Cledwyn Jones
Addysgwr, canwr ac awdur o Gymru oedd Cledwyn Jones (2 Mehefin 1923 – 18 Hydref 2022). Roedd yn fwyaf adnabyddus fel aelod o Driawd y Coleg.
Cledwyn Jones | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mehefin 1923 Tal-y-sarn |
Bu farw | 18 Hydref 2022 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, llenor |
Ganwyd Cledwyn yn Nhal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, yn fab i chwarelwr. Wedi cyfnod gyda'r awyrlu mynychodd Goleg Prifysgol Bangor. Yno y cyfarfu â Meredydd Evans a Robin Williams gan ffurfio Driawd y Coleg - a daeth y tri yn gyfeillion oes.[1]
Wedi gadael y coleg, treuliodd dair blynedd fel athro yn ei hen ysgol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes, cyn treulio naw mlynedd yn Ysgol Friars, Bangor fel athro Addysg Grefyddol a Phennaeth yr Adran Gerddoriaeth. Ym 1961 penodwyd ef yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg y Santes Fair, Bangor i ddysgu Cymraeg a threfnu cerddoriaeth ar gyfer y gwasanaethau yn y capel. Cyn ymddeol treuliodd gyfnod byr fel darlithydd yn Adran Addysg y Brifysgol, Bangor.[2]
Yn 2003, ysgrifennodd y gyfrol Mi Wisga'i Gap Pig Gloyw am hanes J. Glyn Davies (Fflat Huw Puw) gan gynnwys llawer o’r caneuon, a’r cefndir iddynt. Yn 2009 cyhoeddodd hanes ei bentref enedigol Fy Nhalysarn I, gan ysgrifennu am atgofion ei blentyndod. Yn 2013 ymddangosodd Atgofion Awyrennwr, hanes ei gyfnod yn yr Awyrlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i Lleu, papur bro Dyffryn Nantlle.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Teyrngedau i Cledwyn Jones - un o Driawd y Coleg , BBC Cymru Fyw, 20 Hydref 2022.
- ↑ Llys-gennad Talysarn , DyffrynNantlle360, 20 Hydref 2022.