Williams, Elizabeth Louisa | Chwaer Watkin William Williams. Ganwyd: 1838, Abermaw, Yn byw yn Lerpwl. |
Williams, Watkin Wesley | Brawd Watkin William Williams. Ganwyd: 1838, Abermaw. Yn byw yn Lerpwl. |
Williams, Catherine | |
Williams, Robert Meirion | Ganwyd: c. 1814, Llanfairfechan. |
Williams, Richard Howell | Ganwyd: 1847, Llanfairfechan. Mab Robert Meirion Williams. Priodwyd: 15 Mehefin 1867, Porth Madryn |
Williams, Thomas | Aberpennar. |
Williams, Mary | Ganwyd: c. 1810, Aberpennar. Bu farw: 1865. Rawson, Y Wladfa |
Williams, William | Lerpwl. |
Wood, Elizabeth | Lerpwl. |
Enw | Nodyn |
---|---|
Roberts, Edwyn Cynrig | Ganwyd: 28 Chwefror 1837, Cilcain. Ymfudodd y teulu i Wisconsin yn 1847. Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865. Priodwyd: Ann Jones, 19 Ebrill 1866. Dychwelodd i Gymru. Bu farw: 1893, Bethesda. |
Jones, Lewis | Ganwyd: 20 Ionawr 1836, Caernarfon. Priodwyd: Ellen Griffith, 1859, Sir Fôn. Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865. Bu farw 24 Tachwedd 1904, Trelew. Claddodd ym Mynwent Moriah yn y dre. Cyhoeddwr. |
Jones, Ellen | Lerpwl. Ganwyd: c. 1840, Niwbwrch. Gwraig Lewis Jones. Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865. |
Awdl
golyguYn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964, ‘Patagonia’ oedd testun yr awdl a'r enillydd oedd Richard Bryn Williams a ymfudodd o Flaenau Ffestiniog i Drelew, Chubut pan oedd yn saith mlwydd oed. Meddai Geraint Bowen, un o’r beirniaid: “Fel cynganeddwr, fel triniwr geiriau a lluniwr cerdd, y mae'n rhagori ar weddill yr ymgeiswyr.”
Dyma ran ohoni:
- Perffaith y gorwel porffor,
- Heulwen Mai ar lan y môr;
- Hwyl ar gwch fel aur a gwin
- Ar y lliwiog Orllewin;
- A daw o sisial y dŵr
- Heriol lais yr Arloeswr.
- Eiddil Fimosa drwy ddylif misoedd
- Hwyliai i’w hantur ar wamal wyntoedd.
- Ei chragen yn herio’r llydan foroedd,
- A rhoddwyd i’w llywio freuddwyd lluoedd:
- Anelu o fro’r niwloedd – digariad,
- A morio i wlad y mawr oludoedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Wilkinson, Susan (2007). Mimosa: The Life and Times of the Ship that Sailed to Patagonia. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. tt. 57–60, 69. ISBN 978-0-86243-952-1. Cyrchwyd 15 Chwefror 2011.
- ↑ Aberdeen City Council (2010). "Aberdeen Built Ships". Aberdeen Ships, Mimosa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 15 Chwefror 2011.
Llyfryddiaeth
golygu- Joseph Seth Jones, Dyddiadur Mimosa / El diario del Mimosa, gol. Elvey Mac Donald, Cyfres Dyddiaduron Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2002) [Cymraeg a Sbaeneg]
- Susan Wilkinson, Mimosa: The Life and Times of the Ship that sailed to Patagonia (Y Lolfa, 2007) [Saesneg]
- Susan Wilkinson, Mimosa's Voyages: Official Logs, Crew List and Masters (Y Lolfa, 2007) [Saesneg]
- Berwyn's Register, 1865 to 1875. http://www.argbrit.org/Patagonia/Berwynbirths.htm [Saesneg]