Balochistan (rhanbarth)
Rhanbarth lled-anial a leolir ar Lwyfandir Iranaidd de-orllewin a de Asia, rhwng Iran, Pacistan ac Affganistan yw Balochistan neu Baluchistan. Enwir y rhanbarth ar ôl llwythau niferus y Baloch (neu Baluch, Balouch, Balooch, Balush, Balosh, Baloosh, Baloush), pobl Iranaidd a symudodd i'r ardal o'r gorllewin tua 1000 OC. Yr iaith Balochi yw iaith y mwyafrif, ond mae rhai o frodorion Balochistan yn siarad Pashto, Perseg a Brahui fel mamiaith. Adnabyddir rhan ddeheuol Balochistan, ar lan Môr Arabia, fel Makran.
Math | rhanbarth, ardal ddiwylliannol, ardal hanesyddol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Baloch |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Iran, Affganistan, Pacistan |
Gerllaw | Môr Arabia |
Yn ffinio gyda | Khyber Pakhtunkhwa, Sindh, Punjab |
Cyfesurynnau | 28.88333°N 64.41667°E |
- Erthygl am y rhanbarth yw hon. Am ddefnyddiau eraill o'r enw gweler Balochistan.
Mudiadau dros ymreolaeth i Balochistan
golyguCeir sawl mudiad sy'n ymladd dros ymreolaeth i Balochistan neu rhannau ohoni:
Rhanbarthol |
Dwyrain Balochistan
|
Gorllewin Balochistan |
Gogledd Balochistan |
Gweler hefyd
golygu- Sistan a Baluchestan (Balochistan Iran)
- Balochistan (Pakistan)