Lladin
Hen iaith Rhufain yw Lladin. Lladin oedd sylfaen yr ieithoedd Romáwns (Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Rwmaneg ayyb.), a chafodd gryn dipyn o ddylanwad ar ieithoedd eraill Ewrop. Defynyddid Lladin fel lingua franca ysgolheictod ledled Ewrop trwy'r oesoedd canol a'r dadeni dysg, ac yn oedfaon Eglwys Rufain hyd at 1962.
Enghraifft o'r canlynol | iaith farw, iaith yr henfyd, iaith, iaith litwrgaidd |
---|---|
Math | Latino-Faliscan, Ieithoedd De Ewrop |
Yn cynnwys | Gair lladin, gair Lladin neu Groeg |
Enw brodorol | Lingua latina |
cod ISO 639-1 | la |
cod ISO 639-2 | lat |
cod ISO 639-3 | lat |
Gwladwriaeth | y Fatican |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Pontificia Academia Latinitatis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golygu- Prif: Hanes Lladin
Mae Lladin yn aelod o gangen yr ieithoedd Italaidd. Yn y 9fed neu'r 8g CC, daeth llwythau â'r ieithoedd Italaidd i Benryn yr Eidal ac fe ddatblygodd y dafodiaith a siaredid yn Latium ar lân Afon Tiber yn Ladin yn ddiweddarach.
Er bod y rhan fwyaf o lenyddiaeth Rufeinig wedi'i hysgrifennu yn Lladin Clasurol, roedd y ffurf a siaredid yn Ymerodraeth Orllewinol Rhufain yn wahanol i Ladin Clasurol yn ei gramadeg, geirfa ac ynganiad, ac fe'i gelwir yn Lladin Llafar. Datblygodd y tafodieithoedd hyn i fod yr ieithoedd Romáwns.
Orgraff
golygu- Prif: Wyddor Ladin
Er mwyn ysgrifennu yn Lladin, defnyddiai'r Rhufeiniaid yr Wyddor Ladin, a darddodd o'r Hen Wyddor Italaidd, a darddodd o'r Wyddor Roeg yn wreiddiol. Heddiw mae'r Wyddor Ladin yn bucheddu fel systemau ysgrifennu'r ieithoedd Romáwns, Celtaidd, Germanaidd, rhai o'r ieithoedd Slafeg a rhan fwyaf o ieithoedd bychain y byd.
Ni ddefnyddiai'r Rhufeiniaid hynafol atalnodi ac felly byddai frawddeg a ysgrifennwyd yn wreiddiol fel:
- LVGETEOVENERESCVPIDINESQVE
yn cael ei hysgrifennu mewn argraffiad cyfoes fel:
- Lugete, O Veneres Cupidinesque
neu gyda macron
- Lūgēte, Ō Venerēs Cupīdinēs
sy'n cyfieithu i'r Gymraeg fel:
- Galar, O! gariadon a deheuadau!
Fel arfer ni roddwyd bylchau rhwng geiriau mewn dogfenni ffurfiol.
Etifeddiaeth
golyguPan ledai'r Ymerodraeth Rufeinig drwy Ewrop dechreuodd Lladin Llafar ddatblygu i mewn i dafodieithoedd gwahanol. Erbyn y 9g esblygasai Lladin Llafar i mewn i'r ieithoedd Romáwns. Am nifer o ganrifoedd yn ddiweddarach roedd yr Ieithoedd Romáwns yn ieithoedd llafar yn unig, gyda Lladin Clasurol yn cael ei defnyddio fel iaith ysgrifenedig o hyd. Er enghraifft defnyddid Lladin fel iaith swyddogol ym Mhortiwgal hyd nes 1296 pan gafodd ei disodli gan Bortiwgaleg.
Eidaleg yw'r iaith fwyaf ceidwadol yn ei geirfa Ladin,[1] a Sardiniaidd yw'r iaith fwyaf ceidwadol yn nhermau'i ffonoleg.[2]
Defnyddiwyd rhai o'r gwahaniaethau rhwng Lladin Clasurol a'r ieithoedd Romáwns i geisio ail-greu Lladin Llafar. Er enghraifft, mae gan yr ieithoedd Romáwns bwyslais ar sillafau penodol a oedd yn bresennol yn Lladin yn ogystal â'r hyd croyw ar lafariaid. Yn Eidaleg, mae yna hyd croyw ar gytseiniaid yn ogystal â phwyslais; yn Sbaeneg a Phortiwgaleg dim ond pwyslais croyw sydd; tra yn Ffrangeg nid yw hyd na phwyslais yn groyw rhagor. Gwahaniaeth mawr rhwng Lladin a Romáwns yw bod yr Ieithoedd Romáwns wedi colli'r holl ffurfdroadau cyflwr.[3]
Mae yna ychydig o eiriau Lladin yn Gymraeg, yn enwedig geiriau crefyddol; llyfr, beibl, eglwys, credo; yn ogystal â geiriau gwyddonol a fenthycwyd yn ddiweddar.
Gramadeg
golygu- Prif: Gramadeg Lladin
Mae Lladin yn iaith synthetig ac ymasiadol gyda lefelau uchel o ffurfdroad enwol a berfol. Mae enwau yn gogwyddo i mewn i 7 cyflwr; gwrthrychol, goddrychol, derbynniol, genidol, abladol, cyfarchol a chyfryngol (gyda ffurfiau lleol o rai enwau lleoedd yn Rhufain Hynafol); gyda phum grŵp gogwyddiad. Mae berfau Lladin yn ffurfdroi yn ôl person, amser a modd gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn cwympo i mewn i un o'r pedwar grŵp rhediad. Nid oes banodau gan Ladin ac felly ni wahaniaethir rhwng enwau pendant ac amhendant, er enghraifft fe ddefnyddir yr un gair i gynrychioli "y ferch" a "merch"; puella.
Y gystrawen gyffrednol yw Goddrych Gwrthrych Berf, ond mae'n newid yn aml ym marddoniaeth a rhyddiaith ar gyfer effaith neu bwyslais. Mae Lladin yn defnyddio rhagddodiaid ac fel arfer fe leolir ansoddeiriau ar ôl enwau. Yn aml fe ollyngir rhagenwau oherwydd fe ellir dadansoddi'r person o'r rhediad neu'r genedl; fe ddefnyddir rhagenwau ond pan nad yw'r ystyr yn hollol amlwg.
Brawddegau
golygu- Veni, vidi, vici: Deuthum, gwelais, trechais
- Da mihi cerevisiam celeriter: Rho imi gwrw yn gyflym
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Hydref 1996) Ethnologue: Languages of the World. Dallas, Texas: Ethnologue. ISBN 1-55671-026-7
- ↑ Foreign Languages: Italian Archifwyd 2008-08-20 yn y Peiriant Wayback, yn enewedig, "Sardinian in fact conserves many archaic features from Latin which disappeared in Italian, such as the hard k-sound in words like chelu, where Italian has cielo."
- ↑ "Columbia University Language Resource Center". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-18. Cyrchwyd 2021-04-18.