Anton Bruckner
Cyfansoddwr o Awstria oedd Josef Anton Bruckner (4 Medi 1824 – 11 Hydref 1896). Ystyrir ef yn un o gyfansoddwyr pwysicaf ei gyfnod.
Anton Bruckner | |
---|---|
Ganwyd | 4 Medi 1824 Ansfelden |
Bu farw | 11 Hydref 1896 Fienna |
Man preswyl | Priordy Sant Florian, Fienna |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Awstria, Cisleithania |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, athro cerdd, organydd, academydd, athro |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Symffoni Rhif 3 (Bruckner), Symffoni Rhif 4 (Bruckner), Symffoni Rhif 5 (Bruckner), Symffoni Rhif 6 (Bruckner), Symffoni Rhif 7 (Bruckner), Symffoni Rhif 8 (Bruckner), Symffoni Rhif 9 (Bruckner), Symffoni Rhif 2 (Bruckner), Symffoni yn D leiaf (Bruckner), Symffoni Rhif 1 (Bruckner), Te Deum, Helgoland, Symffoni'r Astudiaeth |
Arddull | cerddoriaeth glasurol, symffoni |
Prif ddylanwad | Richard Wagner |
Gwobr/au | Knight's Cross of the Order of Franz Joseph, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Fienna |
llofnod | |
Ganed ef ym mhentref Ansfelden, yr hynaf o unarddeg o blant; roedd ei dad, hefyd Anton Bruckner, yn ysgolfeistr. Roedd canu'r organ yn rhan o ddyletswyddau ei dad fel ysgolfeistr, a dysgodd Anton yr organ yn ieauanc. Bu farw ei dad yn 1837. Wedi hyfforddi fel athro, bu Bruckner yn athro cynorthwyol ym mhentref Windhaag, ond aeth i drafferth trwy dreulio mwy o amser yn cyfansoddi cerddioriaeth nag yn gwneud ei waith, a symudwyd ef i Kronstorf.
Treuliodd ddeng mlynedd fel athro yn ysgol Sankt Florian o 1845 i 1855, ac yn raddol datblygodd o fod yn athro i fod yn gerddor proffesiynol. Ymhlith ei weithiau pwysig cynnar mae'r Requiem (1848). Yn 1855 bu farw organydd eglwys gadeiriol Linz, a chafodd Bruckner ei swydd. Yn y swydd yma, daeth i adnabod Otto Kitzler, a gyflwynodd gerddoriaeth Richard Wagner, a gafodd ddylanwad mawr arno. Perfformiwyd ei symffoni gyntaf am y tro cyntaf yn 1868.
Yn 1868, symudodd i Fienna i fod yn Athro yn y Konservatorium yno. Bu ar daith i roi perfformiadau ar yr organ yn Nancy a Paris yn 1869 a Llundain yn 1871. Cyfansoddodd gyfres o simffoniau, a gafodd dderbyniad cymysg, gyda rhai beiriniaid yn elyniaethus iawn. Cafodd ei 7fed Simffoni yn 1884 well derbyniad, a daeth nifer o anrhydeddau i'w ran yn y blynyddoedd nesaf. Bu farw yn Fienna yn 1896.
Gweithiau cerddorol
golyguCerddorfaol
golygu- Ouvertüre g-Moll (WAB 98), 1863
- Sinfonie f-Moll (WAB 99), 1863
- 1. Sinfonie c-Moll (WAB 101), 1866 (Linzer Fassung), 1890/91 (Wiener Fassung)
- Sinfonie B-Dur, 1869; nur Skizzen des 1. Satzes vorhanden
- Sinfonie d-Moll (WAB 100), 1869 (sog. Nullte [Annullierte])
- 2. Sinfonie c-Moll (WAB 102), 1872, 1877
- 3. Sinfonie d-Moll (WAB 103), 1873, 1877, 1889
- 4. Sinfonie Es-Dur (Die Romantische, WAB 104), 1874, 1878, 1880 (neues Finale), 1889
- 5. Sinfonie B-Dur (WAB 105), 1878
- 6. Sinfonie A-Dur (WAB 106), 1881
- 7. Sinfonie E-Dur (WAB 107), 1883
- 8. Sinfonie c-Moll (WAB 108), 1887, 1890
- 9. Sinfonie d-Moll (anorffenedig)
Lleisiol
golyguCrefyddol:
- Messe C-Dur für Alt, zwei Hörner und Orgel (WAB 25), 1842
- Requiem d-Moll (WAB 39), 1848/49
- Missa solemnis B-Dur (WAB 29), 1854
- Messe d-Moll (WAB 26), 1864
- Messe e-Moll für achtstimmigen Chor und Bläser (WAB 27), 1866
- Messe f-Moll (WAB 28), 1868
- Psalm 114, 1852
- Psalm 146, 1858
- Psalm 150 (WAB 38), 1892
- Te Deum (WAB 45), 1881, 1884
- Magnificat (WAB 24), 1852
- 4 Graduale (1869):
- Christus factus est
- Locus iste
- Os justi meditabitur sapientiam
- Virga Jesse floruit
- zahlreiche Motetten, darunter:
- Ave Maria
- Ecce sacerdos magnus
- Tota pulchra es Maria
- Vexilla regis prodeunt
Arall:
- Germanenzug für Männerchor und Bläser (WAB 70), 1864
- Helgoland für Männerchor und Orchester (WAB 71), 1893
- weitere (vorrangig Männer-) Chorstücke sowie einige Klavierlieder
Offerynnol
golygu- Streichquartett c-Moll (WAB 111), 1862
- Rondo c-Moll für Streichquartett, 1862
- Abendklänge für Violine und Klavier (WAB 110), 1866
- Streichquintett F-Dur (WAB 112), 1879
- Intermezzo d-Moll für Streichquintett (WAB 113), 1879